English en
Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Rheolwr Dysgu a Datblygu i gwmni bwyd, byddwch yn gyfrifol am holl ddysgu a datblygiad proffesiynol y gweithlu.

Mae’n rôl strategol a byddwch yn asesu lefelau sgiliau a gwybodaeth y staff ar bob lefel yn y cwmni ac yn cymryd y camau fydd eu hangen i gynnal a datblygu’r sgiliau hyn er budd eich cyflogwr.

Golyga hyn bennu’r mentrau hyfforddiant gorau i alluogi staff i wneud eu gwaith a datblygu eu gyrfaoedd yn y ffordd orau; fe allech ddylunio a darparu’r hyfforddiant hwn eich hun neu ddod ag arbenigwyr allanol i mewn fel y bo’r angen.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Mae’n debygol y bydd y swydd hon yn un sy’n is-sector benodol hyd yn oed o fewn y sector cynhyrchu bwyd ac mae lefel y cyfrifoldeb ac amrywiaeth y gweithgareddau’n ddibynnol ar y math o sefydliad a’i faint.

Fodd bynnag mae’n debygol y bydd y tasgau canlynol yn rhan o’r rôl:

  • Defnyddio offer dadansoddi swyddi, arfarniadau ac ymgynghoriadau â chydweithwyr i nodi anghenion hyfforddi a datblygu eich cwmni
  • Llunio rhaglenni hyfforddi a datblygu’n seiliedig ar yr anghenion a nodwyd
  • Cyllido’n effeithiol ar gyfer costau rhaglenni fydd wedi’u cynllunio a sicrhau bod y rhaglenni hyn yn dangos adenillion ar fuddsoddiad
  • Cynhyrchu defnyddiau hyfforddi ar gyfer cyrsiau mewnol fel y bo’r angen
  • Dyfeisio a gweithredu’r strategaeth ddysgu a datblygu ar gyfer y cwmni
  • Monitro ac adolygu’r strategaeth ddysgu gyffredinol a rhaglenni unigol yn barhaus a’u diwygio’r mwyn eu gwella os bydd angen
  • Cynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r holl ddatblygiadau perthnasol o ran dysgu a datblygu, yn y sector fwyd a sectorau eraill hefyd
  • Datblygu strategaethau dysgu a datblygu gan ddefnyddio technolegau newydd

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Fe fyddwch chi’n un o’r bobl hynny sy’n mwynhau gweithio â phobl: chi fydd hyrwyddwr y cwmni o ran dysgu a datblygu. Bydd hyn yn aml yn golygu gwerthu eich syniadau a newid syniadau sydd wedi’u mewnblannu yn y cwmni ar bob lefel felly bydd eich sgiliau cyfathrebu’n eithriadol, yn ogystal â’ch gallu i ddatrys problemau.

Bydd yn rhaid i chi fod ag egni a brwdfrydedd mewn rôl fel hyn ac fe ddisgwylir i chi ddangos ymrwymiad personol i’ch datblygiad eich hun yn ogystal â datblygiad pawb arall.

Bydd angen i chi fod yn berson arloesol sydd ddim yn ofni beirniadaeth ac sy’n gallu addasu i syniadau newydd a gallu alinio eich strategaeth i gynlluniau tymor hir y busnes. Golyga hynny ddeall y busnes yn llwyr.

Beth alla i ddisgwyl?

Golyga natur strategol y swydd y byddwch yn debygol o weithio 9am tan 5pm er bod oriau ychwanegol yn arferol mewn swydd ar lefel uwch mewn cynhyrchu bwyd gyda chyfarfodydd etc yn cael eu cynnal bob pen i’r diwrnod.

Os ydych chi’n gweithio i gyflogwr ar sawl safle gallwch ddisgwyl teithio cryn dipyn wrth i chi gydlynu’r dysgu a’r datblygu yn y cwmni drwyddo draw.  Gall hynny fod yn heriol os ydych chi’n cael eich cyflogi mewn busnes sydd wedi tyfu’n gyflym drwy brynu busnesau eraill.

Beth am y cyflog?

Mae rôl y Rheolwr Dysgu a Datblygu’n debygol o fod yn rôl uwch yn y cwmni ac ar gael yn amlach gan y cyflogwyr mwy yn y sector.

Gyda phrofiad blaenorol dylech ddisgwyl ennill rhwng £40,000 a £60,000 yn y rôl yma mewn cwmni cynhyrchu bwyd, yn dibynnu ar y sector a lefel eich cyfrifoldeb.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Bydd arnoch angen gradd a llawer o brofiad blaenorol perthnasol os oes arnoch eisiau swydd rheolwr Dysgu a Datblygu.

Mae pynciau fel Rheoli Adnoddau Dynol, Busnes a Seicoleg yn gyffredin i rywun sy’n cychwyn ar eu hyfforddiant mewn rôl ar lefel is. I weithiwr yn y sector bwyd mae cymhwyster sy’n ymwneud â bwyd yn ddefnyddiol hefyd.

Mae mynediad at hyfforddiant a datblygu’n bosib heb radd, yn enwedig os oes gennych brofiad a sgiliau perthnasol.

Beth am hyfforddiant pellach?

Er nad yw cymhwyster ôl-raddedig yn angenrheidiol, bydd gradd Meistr neu ddiploma a gydnabyddir gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn gwella rhagolygon eich gyrfa.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tystysgrif Sylfaenol Lefel 3 CIPD mewn Arferion Adnoddau Dynol
  • Cwrs CIPD Lefel 3 mewn Arferion Dysgu a Datblygu

Yn ogystal mae nifer o gymwysterau rhan-amser gwahanol y gallwch ddewis ohonyn nhw ac mae’r rhain yn amrywio o rai sy’n eang i rai sy’n benodedig i’r rôl – eich dewis chi a’ch cyflogwr yw hynny!

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Yn aml bydd arbenigedd mewn hyfforddiant a datblygu’n dilyn profiad personél cyffredinol, ac ni fydd graddedigion newydd yn cael eu recriwtio’n syth i rôl hyfforddi. Mae hefyd yn eithaf cyffredin gweithio eich ffordd i fyny o swyddogaethau fel swyddog hyfforddi cynorthwyol neu gynorthwyydd gweinyddol.