English en
Cydlynydd Dysgu a Datblygu

Beth yw’r swydd?​

Fel Cydlynydd Dysgu a Datblygu yn gweithio mewn amgylchedd cynhyrchu bwyd, chi fydd yn gyfrifol am sicrhau fod pawb yn y cwmni, o’r staff ar frig y cwmni i staff y ffatri, yn cael eu hannog i wneud eu hunain mor ddefnyddiol â phosib i’r cwmni trwy ddysgu a datblygu.

Byddwch yn asesu lefel sgiliau a gwybodaeth y staff ar bob lefel o’r cwmni ac yn gweithredu yn ôl yr angen i gynnal a datblygu’r sgiliau hyn er budd y cyflogwr.

Byddwch yn gyfrifol am yr holl waith gweinyddol sy’n angenrheidiol i sicrhau bod yr holl raglenni hyfforddiant yn llwyddiannus.

Beth allaf fod yn ei wneud?​

Bydd hyn yn amrywio yn ôl cwmni ac yn dibynnu pa un a oes gennych chi’r cyfrifoldebau sylfaenol neu a ydych adrodd at reolwr Dysgu a Datblygu. Mae’r rôl yn debygol o gynnwys y cyfrifoldebau canlynol:

  • Rheoli agweddau gweithredol a gweinyddol o ddysgu a datblygu a sicrhau bod cyrsiau yn cael eu rhedeg yn ôl yr amserlen a’r gyllideb.
  • Cydlynu gweithgareddau hyfforddwyr
  • Cynorthwyo gyda chynllunio a datblygu rhaglenni dysgu a datblygu addas
  • Sicrhau bod darpariaeth y rhaglenni yn cwrdd ag anghenion dysgwyr
  • Sicrhau fod darparwyr allanol yn darparu hyfforddiant sy’n cwrdd ag anghenion y cwmni
  • Cynhyrchu deunydd ar gyfer darpariaeth fewnol
  • Cynorthwyo gyda datblygu strategaeth dysgu a datblygu’r cwmni
  • Rheoli ei ddysgu ei hun a dysgu fewn yr adran hyfforddi fel bod yr holl staff wedi’u diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau.
  • Ysgrifennu a chyflwyno argymhellion ac adroddiadau i uwch reolwyr
  • Gwerthuso’r holl weithgareddau hyfforddi i sicrhau bod targedau wedi cael eu cyflawni

Beth sy’n ddisgwyliedig ohonof?​

Byddwch yn berson sy’n mwynhau cysylltu ag aelodau staff eraill trwy drafodaethau, cyfarfodydd a hyfforddiant.

Fel aelod o adran sy’n debygol o fod yn fach, bydd angen i chi fod yn drefnus iawn a rheoli eich amser yn effeithiol; er y byddwch yn adrodd i aelodau staff uwch bydd gennych lawer o ryddid a bydd disgwyl i chi weithio’n annibynnol gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.

Fel cynrychiolydd o’r busnes, bydd disgwyl i chi ymddwyn yn broffesiynol bob amser, yn enwedig wrth ddelio â chysylltiadau allanol.

Byddwch yn arbenigwr ar holl agweddau AD a materion Dysgu a Datblygu sy’n berthnasol i’ch swydd, yn ogystal â bod yn brofiadol gyda rhaglenni cyfrifiadurol y byddwch yn eu defnyddio i gynllunio a darparu hyfforddiant.

Beth allaf ei ddisgwyl?​

Yn gyffredinol, byddwch mwy na thebyg yn gweithio rhwng 9am a 5pm, ond bydd disgwyl i chi reoli eich amser er mwyn sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei gynnal ar adegau sy’n addas i waith sifft.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr sydd â safleoedd gwahanol, gallwch ddisgwyl tipyn o deithio yn eich swydd fel cydlynydd dysgu a datblygu.  

Beth am y cyflog?​

Gallwch ddisgwyl ennill rhwng £20,00 a £25,000 am y rôl hon mewn cwmni cynhyrchu bwyd gan ddibynnu ar y sector a lefel eich cyfrifoldebau.

Mae yna lawer o gyfleoedd am ddyrchafiad  yn y swydd hon a gallwch ennill swm sylweddol yn fwy na’r ffigwr uchod gyda phrofiad a chanlyniadau da.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?​

Byddwch, mwy na thebyg, wedi dechrau yn yr adran AD neu rôl benodol arall yn y cwmni; mae hyn yn golygu y byddwch naill ai wedi dechrau gyda gradd neu wedi gweithio eich ffordd i fyny o’r gwaelod gan gwblhau cymwysterau rhan amser ar hyd y ffordd (gallai’r rhain gynnwys cymwysterau Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch a fydd yn eich galluogi i ddechrau gyda darparu hyfforddiant ar sail ran amser o fewn y busnes).

Ar gyfer rhywun newydd, mae’n debygol y bydd angen o leiaf cymhwyster gradd i ddechrau yn y swydd ac mae pynciau fel Rheolaeth Adnoddau Dynol, Busnes a Seicoleg yn gyffredin ar gyfer rhywun sy’n dechrau mewn swydd dan hyfforddiant.

Fel gweithiwr yn y sector bwyd, byddai cymhwyster yn ymwneud â bwyd hefyd yn ddefnyddiol.

Beth am hyfforddiant pellach?​

Er nad yw cymhwyster ôl-raddedig yn angenrheidiol, byddai gradd Meistr neu ddiploma sy’n cael ei gydnabod gan y CIPD yn gwella eich rhagolygon gyrfa:

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tystysgrif Sylfaen CIPD Lefel 3 mewn Arferion AD
  • Cwrs CIPD Lefel 3 mewn Arferion Dysgu a Datblygu

Hefyd, mae llawer o wahanol gymwysterau rhan amser y gallech eu dewis ac mae’r rhain yn amrywio o fod yn gyffredinol i fod yn benodol i rôl- mae’n gwbl i fyny i chi a’ch cyflogwr.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?​

Oes, nid yw rôl Cydlynydd Dysgu a Datblygu yn debygol o fod yn addas ar gyfer person graddedig neu rywun sydd newydd adael yr ysgol ond, yn hytrach, yn fwy addas ar ôl ychydig flynyddoedd o brofiad, naill ai’n darparu hyfforddiant neu’n gweithio mewn rhan arall o’r adran AD.

Felly, efallai y byddwch yn dechrau eich gyrfa fel swyddog neu weinyddwr AD gan ennill cymwysterau perthnasol ar sail rhan amser; bydd y rhain yn addas ar gyfer bod yn Gydlynydd Dysgu a Datblygu.