English en
TECHNEGYDD TG

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Technegydd TG byddwch yn gofalu am faterion meddalwedd a chaledwedd ar ran defnyddwyr cyfrifiaduron o fewn eich cwmni.

Byddwch yn canfod ac yn gwneud diagnosis o broblemau cyfrifiadurol, monitro systemau TG y cwmni, gosod offer, ac yn sicrhau bod popeth yn gweithio fel y dylai.

Chi fydd un o arbenigwyr y cwmni o ran pob agwedd o ddefnyddio TG a bydd pawb yn dibynnu arnoch i sicrhau bod eich problemau’n cael eu datrys cyn gynted â phosibl.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Mae’r union rôl yn amrywio o gwmni i gwmni, ond mae’n debygol o gynnwys y rhan fwyaf os nad pob un o’r canlynol:

  • Gwneud diagnosis ac adfer unrhyw broblemau sy’n cael eu hadrodd
  • Atgyweirio offer, gan gynnwys argraffwyr a pheiriannau sganio
  • Uwchraddio meddalwedd a chaledwedd TG y cwmni
  • Gwasanaethu offer a datrys problemau er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau posibl
  • Cofnodi pob problem er mwyn canfod unrhyw batrymau o ran problemau sy’n codi
  • Gosod offer a systemau newydd a hyfforddi staff fel bo’r angen
  • Gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella arferion gwaith o ran defnyddio TG
  • Cadw copïau wrth gefn o bob gwybodaeth ddefnyddiol
  • Sicrhau bod gweithdrefnau diogelwch TG y cwmni’n addas at y diben
  • Ymdrin â chwsmeriaid a chyflenwyr allanol

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Fel Technegydd TG mewn cwmni Gweithgynhyrchu Bwyd, bydd angen dealltwriaeth eang o systemau cyfrifiadurol arnoch, ynghyd â llawer iawn o wybodaeth ynglŷn â rhwydweithio, caledwedd a meddalwedd.

Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â holl systemau a gweithdrefnau TG y cwmni gan mai eich cyfrifoldeb chi yn y pen draw fydd sicrhau bod y rhain yn gweithio’n iawn.

Yn ogystal â gwybodaeth dechnegol, bydd disgwyl i chi allu gweithio dan bwysedd, yn enwedig pan fo problemau’n codi a bod angen eu datrys ar frys.

Ac wrth gwrs, bydd angen i chi allu rhoi eglurhad o atebion i broblemau i staff nad ydynt yn dechnegol, sy’n golygu bod angen gallu ieithyddol da a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda phob un y byddwch yn cysylltu â nhw.

Er y byddwch yn debygol o fod yn rhan o dîm o arbenigwyr TG, gall fod achlysuron lle bydd angen i chi weithio ar eich pen eich hun (er enghraifft dros gyfnodau sifft) felly mae’n rhaid i chi feddu ar gymhelliant i aros yn brysur.

Beth alla i ddisgwyl?

Byddwch yn gweithio 37-40 awr yr wythnos, er bod nifer o gwmnïau’n gweithio sifftiau a phenwythnosau, felly mae’n bosib y byddwch yn gorfod bod ar gael neu’n cael eich cyflogi’n benodol i weithio tu allan i oriau swyddfa arferol.

Mae’n debygol y byddwch yn gweithio o swyddfa fel arfer, ond byddwch yn treulio llawer o amser mewn adrannau eraill o fewn y cwmni.

Yn ogystal â hynny, mae’n bosib y bydd y swydd yn golygu eich bod yn treulio amser ar safleoedd eraill y cwmni, neu gyda chyflenwyr neu gwsmeriaid allanol.

Beth am y cyflog?

Mae’r cyflogau’n amrywio o gwmni i gwmni ac o sector i sector, ond mae angen arbenigwyr TG ar bron iawn bob cyflogwr; golyga hynny y byddwch yn debygol o dderbyn cyflog da.

Bydd nifer o dechnegwyr TG yn cychwyn ar gyflog o £18,000 i £22,000 ac, wrth i chi fagu profiad ac arbenigedd, bydd y cyflog yn codi tuag at £30,000.

Noder mai canllaw yn unig yw’r ffigyrau hyn, a bydd rhai cyflogwyr yn talu mwy nag eraill am swydd debyg.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Mae nifer o gymwysterau y gallech eu hystyried a allai ddarparu digon o ddealltwriaeth i gychwyn fel Technegydd TG dan hyfforddiant.

Dyma rai enghreifftiau o gymwysterau a allai fod o ddiddordeb i chi:

  • Gradd Sylfaen mewn Cyfrifiadureg/ a Systemau Rhwydweithio
  • Diploma estynedig Lefel 3 mewn TG
  • Diploma BTEC Lefel 3 mewn cyfrifiadureg

Gallech hefyd ystyried cwblhau Prentisiaeth mewn maes sy’n gysylltiedig â TG a allai ddarparu gwaith cyflogedig yn ogystal â chymwysterau.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae’r sector TG yn un sy’n newid yn sydyn iawn felly mae angen i chi allu parhau i ddatblygu eich sgiliau wrth i chi symud ymlaen â’ch gyrfa.

Dylech holi beth sydd ar gael yn eich colegau a’ch prifysgolion lleol a chwblhau hyfforddiant pellach - er enghraifft os byddwch yn dechrau gyda Phrentisiaeth, beth am  ystyried gradd sylfaen neu radd anrhydedd?

Neu os byddwch wedi dechrau gweithio ym maes TG ar ôl graddio, beth am ystyried cwblhau gradd meistr?

Yn olaf, gallech ystyried aelodaeth o gorff megis Sefydliad Siartredig TG a allai gynnig llwybr cynnydd i’w dilyn yn eich gyrfa, ynghyd â manteision eraill.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae rôl Technegydd TG yn un sy’n hanfodol ar gyfer rhedeg unrhyw safle gweithgynhyrchu mewn modd effeithiol, ac nid yw’r diwydiant bwyd yn wahanol yn hynny o beth.

Peidiwch â meddwl nad oes angen arbenigwyr TG ym maes gweithgynhyrchu bwyd – mewn gwirionedd, mae’r sector yn un o’r cyflogwyr mwyaf o weithwyr TG yn y DU!