English en
Datblygwr Systemau TG

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Datblygwr Systemau sy’n gweithio mewn cwmni bwyd, byddwch yn gyfrifol am wella systemau TG y cwmni ac ymgorffori technoleg newydd fel bo’r angen.

Golyga’r gwelliannau hyn ddiweddaru systemau TG presennol yn ogystal â chynhyrchu, gosod a gweithredu systemau cyfrifiadur newydd, rhwydweithiau a meddalwedd cysylltiedig.

Byddwch hefyd yn cynghori ac yn cymeradwyo gwelliannau ar gyfer datblygiadau TG y dyfodol.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Mae hynny’n dibynnu ar y cwmni bwyd y byddwch yn gweithio iddo ond mae’r dyletswyddau canlynol yn debygol o fod yn gyffredin waeth ble y byddwch yn gweithio:

  • Dadansoddi systemau TG cyfredol a nodi gwelliannau
  • Ysgrifennu meddalwedd a datblygu manylebau technegol a llawlyfrau gweithredu
  • Profi systemau TG y cwmni i sicrhau gweithrediad effeithiol
  • Hyfforddi defnyddwyr TG a darparu cymorth systemau parhaus
  • Canfod diffygion a thrwsio fel y bo’r angen
  • Cysylltu â chydweithwyr y tîm TG a hefyd staff eraill y cwmni
  • Ymchwilio, cymeradwyo a gweithredu systemau cyfrifiadur newydd
  • Cydlynu cysondeb rhwng systemau TG yn y cwmni drwyddo draw
  • Gweithio â chyflenwyr TG 3ydd parti

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Yn amlwg, bydd angen i chi fod â gwybodaeth eang o systemau TG ac yn meddu ar sgiliau technegol o radd uchel; bydd yn bwysig hefyd i barhau i ddiweddaru’r wybodaeth hon er mwyn i chi aros ar y blaen o ran pob datblygiad newydd ym maes TG.

Yn ogystal â hyn bydd angen i chi allu cyfathrebu’r wybodaeth hon i eraill sydd ddim mor hyderus gyda thechnoleg â chi.

Bydd angen i chi fod yn greadigol, yn ddadansoddol ac yn drefnus a gallu rhoi sylw mawr i fanylion, gallu datrys problemau’n gyflym ac yn effeithiol.

Yn fwy cyffredinol bydd angen i chi hefyd fod yn weithiwr tîm da ac yn rhywun sy’n wastad yn ymwybodol nid dim ond o ddatblygiadau TG ond hefyd o newidiadau penodol yn y diwydiant bwyd a’r ffordd y bydd y rhain yn effeithio ar rôl datblygwr systemau TG.

Beth alla i ddisgwyl?

Yr oriau gwaith nodweddiadol yw 9ybtan 5yp. Ond, bydd oriau hirach yn angenrheidiol tua diwedd prosiectau, wrth i derfynau amser nesáu, a hefyd yn ystod y cyfnod profi er mwyn gallu profi’r system pan na fydd yn cael ei defnyddio.

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd angen i ddatblygwyr systemau fod ar alwad i ddelio â phroblemau. Gall hynny olygu gweithio gyda’r nos ac ar benwythnos mewn patrwm sifft.

Mewn swyddfa y mae’r gwaith gan fwyaf neu mewn labordai cyfrifiaduron, er bod gweithio o bell - yn amser-llawn ac yn rhan-amser - yn dod yn gynyddol gyffredin.

Beth am y cyflog?

Bydd cyflogau cychwynnol nodweddiadol datblygwr systemau graddedig yn amrywio o £22,000 i £27,500 y flwyddyn.

Cyflog blynyddol cyfartalog datblygwr systemau yw £36,500 - £50,000.

Ar lefel uwch neu lefel rheolaeth, gall datblygwyr systemau ennill £45,000 - £70,000 neu fwy'r flwyddyn.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Er bod y maes gwaith yma’n agored i bawb sydd â gradd, disgwylir i ymgeiswyr fod â rhywfaint o allu technegol. Gallai’r pynciau canlynol gynyddu eich siawns:

  • Gwyddor cyfrifiadur
  • Systemau gwybodaeth
  • Meddalwedd cyfrifiadurol/peirianneg systemau cyfrifiadura
  • Electroneg
  • Mathemateg
  • Ffiseg

Fe allech hefyd fod angen y priodoleddau canlynol:

  • Gwybodaeth eang o brosesu data, platfformau caledwedd, a chymwysiadau meddalwedd busnes.
  • Profiad technegol o ran rhwydweithio systemau, cronfeydd data, datblygu Gwe, a chymorth i ddefnyddwyr.
  • Cefndir da mewn dylunio Cronfa Ddata mewn Microsoft SQL ac Access.
  • Cefndir mewn Microsoft .NET, Visual Basic, Excel, Word, Outlook ac HTML.
  • Sgiliau da wrth weithio gyda Chynnyrch Microsoft Office, Microsoft Visio, a Microsoft Project.
  • Byddai gwybodaeth weithio o Citrix Metaframe XP, Blackbaud Raisers Edge a Financial Edge yn ddefnyddiol
  • Sgiliau cadarn o ran rheoli prosiect gyda chanlyniadau effeithiol o fewn amgylchedd systemau gwybodaeth.
  • Sgiliau dadansoddol cadarn a sgiliau datrys problemau.
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu safonau, gweithdrefnau a chanllawiau i gefnogi prosesau gweithredol.
  • Yn berson hunanysgogol gyda’r gallu i flaenoriaethu, cyfarfod â therfynau amser, a rheoli blaenoriaethau sy’n newid;
  • Gallu sydd wedi’i brofi i fod yn hyblyg a gweithio’n galed, yn annibynnol ac mewn amgylchedd tîm, mewn amgylchedd ar alw o bwysau uchel gyda blaenoriaethau sy’n newid.
  • Parodrwydd i weithio’n achlysurol y tu allan i oriau busnes arferol.
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg.

Gradd ôl-uwchradd mewn cyfrifiadureg neu faes cysylltiedig neu gyfuniad o brofiad perthynol ac addysg.  

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae’n hanfodol cadw gwybodaeth gyfredol ynglŷn â newidiadau a datblygiadau yn y diwydiant, a allai olygu mentro a bod yn gyfrifol am ddiweddaru eich sgiliau a’ch gwybodaeth dechnegol.

Bydd cyflogwyr mawr sy’n cyflogi graddedigion yn aml yn cynnig rhaglen strwythuredig lle byddwch yn ennill profiad mewn nifer o brosiectau sy’n ymwneud â thimau mewn gwahanol feysydd gwaith. Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau’n cynnig hyfforddiant parhaus, un ai’n fewnol neu drwy gyrsiau allanol.

Ceir gwahanol lefelau o ddatblygwyr systemau, a bydd dyrchafiad fel rheol yn dibynnu ar allu a phrofiad.

Gallai graddedigion mewn pynciau sydd ddim yn berthynol i gyfrifiaduron ystyried dilyn cwrs trawsnewid TG ôl-raddedig neu gwrs ôl-raddedig technegol.  Bydd llawer o gyflogwyr yn chwilio hefyd am dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus y tu allan i’r ystafell ddosbarth a gall profiad o raglennu prosiectau ddarparu tystiolaeth dda yn ystod y broses ymgeisio i ddangos fod ymgeisydd yn meddu ar sgiliau technegol ond yn dangos sgiliau da o ran datrys problemau’n effeithiol hefyd.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Mae yna ragolygon gwych ar gyfer dyrchafiad ar gyfer gweithwyr sy’n fodlon symud i swyddi rheoli neu i newid swydd yn rheolaidd.

Nid yw teitlau a disgrifiadau swyddi mewn TG wedi’u safoni.  Efallai y bydd datblygwyr systemau’n cael eu galw’n rhaglenwyr systemau, peirianwyr, neu ddatblygwyr gwe. Gall gwaith datblygwr systemau hefyd fod yn rhan o rôl peiriannydd meddalwedd neu raglennydd amlgyfryngau.