Beth yw’r swydd?
Mae eich swydd fel Rheolwr Gwasanaethau TG yn golygu y byddwch yn arwain tîm TG eich cwmni (neu efallai uned neu safle busnes), felly mae hon yn rôl ar lefel uwch.
Byddwch yn cynllunio, datblygu a goruchwylio gwaith cynnal a chadw ar holl wasanaethau TG eich cwmni.
Mae’n swydd ragweithiol iawn a bydd angen i chi fedru adnabod problemau posibl cyn iddynt godi; os nad yw hyn yn bosibl yna eich cyfrifoldeb chi fydd rheoli rhaglen cywiro diffygion sy’n addas ac yn effeithiol.
Beth allaf fod yn ei wneud?
Byddwch yn arwain tîm o arbenigwyr TG proffesiynol a fydd yn gweithio gyda holl agweddau TG y cwmni bwyd sy’n eich cyflogi; bydd y rhain yn cynnwys nodweddion rhai o’r rolau TG eraill sydd ar y wefan hon a dylech ymweld â nhw am fanylion pellach.
Byddwch yn gyfrifol am o leiaf rhai o’r dyletswyddau canlynol o ddydd i ddydd:
- Arwain a rheoli tîm o arbenigwyr TG y cwmni
- Ehangu isadeiledd TG y cwmni drwy gynllunio a gweithredu gwelliannau neu brynu systemau newydd
- Goruchwylio prosiectau TG yn gyffredinol ar y cyd â Rheolwr/Rheolwyr Prosiectau TG
- Rhoi polisïau a gweithdrefnau perthnasol ar waith er mwyn canfod a datrys problemau perthnasol
- Gwerthuso systemau a gweithdrefnau perthnasol a fydd yn gwella gweithrediadau TG y cwmni
- Darparu cyswllt lefel uchel â phartneriaid allanol a sicrhau bod hyn yn gweithio’n effeithiol
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
Y ffordd hawsaf o ystyried beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch yw rhannu’r rôl yn ei dair rhan fel a ganlyn:
- Bydd disgwyl bod gennych lawer o brofiad ac arbenigedd ym maes TG – wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu mai chi yw’r arbenigwr ar holl faterion TG, ond yn hytrach, bod aelodau eich tîm yn arbenigo arnynt a’ch bod yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu.
- O ran eich sgiliau gwasanaeth, bydd angen i chi ganolbwyntio ar anghenion eich cwsmeriaid, boed yn gydweithwyr o fewn y cwmni neu’n bartneriaid allanol o gadwyn gyflenwi’r cwmni.
- Mae hyn hefyd yn golygu bod disgwyl i’ch sgiliau cyfathrebu fod i’r safon uchaf posib wrth i chi ddelio â’ch tîm yn ogystal â chynnwys rheolwyr y cwmni a sicrhau eu bod yn cytuno â’ch syniadau
- Y drydedd rhan yw rheoli, wrth gwrs, ac fel Rheolwr Gwasanaethau TG bydd angen i chi fod yn arweinydd gwych a rheoli pobl yn ardderchog.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Gallwch ddisgwyl gweithio oriau swyddfa h.y. rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener – ond mewn swydd uwch fel hon, y gofyniad yw bod y gwaith yn cael ei gwblhau felly mae gweithio oriau ychwanegol yn gyffredin.
Hefyd, bydd angen i chi deithio rhywfaint gan ddibynnu ar strwythur TG eich cwmni ac amrywiaeth eich cyfrifoldebau.
Beth am y cyflog?
Mae hon yn swydd uwch felly bydd eich cyflog yn adlewyrchu hyn ac yn debygol o fod dros £50,000
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Mae’n annhebygol iawn y byddwch yn dechrau eich gyrfa mewn swydd rheolwr; yn hytrach, byddwch wedi dechrau fel hyfforddai ar ôl cyflawni’r cymwysterau TG perthnasol ac yn gweithio’ch ffordd i fyny wrth i chi ddatblygu profiad ac arbenigedd.
Mae enghreifftiau o gymwysterau cyfrifiadureg perthnasol yn cynnwys graddau BSc cyfrifiadureg, technolegau gwybodaeth, peirianneg gyfrifiadurol a thechnoleg gwybodaeth busnes.
Os ydych wedi dechrau eich gyrfa fel Technegydd TG neu mewn rôl debyg, efallai y byddwch wedi dechrau gyda chymhwyster Lefel 3 neu Lefel 4 ac am fwy o wybodaeth ewch i rôl y Technegydd TG.
Beth am hyfforddiant pellach?
Er mwyn sicrhau swydd Rheolwr Gwasanaeth TG, bydd angen cymwysterau sy’n benodol ar gyfer y diwydiant TG yn ogystal â gradd.
Efallai y byddwch hefyd yn ystyried cymwysterau trwy ymaelodi â chorff proffesiynol fel Sefydliad Siartredig TG.
Bydd y math o hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar faint o brofiad sydd gennych mewn TG a rolau rheoli TG nad ydynt yn berthnasol.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Oes, fel rheolwr gwasanaethau TG byddwch yn debygol o fod yn aelod o uwch dîm rheoli’r cwmni, ac efallai hyd yn oed mewn safle cyfarwyddwr, felly bydd yr holl gyfrifoldebau TG ar eich ysgwyddau chi!
Wrth i TG ddod yn gynyddol bwysig yn y sector bwyd, bydd eich cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa’n ddiddiwedd!