English en
Rheolwr Prosiectau TG

Beth yw’r swydd?

Byddwch yn goruchwylio’r broses o gynllunio, datblygu a gosod systemau TG wedi’u diweddaru a systemau newydd sbon sy’n cwrdd ag anghenion y cwmni bwyd sy’n eich cyflogi.

Bydd angen i chi sicrhau bod popeth sy’n ymwneud â’ch prosiect TG yn cael ei gydlynu’n effeithiol ac yn rhedeg yn ôl yr amserlen a’r gyllideb.

Bydd y rôl yn addas ar gyfer person trefnus iawn sy’n mwynhau datrys problemau, ond wrth gwrs, mae gwybodaeth TG yn hanfodol. 

Beth allaf fod yn ei wneud?

Gallai’r gweithgareddau amrywio’n fawr gan ddibynnu ar ba gam y mae eich prosiect; ac wrth gwrs, bydd maint y prosiect hefyd yn effeithio ar y gweithgareddau- os ydych yn rheoli prosiect cyfyngedig tymor byr, yna efallai y byddwch yn weithgar iawn o fewn y prosiect; mae hyn yn llai tebygol os ydych yn rheoli prosiect mawr sydd â llawer o adnoddau. Beth bynnag ei faint, bydd angen i chi fod â gwybodaeth dechnegol dda.

Mae eich dyletswyddau’n debygol o gynnwys o leiaf rhai o’r canlynol:

  • Canfod yr hyn sydd ei angen gan brosiect TG
  • Creu amlinelliad o brosiect ac asesu’r goblygiadau
  • Cynllunio pob cam o’r prosiect TG
  • Sefydlu tîm a’i arwain trwy bob cam o’r prosiect
  • Gwneud addasiadau yn ôl yr angen
  • Adrodd ar gynnydd prosiect i uwch reolwyr y cwmni
  • Gwerthuso camau’r prosiect ar ôl ei gwblhau a sicrhau bod terfynau amser a thargedau y cytunwyd arnynt wedi’u cyflawni ar gyfer yr allbynnau a’r cyllidebau
  • Ysgogi tîm o arbenigwyr a sicrhau bod y tîm yn cadw ffocws

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Bydd angen arbenigedd TG arnoch yn gyffredinol, a bydd hyn yn debygol o fod wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd o brofiad. Dyma’r gofyniad lleiaf posib ar gyfer swydd rheolwr prosiect TG. Mae’r canlynol hefyd yn debygol o fod yn ddisgwyliedig:

  • Sgiliau trefnu ac arwain
  • Sgiliau cyfathrebu a’r gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth mewn ffordd sy’n ddealladwy i bobl nad ydynt yn arbenigwyr
  • Sgiliau datrys problemau a natur drefnus
  • Sgiliau rheoli amser er mwyn cwrdd â therfynau amser
  • Gwybodaeth dda o’ch cwmni bwyd a dealltwriaeth o ofynion masnachol eich busnes
  • Mae bod yn ddiplomataidd a phwyllog yn bwysig yn enwedig wrth ddatblygu prosiect allan o syniad rhywun arall.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Mae eich oriau gwaith yn debygol o fod rhwng 8am a 6pm er ei fod yn bosib y bydd angen i chi weithio oriau ychwanegol, yn enwedig pan fydd terfynau amser yn dynn; byddwch yn gweithio 40 awr yr wythnos fel arfer gan ddibynnu ar ofynion eich cyflogwr.

Mae gan nifer o gwmnïau bwyd safleoedd gwahanol felly byddwch yn gwneud rhywfaint o deithio’n gyson, yn enwedig pan fydd angen cydlynu systemau gwahanol o fewn un prosiect TG.

Beth am y cyflog?

Bydd eich cyflog yn dibynnu ar raddfa a chymhlethdod y prosiectau TG rydych chi’n gweithio gyda nhw.

Mae hon yn swydd ar gyfer rhywun sydd â phrofiad felly mae cyflog cychwynnol o £25,000 yn ddigon posib.

Gyda mwy o brofiad a hanes o lwyddiant, gallai hyn godi i dros £50,000 yn hawdd.

Cofiwch mai canllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn a gallai amrywio yn ôl sector a chyflogwr.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Mae rôl Rheolwr Prosiect TG yn un sy’n gofyn am brofiad blaenorol ym maes TG a rheoli prosiect, naill ai gyda’ch cyflogwr presennol neu flaenorol.

Wrth gwrs, bydd yn dal angen cymhwyster perthnasol arnoch mewn cyfrifiadura ac mae’r rhain yn cynnwys graddau BSc cyfrifiadureg, technoleg gwybodaeth, peirianneg gyfrifiadurol a thechnoleg gwybodaeth busnes.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae nifer o opsiynau ar gael a fydd yn cynyddu eich sgiliau rheoli prosiect TG, gan gynnwys Tystysgrifau a Diplomâu rheoli prosiect ar wahanol lefelau

Efallai y byddwch hefyd yn ystyried cymwysterau drwy aelodaeth o gorff proffesiynol fel y Sefydliad Siartredig TG.

Bydd y math o hyfforddiant rydych ei angen yn dibynnu ar faint o brofiad sydd gennych mewn TG a rolau rheoli TG nad ydynt yn berthnasol.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Oes, os oes gennych brofiad o reoli prosiect mewn meysydd eraill o fewn y cwmni, gallwch ddefnyddio hyn er mwyn canfod swydd sy’n benodol i TG; wrth gwrs bydd hefyd angen profiad perthnasol arnoch.