English en
Rheolwr AD

Beth yw’r swydd?

Byddwch yn gyfrifol am gydlynu, arwain a rheoli gweithrediadau AD eich cwmni.

Byddwch hefyd yn datblygu holl bolisïau a gweithdrefnau personél eich cwmni ac yn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n gyson drwy’r sefydliad.

Fel Rheolwr AD bydd hefyd angen i chi fod yn gyfredol â deddfwriaeth a sut y gallai effeithio eich cwmni a chynghori uwch reolwyr yn unol â hynny.

Beth allaf fod yn ei wneud?​

Bydd union gyfrifoldebau’r swydd yn amrywio yn ôl maint y cwmni, ond fe fydd yn cynnwys y cyfrifoldebau craidd canlynol:

  • Recriwtio staff newydd yn ôl y galw
  • Arwain eich tîm o arbenigwyr AD, hyfforddiant a chyflogau
  • Datblygu polisïau a dulliau adrodd effeithiol
  • Cefnogi rheolwyr llinell i weithredu eu cyfrifoldebau AD
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl reoliadau a pholisïau
  • Arwain ar gysylltiadau gweithwyr
  • Arwain gweithgarwch cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol y cwmni
  • Sicrhau lles gweithwyr trwy ddarparu gwasanaethau a chynghori yn ôl yr angen
  • Cydweithio gydag uwch reolwr ar faterion AD
  • Cynllunio ar gyfer anghenion cyflogaeth yn y dyfodol ar y cyd â chydweithwyr eraill

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Bydd angen i chi fod yn dda gyda phobl i wneud swydd fel hon o ganlyniad i natur gefnogol y rôl.

Er eich bod yn arbenigwr AD bydd angen i chi wybod manylion popeth y mae eich cwmni yn ei wneud er mwyn gwneud cyfraniad effeithiol a sicrhau bod yr adran yn chwarae rôl gefnogol.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Bydd pob diwrnod yn wahanol a bydd angen i chi fod yn barod i ddelio gyda phroblemau sy’n codi’n sydyn mewn modd cyson a theg; gallwch hefyd ddisgwyl cyfrannu at gynlluniau ochr AD y busnes ar gyfer y dyfodol ar y cyd â chydweithwyr eraill.

Bydd eich oriau yn dueddol o fod yn 8.30 - 5pm ond efallai y bydd angen i chi wneud gwaith y tu allan i’r oriau hyn ar adegau.

Er y byddwch yn gweithio yn y swyddfa byddwch yn treulio llawer o amser yn ymweld ag adrannau eraill ac yn mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau allanol.

Byddwch yn dysgu llawer am y cwmni a’i waith yn y rôl AD a bydd hyn o fudd mawr pan fyddwch yn edrych am ddyrchafiad neu am  symud i hyfforddi a datblygu, gwella busnes ayb.

Beth am y cyflog?​

Mae buddiannau ariannol Rheolwr AD yn dda  gyda chyfartaledd cyflog yn amrywio rhwng £30,000 a £50,000.

Mae hyn yn dibynnu ar faint y cwmni a’r ystod o gyfrifoldebau sydd gennych chi.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?​

Fel Rheolwr Adnoddau Dynol bydd angen i chi fod â phrofiad; erbyn hyn mae cymhwyster drwy’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) ac aelodaeth ohono yn cael ei ystyried fel y lleiafswm o gymwysterau sydd eu hangen arnoch i gael y swydd hon felly sicrhewch eu bod nhw gyda chi!

Bydd angen o leiaf gradd arnoch, naill ai mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol neu gymhwyster tebyg sydd â Rheolaeth Adnoddau Dynol yn rhan sylweddol ohono.

Mae’n hynod debygol eich bod wedi gweithio yn y maes AD am nifer o flynyddoedd ac wedi astudio nifer o gymwysterau’r CIPD y flaenorol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tystysgrif Sylfaen CIPD Lefel 3 mewn Arferion AD
  • Cwrs CIPD Lefel 3 mewn Arferion Dysgu a Datblygu

Beth am hyfforddiant pellach?​

Mae yna ystod eang o gymwysterau CIPD arbenigol ar gael ar sail rhan amser ac mae’r rhain yn cael eu darparu drwy Golegau Addysg Bellach lleol. Gallwch hefyd ystyried yr MSc mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Oes, er mwyn llwyddo fel Rheolwr AD bydd angen i chi fod yn benderfynol a pheidio ag ymateb yn bersonol i feirniadaeth.

Bydd angen i chi fedru gwneud penderfyniadau anodd a’u cyfathrebu i bobl yn ôl yr angen - mae hyn yn golygu bod yn sensitif a meddu ar y gallu i ddelio gyda sefyllfaoedd emosiynol iawn ar adegau.