Felly am beth mae hyn i gyd?
Fel Partner Busnes AD ar gyfer eich cwmni bwyd, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r uwch reolwyr i sicrhau bod pob agwedd o’r systemau a’r prosesau AD yn cefnogi nodau busnes strategol.
Golyga hynny eich bod yn gwbl ymwybodol o holl agweddau’r busnes a’r amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo, er mwyn bod yn gynghorydd strategol effeithiol i’r uwch reolwyr ac i’w cynorthwyo i gyflawni eu nodau.
Yn ogystal â darparu cyngor, byddwch yn rhannu’r cyfrifoldeb dros wella perfformiad y busnes ac yn sicrhau bod darpariaeth yr holl wasanaethau AD yn ardderchog bob amser.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Mae gan nifer o gwmnïau safbwynt gwahanol ynglŷn ag union natur rôl Partner Busnes AD a’r hyn y mae’n ei olygu, ond mae’n debyg y bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol:
- Dylanwadu ar strategaeth y cwmni o safbwynt AD
- Datblygu a gweithredu prosesau AD a fydd yn effeithio’n gadarnhaol ar berfformiad y cwmni
- Siapio strwythur y cwmni er mwyn gwella perfformiad
- Paru gallu’r adnoddau gyda strategaeth y busnes
- Adnabod mesurau perfformiad AD allweddol
- Monitro ansawdd darpariaeth gwasanaeth AD a chymryd camau effeithiol pan fo angen gwneud gwelliannau
- Gweithredu fel cynghorydd annibynnol
- Arwain prosiectau rheoli newid yn y cwmni
- Datblygu prosesau olyniaeth busnes addas.
- Darparu cyngor arbenigol cyfredol yn ymwneud â materion AD
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Bydd angen i chi ddeall y busnes yn llwyr er mwyn gallu cyfrannu’n effeithiol i feddylfryd rheolaeth a strategaeth.
Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu, trefnu a negodi ardderchog ar gyfer pob agwedd o rôl y Partner Busnes AD, yn enwedig pan fyddwch yn darparu cyngor i’ch cydweithwyr ar lefel uwch ac yn arwain polisïau a strategaethau a fydd yn arwain at gynnydd ym mherfformiad y busnes.
Mae hon yn swydd ar gyfer person hynod o hyderus a rhagweithiol, a bydd angen i chi fod yn hunangynhaliol fel yr ymgynghorydd AD sy’n rhan o strwythur gweithredol y cwmni.
Beth alla i ddisgwyl?
Byddwch yn gweithio pa bynnag oriau sy’n ofynnol er mwyn darparu’r gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer yr uwch reolwyr; er y bydd hyn yn debygol o fod o fewn oriau gweithio arferol, mae’n debygol y bydd gofyn i chi weithio tu allan i’r oriau hyn yn achlysurol, yn enwedig pan fo’r strategaethau yr ydych wedi cyfrannu atynt yn cael eu gweithredu.
Mae’r swydd yn amrywiol iawn a gallwch ddisgwyl gorfod camu i mewn ac allan o sawl rôl yn ôl yr angen.
Mae rôl Partner Busnes AD yn ffordd wych o ddatblygu eich profiad ehangach ar draws y cwmni, a’ch sgiliau arweinyddiaeth a strategol.
Beth am y cyflog?
Mae enillion ariannol ar gyfer rôl Partner Busnes AD yn ardderchog, gyda chyflogau cyfartalog ymhell dros £30,000, a gallant fod yn llawer uwch gan ddibynnu ar union natur y rôl.
Cofiwch mai canllaw bras yn unig yw’r ffigyrau hyn, a gallant amrywio’n sylweddol.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Mae rôl Partner Busnes AD yn swydd ar lefel uwch, a bydd gennych eisoes lawer o brofiad o weithio mewn adran AD cwmni, yn ymdrin â materion sy’n codi o ddydd i ddydd, yn hytrach na meddwl a gweithio o safbwynt mwy strategol.
Mae’n debygol iawn y byddwch yn meddu ar aelodaeth lawn o Sefydliad Siartredig Personnel a Datblygiad, fel man cychwyn.
Yn ogystal, bydd angen gradd mewn naill ai Rheolaeth Adnoddau Dynol neu gymhwyster cyfwerth sydd â Rheolaeth Adnoddau Dynol yn un o’r prif feysydd.
O ganlyniad i’ch profiad, mae’n bosib hefyd eich bod wedi astudio cymwysterau CIPD hefyd gan gynnwys:
Tystysgrif Sylfaenol Lefel 3 CIPD mewn Arfer AD
Cwrs Lefel 3 CIPD mewn Arferion Dysgu a Datblygu
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae nifer o gymwysterau CIPD arbenigol ar gael ar sail rhan amser, ac mae’r rhain yn cael eu darparu gan golegau AB lleol.
Gallech hefyd ystyried y cymhwyster MSc mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol, neu, am brofiad ehangach, byddai cwrs Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes yn ddefnyddiol iawn ac mae’r rhain ar gael yn eang.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Oes. Rôl Partner Busnes AD yw’r swydd a allai eich arwain at rôl Cyfarwyddwr AD.
Mae’r swydd wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnig rôl ragweithiol a strategol ar gyfer adran AD y cwmni - ond cofiwch fod y rôl a’r cyfrifoldebau’n gallu amrywio’n sylweddol o gyflogwr i gyflogwr.