English en
Gweinyddwr Adnoddau Dynol

Felly am beth mae hyn i gyd?

Mae gan y Gweinyddwr AD rôl sy’n cyfuno rôl AD a Gweinyddiaeth, ac mae’n gyfrifol dros ddarparu gwasanaeth gyflawn i weddill y tîm.

Byddwch yn gyfrifol am yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i AD gan gynnwys cadw ac adrodd ar gofnodion a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud hyd at safon uchel bob amser.

Golyga hyd eich bod yn cynnig rôl gefnogol i dîm o arbenigwyr gan eu rhyddhau nhw i dreulio cymaint o amser â phosib yn gwneud gweithgareddau uchel eu gwerth; felly mae rôl y Gweinyddwr AD yn un pwysig iawn.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd dyletswyddau’r swydd yn dibynnu ar eich man cychwyn i’r cwmni ac unrhyw brofiad blaenorol sydd gennych. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Darparu cefnogaeth glerigol i’ch cydweithwyr yn yr adran
  • Trefnu ffeiliau papur ac electronig
  • Sicrhau bod cronfeydd AD y cwmni yn gyfredol
  • Ymdrin â gohebiaeth
  • Cadw calendr AD
  • Cysylltu gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol
  • Cydweithio gyda chyflogres a hyfforddi staff
  • Sicrhau bod gweithdrefnau’r cwmni’n cael eu cadw’n gyfredol
  • Cyfathrebu gyda gweithwyr eraill
  • Gweithredu fel cefnogaeth effeithiol ar gyfer y tîm AD
  • Ymdrin ag ymholiadau a chynorthwyo i ddatrys problemau

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Er mwyn bod yn effeithiol yn eich swydd, bydd angen i chi fod yn berson sy’n mwynhau rhoi sylw i fanylder  gan fod mwyafrif eich gwaith yn gofyn am gywirdeb manwl.

Byddwch yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifaduron ond hefyd yn gallu cyfathrebu’n llafar yn ogystal ag yn ysgrifenedig.

Bydd angen i chi fod yn berson bywiog sy’n mwynhau gweithio ac ymdrin â phobl, ac yn gallu bod yn ddiplomataidd ac yn ddoeth.

Dylech allu dangos eich bod yn gallu gweithio at derfynau amser tynn ac nad ydych yn plygu dan bwysau; bydd angen i chi allu dysgu’n gyflym a blaenoriaethu gwaith yn gywir.

Fel un sy’n cefnogi tîm, bydd digwyl i chi fod yn adeiladu’r tîm ac yn gallu gweithio’n effeithiol gyda phobl sydd â phersonoliaethau gwahanol.

Beth alla i ddisgwyl?

Bydd swydd gweinyddwr AD fel arfer yn golygu gweithio wythnos 40 awr, er gall fod angen gweithio oriau ychwanegol yn ystod cyfnodau prysur.

Os yw rhan o’r gwaith yn golygu ymdrin â chyflenwyr allanol, efallai bydd angen i chi deithio i gwrdd â nhw, ac mae cwmniau mwy yn tueddu i fod ar fwy nag un safle, felly eto, mae’n bosib y bydd angen teithio ac aros dros nos yn achlysurol.

Beth am y cyflog?

Yn nodweddiadol, gall Gweinyddwr AD ennill rhwng £15,000 a £18,000 y flwyddyn, er y gall hyn amrywio o le i le ac hefyd yn ôl maint eich cyflogwr.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Erbyn hyn, mae’n eithaf tebygol y byddwch yn dechrau mewn swydd Gweinyddwr AD gyda gradd yn barod, a hynny fwy na thebyg mewn maes sy’n addas i’r swydd, a allai gynnwys AD, rheolaeth, seicoleg neu unrhyw bwnc arall yn ymwneud â busnes.

Gall rhai cwmnïau eich cyflogi fel hyfforddai gyda chymwysterau CGC neu Lefel A, neu fel Prentis Gweinyddol, felly cofiwch gadw llygad am y cymwysterau hyn hefyd.

Cofiwch, bydd cymwysterau da ar y dechrau yn cynorthwyo i’ch gyrfa ddatblygu ynghynt.

Beth am hyfforddiant pellach?

Efallai eich bod wedi gweithio ym maes AD am gyfnod neu wedi astudio ar gyfer nifer o gymwysterau CIPD o’r blaen.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tystysgrif Sylfaenol CIPD Lefel 3 mewn Ymarfer AD
  • Cwrs CIPD Lefel 3 mewn Arfer Dysgu a Datblygiad

Mae amrywiaeth eang o gymwysterau CIPD arbenigol ar gael ar sail rhan amser wedi eu darparu gan Golegau Addysg Bellach lleol.

Gallwch hefyd ystyried dilyn y cwrs Meistr mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol sydd ar gael drwy CIPD.

Mae aelodaeth o CIPD hefyd yn cael ei werthfawrogi gan nifer o gyflogwyr ym maes Rheoli Adnoddau Dynol.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i’w wybod?

Oes, cofiwch fod gweithio yn yr adran AD yn sylfaen gwych i’ch gyrfa, a byddwch yn dysgu llawer iawn am wahanol adrannau’r cwmni.

Os allwch chi ddangos bod gennych chi awydd i lwyddo, mae’n debyg yr ewch chi’n bell iawn ym maes AD!