English en
Rheolwr Iechyd a Diogelwch

Felly am beth mae hyn i gyd?

Defnyddio eich sgiliau a’ch arbenigedd i leihau’r risg o anafiadau, damweiniau a phroblemau iechyd eraill yn eich cwmni gweithgynhyrchu bwyd.

Byddwch yn gofalu fod pawb yn y cwmni’n deall eu cyfrifoldebau ac yn cydymffurfio’n llwyr â deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol a pholisïau cysylltiedig y cwmni a ffyrdd o weithio.

Byddwch yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o weithio diogel yn eich cwmni, bydd gennych lygad am fanylion a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel yn eich cwmni.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Mae’n debygol y bydd y swydd yn cynnwys y canlynol:

  • Yn dibynnu ar faint y cwmni rydych chi’n gweithio iddo, rheoli tîm o ymgynghorwyr
  • Cyfathrebu â’r staff a dylanwadu’n bositif ar weithrediadau’r staff ar faterion sy’n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch a gofalu  eu bod yn gwybod sut i weithio’n ddiogel
  • Dylunio a gweithredu systemau a phrosesau sy’n hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant effeithiol o ran Iechyd a Diogelwch yn y cwmni drwyddo draw.
  • Cynnal archwiliadau rheolaidd a chysylltu â chyrff allanol fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Bydd eich perfformiad a’ch effeithiolrwydd yn cael ei fesur ar amrywiaeth o faterion yn cynnwys lleihad mewn damweiniau, anafiadau  a materion eraill sy’n ymwneud ag iechyd yn y gwaith.

Er y byddwch chi eisoes yn gymwysedig iawn i gymryd y swydd hon, fe ddisgwylir i chi fod â’r wybodaeth ddiweddaraf bob amser o ran newidiadau yn y gyfraith.

Byddwch yn berson trefnus iawn gyda llygad ar fanylion y gallai eraill eu hesgeuluso a chan y gallech orfod cefnogi cydweithwyr ar wahanol sifftiau, dylech fod yn berson sy’n gallu gweithio’n effeithiol ar eich pen eich hun a gallu cysylltu a chyfathrebu’n uniongyrchol â phobl eraill wrth weithio’n rhan o dîm.

Bydd angen i chi fod yn unigolyn sydd â chymhelliant a diwydrwydd eithriadol ac sy’n frwd am helpu cydweithwyr i weithio mor effeithiol a phosib.

Bydd eich agwedd tuag at eich gwaith yn un resymegol a dadansoddol a byddwch yn rhywun sy’n gallu barnu’n gyflym, yn gywir a chyda ffeithiau a gwybodaeth i’ch cefnogi.

Bydd disgwyl i chi fel Rheolwr Iechyd a Diogelwch arwain tîm – felly bydd profiad o reoli pobl a chyfathrebu’n broffesiynol ac yn gymwys yn fantais fawr i sicrhau’r swydd hon.

Beth alla i ddisgwyl?

Bydd swydd fel Rheolwr Iechyd a Diogelwch mewn gweithgynhyrchu bwyd yn ddiddorol ac yn heriol. Yn ogystal â rheoli gweithgareddau dyddiol, gallwch ddisgwyl y byddwch yn ymwneud â materion Iechyd a Diogelwch strategol yn eich cwmni a datblygiad polisïau cwmni fydd wedi’u diweddaru.

Mae bod yn Rheolwr Iechyd a Diogelwch yn waith sy’n rhoi boddhad mawr – mae’r rôl yn hanfodol bwysig mewn cwmnïau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd felly bydd galw mawr bob amser amdanoch chi fel arbenigwr yn y maes hwn.

Beth am y cyflog?

Gall Rheolwr Iechyd a Diogelwch profiadol ennill unrhyw beth o £35,000 i fyny’n dibynnu ar natur y swydd a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig. Er y byddan nhw’n amrywio o gwmni i gwmni, mae cyflogau cychwynnol yn nodweddiadol oddeutu £22,000.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

I esgyn i safle Rheolwr Iechyd a Diogelwch, mae’n debygol y byddwch wedi treulio peth amser fel ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch wrth i chi ychwanegu at eich sgiliau a’ch profiad.

Gallwch astudio un ai’n rhan-amser neu’n llawn-amser ar gyfer y cymwysterau y bydd arnoch eu hangen i fynd i mewn i’r maes Iechyd a Diogelwch gydag opsiynau i astudio’n rhan-amser yn arbennig o ddeniadol a chithau eisoes mewn gwaith.  Fel arall, gallech ymgymryd â chwrs amser llawn cyn i chi chwilio am swydd addas.

Beth am hyfforddiant pellach?

Bydd angen i chi gadw eich gwybodaeth yn gyfredol drwy gydol eich gyrfa.

Fel Rheolwr Iechyd a Diogelwch, mae aelodaeth broffesiynol o gorff fel y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (ISOH) yn ddefnyddiol bob amser i gyflogwyr gan ei fod yn arddangos eich cymwysterau a’ch profiad.

Fe wnewch ddatblygu eich sgiliau wrth weithio a bydd cyrff proffesiynol fel IOSH (Institute of Occupational Safety and Health) yn darparu ystod o gyrsiau datblygu proffesiynol byr i’ch helpu chi â’ch gyrfa.

Yn ogystal â hyn ceir hefyd amrywiaeth o gymwysterau arbenigol y gallai staff Iechyd a Diogelwch eu hystyried ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • Diploma Arbenigol mewn Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH (‘National Education Board for Occupational Safety & Health’)
  • Diploma mewn Rheolaeth Amgylcheddol gan y ‘British Safety Council’
  • Tystysgrif Genedlaethol/Ryngwladol mewn Iechyd a Diogelwch Adeiladu NEBOSH
  • Tystysgrif Diogelwch Tân a Rheoli Risg NEBOSH.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Bydd Rheolwr Iechyd a Diogelwch effeithiol yn gofalu bod llai o amser yn cael ei golli oherwydd absenoldeb y staff oherwydd damweiniau yn y gwaith a phroblemau iechyd.  Bydd gwelliannau yma’n gwella’n uniongyrchol broffidioldeb syilfaenol eich cyflogwr.

Gyda gweithgynhyrchu bwyd, efallai y bydd angen i chi weithiau weithio sifftiau gyda’r nos, nos neu benwythnosau’n hytrach na’r wythnos waith safonol o ddydd Llun i ddydd Gwener.