English en
Gweithiwr Fferm Cyffredinol

Beth yw’r swydd?

Fel gweithiwr fferm cyffredinol byddwch yn gwneud gwaith ymarferol ar ffermydd gydag anifeiliaid, tir âr neu ffermydd cymysg.

Mae’r math o waith yn amrywio gyda’r tymhorau a gallai’r tasgau gynnwys gofalu am yr anifeiliaid, godro, a gofalu am y plannu a chynaeafu’r cnydau.

Yn ogystal â gwaith ffermio, byddwch hefyd yn helpu gyda chynnal a chadw offer ac adeiladau’r fferm.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Bydd yr union waith y byddwch yn ei wneud yn amrywio yn ôl y tymor ac yn dibynnu ar y math o fferm rydych chi’n gweithio arni, ond mae yna amrywiaeth eang o dasgau sydd angen eu cwblhau gan gynnwys:

  • Plannu, trin a chynaeafu cnydau gan ddefnyddio amrywiaeth o offer fel tractorau a chombein.
  • Magu a thrin anifeiliaid gan gynnwys bwydo, carthu, gofalu am anifeiliaid sâl neu newydd-anedig a defnyddio peiriannau godro ar gyfer gwaith godro
  • Paratoi anifeiliaid ar gyfer eu cludo
  • Cynnal a chadw cloddiau a choetir
  • Cynnal a chadw cerbydau a pheiriannau
  • Glanhau ac atgyweirio adeiladau
  • Gwasgaru gwrtaith
  • Adeiladu ffensys a’i gynnal a chadw

Beth sy’n ddisgwyliedig ohonof?

Bydd yn rhaid i chi beidio â bod ofn gwaith corfforol yn yr awyr agored mewn pob math o dywydd ac ar unrhyw adeg o’r dydd

Mae’n rhaid bod gennych chi ddiddordeb gwirioneddol mewn ffermio a dysgu mwy am y busnes; a hefyd yn medru dilyn cyfarwyddiadau gan eich goruchwyliwr neu reolwr

Dylech fedru cyfrif pwysau a mesuriadau i lefel uchel o gywirdeb yn ogystal â gweithio’n ddiogel bob amser, yn enwedig gydag offer fferm ac anifeiliaid.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Ar adegau penodol o’r flwyddyn gallwch ddisgwyl gweithio diwrnodau hir iawn er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau’n foddhaol- yn gyffredinol bydd oriau dros ben yn daladwy.

Bydd gofyn i chi weithio oriau hyblyg gan gynnwys penwythnosau felly byddwch yn byw’n agos at y fferm rydych chi’n gweithio arni neu fyw ar y fferm.

Mae llawer o’r gwaith yn fudr felly bydd angen i chi wisgo dillad amddiffynnol addas.

Peidiwch â gadael i hyn eich poeni oherwydd mae gweithio ar fferm yn medru bod yn foddhaol iawn, yn enwedig os ydych chi’n hoff o unrhyw beth i’w wneud â byd natur.

Beth am y cyflog?

Bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych chi’n gweithio, pa fath o fferm rydych chi’n gweithio arni a’ch lefel o brofiad pan fyddwch yn dechrau eich cyflogaeth.

Efallai y byddwch yn gweithio ar y fferm ar sail hyblyg neu ran amser ac yn cael eich talu yn unol â’r oriau rydych chi’n gweithio mewn wythnos.

Mae’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (Agriclutural Wages Board) wedi gosod lefelau isafswm cyflog yng ngwahanol wledydd y DU, ond gallwch ddisgwyl y lefelau canlynol:

Gallwch ennill rhwng £12000 a £18000 y flwyddyn, gan godi i dros £23000 wrth i chi gynyddu eich sgiliau a’ch profiad a derbyn mwy o gyfrifoldebau

Efallai y cewch eich darparu gyda llety hefyd, sydd naill ai am ddim neu’n rhad iawn.

Cofiwch mai canllaw yn unig ydy’r ffigyrau hyn ac yn debygol o amrywio’n fawr drwy’r wlad. Gwiriwch y cyfraddau cyflog diweddar bob tro

Pa gymwysterau sydd angen arnaf ar gyfer y swydd?

Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran cymwysterau ond bydd nifer o gyflogwyr yn gofyn bod gennych chi rywfaint o brofiad o leiaf yn ogystal â diddordeb mewn ffermio a phob peth amaethyddol.

Bydd angen i chi fod yn ffit yn gorfforol a byddai trwydded yrru hefyd yn ddefnyddiol.

Gallwch ystyried prentisiaeth neu ddiploma Lefel 3 ar ôl i chi adael ysgol. Bydd hyn yn rhoi sylfaen dda i chi yn eich swydd yn ogystal â chymhwyster.

Ar ôl y rhain, gallwch barhau gyda’ch astudiaethau gyda gradd sylfaen (FdSc) mewn Amaethyddiaeth a Thechnoleg

Gallwch hefyd gwblhau cyrsiau byr fel defnyddio offer amaethyddol penodol, gyrru tractor neu ddefnyddio wagen fforch godi. Os yw eich swydd yn cynnwys defnyddio llif gadwyn a phlaladdwyr, bydd angen y tystysgrifau cymhwyster perthnasol arnoch fel gofyniad cyfreithiol

Yn ogystal â hyn, mae nifer o gyrsiau arbenigol ar gael bydd yn eich helpu i wneud eich swydd yn fwy effeithiol; mae cyflenwyr offer a chyflenwyr eraill yn aml yn cynnig hyfforddiant hefyd.

Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?

Mae gan lawer o ardaloedd golegau amaethyddol o fewn pellter teithio addas a dylech gael cipolwg ar eu prosbectws i ddechrau.

Mae colegau addysg bellach hefyd yn medru cynnig cyrsiau a allai fod yn ddefnyddiol i chi os ydych chi am ddilyn gyrfa yn y byd ffermio.

Beth am hyfforddiant pellach?

Os yw hyfforddiant a chymwysterau yn apelio atoch yna cadwch lygad allan am raddau perthnasol y gallwch eu cwblhau yn eich prifysgolion lleol. Byddwch yn sylweddoli bod nifer o gyrsiau ar gael yn rhan amser neu ar sail dysgu o bell a gallwch eu haddasu o amgylch eich amserlen waith.

Efallai y gallwch weithio a hyfforddi dramor hefyd.

Oes yna rywbeth arall y dylwn ei wybod?

Oes, cofiwch fod gweithwyr medrus yn fwy tebygol o gael gwaith na’r rheiny sydd heb sgiliau; y mwyaf o gymwysterau a phrofiad y gallwch eu hennill y gorau fydd eich rhagolygon gyrfa.

Wrth i chi ennill cymwysterau gallwch ddechrau edrych am ddyrchafiad i reoli fferm neu rywbeth sy’n cyfateb - bydd hyn mwy na thebyg yn golygu bod angen i chi deithio er mwyn cael swydd sy’n addas.

Os ydych chi’n gweithio ar fferm fawr efallai cewch gyfle i arbenigo a gall hyn fod yn ddatblygiad gyrfa call wrth i chi ddod yn arbenigwr mewn un ardal benodol o’r swydd.