English en
Ciper

Beth yw’r swydd?

Byddwch yn gweithio yng nghefn gwlad yn rheoli tir ar gyfer hela a physgota, ac yn sicrhau bod anifeiliaid helwriaeth fel ffesantod, petris, ysgyfarnogod, ceirw a grugieir yn ffynnu.

Er y bydd eich incwm yn deillio o drefnu digwyddiadau saethu ar gyfer cleientiaid, bydd y gwaith rydych chi’n ei wneud yn fuddiol iawn i gefn gwlad yn gyffredinol ac mae gwaith ciper yn helpu sicrhau amgylchedd cytbwys sy’n waith pwysig iawn.

Efallai y byddwch hefyd yn magu adar ar gyfer eu rhyddhau i’r gwyllt a bydd hyn yn helpu cynyddu niferoedd a chynyddu’r stoc bresennol.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Bydd hyn yn amrywio, yn enwedig gyda’r tymhorau, ond gallai gynnwys:

  • Cynllunio a threfnu digwyddiadau saethu a physgota
  • Cyflogi a goruchwylio curwyr
  • Cadw cofnodion cywir o beth sy’n cael ei saethu neu ddal
  • Trefnu gwerthu’r anifeiliaid hela
  • Cynnal safonau lles uchel ar gyfer yr anifeiliaid hela
  • Sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â rheolau diogelwch
  • Rheoli ysglyfaethwyr
  • Trefnu hyfforddi cŵn adara
  • Lleihau gweithgareddau potswyr
  • Tasgau gweinyddol sy’n ymwneud â’r swydd
  • Cynnal a chadw’r stoc magu a chynefinoedd
  • Trefnu trwsio offer ac adeiladau
  • Cydweithio gydag asiantaethau allanol fel yr heddlu

Beth sy’n ddisgwyliedig ohonof?

Mae’n rhaid i chi fod yn berson sy’n mwynhau gweithio a byw yng nghefn gwlad ac yn mwynhau holl agweddau byd natur; dylech hefyd ddisgwyl gorfod gweithio ar eich pen eich hun am gyfnodau hir mewn ardaloedd anghysbell o’r wlad.

Mae’n rhaid i chi fod â natur amyneddgar a bod yn heini er mwyn cwrdd â galwadau’r swydd.

Mae’n rhaid i’ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog hefyd, yn enwedig yn ystod digwyddiadau saethu pan fyddwch angen i’r cleientiaid ddilyn eich cyfarwyddiadau trwy’r amser er mwyn sicrhau eu diogelwch a’u bod yn saethu’n effeithiol ac yn gywir.

Hefyd, ar gyfer elfen cadw cofnodion y swydd bydd gofyn bod gennych sgiliau rhifedd a llythrennedd da a’ch bod yn medru defnyddio TGCh yn effeithiol.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Nid swydd 9 tan 5 yw hon felly byddwch yn gweithio oriau hir ac afreolaidd gan ddibynnu ar ba waith sydd angen ei wneud ar adegau penodol.

Mae hyn yn golygu boreau cynnar, nosweithiau hwyr a gweithio ar y penwythnos.

Mae natur y swydd yn golygu y byddwch yn yr awyr agored am y rhan fwyaf o’r amser ac yn gweithio mewn ardaloedd anghysbell, yn aml ar eich pen eich hun; bydd llawer o gerdded wrth i chi edrych dros yr ystâd a’r anifeiliaid hela.

Bydd disgwyl hefyd i chi ddefnyddio gynnau llawer o’r amser felly os ydych chi’n berson sydd â stumog wan yna ni ddylech fod yn ystyried y swydd hon - ac wrth gwrs bydd disgwyl fod gennych chi drwydded gwn.

Beth am y cyflog?

Bydd hyn yn amrywio yn ôl cyflogwr, lleoliad ac ehangder y cyfrifoldebau ond dylai ciper ifanc neu is-giper ddisgwyl cyflog o tua £11000 i £12000 y flwyddyn.

Gyda phrofiad, dylai hyn gyrraedd tua £20000 y flwyddyn.

Gallai Prif Giper ennill hyd at £25000 y flwyddyn.

Mae llety a lwfans eraill fel cludiant yn cael eu cynnwys yn llawer o’r swyddi hyn.

Mae’r ffigurau hyn yn ganllaw yn unig a dylech bob tro edrych am y wybodaeth ddiweddaraf.

Pa gymwysterau sydd angen arnaf ar gyfer y swydd?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar gyfer y swydd hon a byddwch mwy na thebyg yn dechrau eich gyrfa fel cynorthwyydd i giper profiadol fydd yn eich galluogi i ddysgu wrth i chi weithio.

Gallai profiad blaenorol, fel curwr er enghraifft, eich helpu i gael eich troed yn y drws.

Os hoffech wneud rhai cymwysterau cyn dechrau eich gyrfa yna mae llawer ar gael ar wahanol lefelau o 1 i 3.

Mae’r rhain yn cynnwys Tystysgrif Lefel 3 Rheoli Cefn Gwlad a’r Diploma mewn Gwaith Ciper gyda Rheoli Bywyd Gwyllt yn lefelau 2 a 3.

Ble gallaf ennill y cymwysterau yma?

Mae yna ystod eang o gymwysterau ar gael mewn colegau ledled Prydain Fawr - mae enghreifftiau da o’r hyn sydd ar gael ar y wefan ganlynol:

www.gamekeeperstrust.org.uk

Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o beth i’w astudio yn ogystal â ble i fynd er mwyn ennill y cymwysterau.

Dylech hefyd edrych am fanylion gan eich colegau addysg bellach a cholegau sy’n seiliedig ar y tir yn lleol.

Beth am hyfforddiant pellach?

Byddwch fel arfer yn derbyn hyfforddiant yn ystod y swydd, yn enwedig os oes disgwyl i chi weithio peiriannau peryglus fel llif gadwyn - yn yr achos hwn bydd angen tystysgrif cymhwysedd.

Gallwch hefyd ystyried cymryd cyrsiau byr i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth; mae’r rhain yn cael eu darparu gan gyrff fel Cymdeithas Ceirw Prydain.

Gallai’r rheiny sydd o natur academaidd edrych am radd sylfaenol neu radd BSc (Anrh) - er enghraifft, mae Writtle College ym Mhrifysgol Essex yn cynnig BSc (Anrh) mewn cadwraeth a’r amgylchedd a gradd sylfaenol (FdSc) mewn rheoli cadwraeth.

Ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am reoliadau, datblygiadau gwyddonol ac yn y blaen dylech ystyried o ddifrif ymuno â Sefydliad Cenedlaethol Ciperiaid; mae eu gwefan ar Gymdeithas Genedlaethol y Ciperiaid (NGO) -www.nationalgamekeepers.org.uk

Oes yna rywbeth arall y dylwn ei wybod?

Oes, mae swydd Ciper yn medru dod â boddhad mawr i’r rheiny sydd wedi cael eu cyflogi yn y swydd.

Mae yna gystadleuaeth fawr am swyddi fel arfer ac felly rydym ni’n awgrymu eich bod yn ceisio ennill cymwysterau a phrofiad gwirfoddol cyn i chi feddwl am swydd fel ciper.

Mae gan Gymdeithas Genedlaethol y Ciperiaid lwyth o wybodaeth ddefnyddiol, felly ewch i’w gwefan am wybodaeth bellach.