English en
Ffotograffydd Bwyd

Felly am beth mae hyn i gyd?

Mae’r ffotograffydd bwyd yn tynnu lluniau o fwyd ar gyfer pecynnau, erthyglau mewn cylchgronau, llyfrau coginio a hysbysebion.

Mae’n rhaid i’r llun gyfleu arogl, gwead a blas y cynnyrch, ac mae’n cymryd lefel uchel o arbenigedd er mwyn cael hyn yn gywir bob tro.

Y bwriad yw cael darpar gwsmeriaid i brynu’r cynnyrch!

Beth allen i fod yn ei wneud?

Byddwch yn gweithio gyda phobl sy’n gweithio yn yr adran farchnata a’r adran becynnu er mwyn sicrhau bod eich lluniau’n dangos y cynnyrch ar ei orau er mwyn bod mor apelgar â phosib i ddarpar gwsmeriaid.

Felly byddwch yn gyfrifol am oleuo ac agweddau technegol eraill y swydd.

Mae nifer o ffotograffwyr bwyd yn trefnu’r sesiwn tynnu lluniau yn ogystal â fframio’r lluniau. Gelwir y broses hon yn steilio bwyd, ac mae’n cynnwys trefnu’r cynnyrch bwyd er mwyn tynnu eu llun yn ogystal â threfnu’r cefndir megis llieiniau bwrdd, byrddau a phropiau.

Efallai y bydd cleient yn cyflogi steilydd bwyd arbenigol ar gyfer y diben hwn, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar dynnu’r lluniau.

Mae’n debygol y bydd gennych wybodaeth gefndirol helaeth am y cynnyrch a’r math o gwsmer sy’n gynulleidfa darged - bydd hyn yn eich galluogi i ddeall gofynion hyrwyddo’r cwmni a’r hyn yr hoffent ei gyfleu gyda’r llun o’r cynnyrch.

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Bydd disgwyl i chi ddangos y bwydydd ar eu gorau wrth dynnu lluniau er mwyn eu gwneud mor apelgar â phosib i gwsmeriaid.

Mae’n hanfodol eich bod yn tynnu’r llun cywir ac yn sicrhau ei fod yn unol â’r brand fel bod pobl yn cael eu denu i brynu’r cynnyrch.

Byddwch nid yn unig yn ffotograffydd dawnus gyda gwybodaeth dechnegol wych, ond byddwch hefyd yn rhywun â llygaid craff sy’n sylwi ar y manion sy’n gallu defnyddio eu creadigrwydd i gyfleu’r bwyd ar ei orau.

Bydd rhaid i chi weithio’n gyflym ac yn gywir er mwyn cael llun o’r cynnyrch ar ei orau. 

Beth alla i ddisgwyl?

Mae hon yn swydd amrywiol iawn gan nad oes dau gynnyrch yr un fath.

Fel ffotograffydd, byddwch yn dra fanwl, yn drefnus, ac yn hyfedr mewn technoleg.

Gall cleientiaid fod yn hynod heriol a gall terfynau amser olygu llawer o bwysau felly mae angen ichi allu bod yn bwyllog, yn hyderus ac yn broffesiynol yn eich gwaith trwy gydol yr amser. 

Beth am y cyflog?

Mae’r tâl yn amrywio gan ddibynnu ar eich profiad, eich hanes, a’ch portffolio.

Mae swyddi mewnol a hysbysebwyd yn ddiweddar yn amrywio o tua £22,000 i tua £32,000 - er bod nifer o ffotograffwyr bwyd yn gweithio ar sail hunangyflogedig yn gweithio ar eu liwt eu hunain neu trwy asiantaethau arbenigol lle mae cyflog yn cael ei bennu ar y galw am eich dawn.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Mae llawer o gyrsiau byr ar gael i’r darpar ffotograffydd, ond gallwch ystyried gwneud gradd mewn ffotograffiaeth er mwyn cael cefndir technegol cryf. Eich cyfrifoldeb chi wedyn yw creu portffolio gwych.

Beth am hyfforddiant pellach?

Gyda’r holl ddatblygiadau mewn technoleg ac addasu delweddau digidol, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf, a gellir gwneud hyn drwy hyfforddiant pellach.

Fel ffotograffydd bwyd, byddai cefndir mewn bwyd neu fusnes hefyd o fantais, felly efallai y byddai’n syniad i chi ystyried astudio’r meysydd hyn hefyd. 

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Fel ffotograffydd bwyd, gallwch weithio fel rhan o dîm corfforaethol o fewn cwmni bwyd, neu gallwch weithio i asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i ystod o gwmnïau, neu gallwch weithio ar eich liwt eich hun ar sail contract gyda naill un o’r ddau opsiwn arall!

Gan fod y diwydiant bwyd yn parhau i dyfu ac yn datblygu nifer o gynnyrch newydd, mae hon yn yrfa wych i’w hystyried os ydych yn hoff o ffotograffiaeth!