English en
Rheolwr Fferm Bysgod

Beth yw’r swydd?

Byddwch yn gyfrifol am fridio a magu pysgod o fod yn silod mân nes y byddant yn barod i’w gwerthu.

Mae hyn yn golygu goruchwylio’r bwydo, eu gwarchod rhag clefydau, a’u diogelu rhag ysglyfaethwyr.

Bydd cam olaf y broses yn cynnwys dal y pysgod, eu cynaeafu a’u paratoi ar gyfer eu gwerthu.

Ar y llaw arall, mae’n bosib y byddwch yn cael eich cyflogi ar fferm bysgod sy’n arbenigo mewn datblygu stoc magu, ac yna’n gwerthu’r rhai ifanc i fferm arall ar hyd y gadwyn gyflenwi.

Er bod y mwyafrif o ffermydd pysgod yn canolbwyntio ar eog a brithyll, efallai bydd rhai yn arbenigo mewn pysgod cregyn fel cregyn gleision, wystrys a chregyn bylchog.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Mae gwaith Rheolwr Fferm Bysgod yn medru amrywio’n fawr o un cyflogwr i’r nesaf ond bydd yn debygol o gynnwys rhai, os nad pob un o’r canlynol:

  • Rheoli cynefinoedd pysgod ar hyd y flwyddyn.
  • Sicrhau iechyd a lles yr holl stoc
  • Cyfrifo a gweithredu trefn fwydo’r stoc
  • Cynnal a chadw offer a chewyll storio
  • Dilyn y newidiadau deddfwriaethol a datblygiadau gwyddonol
  • Cynllunio a goruchwylio'r broses cynaeafu
  • Sicrhau fod y fferm yn cynnal safonau amgylcheddol uchel
  • Goruchwylio staff i weithio’n effeithiol a diogel
  • Cynllunio rhaglenni magu a rhaglen ddatblygiadau
  • Sicrhau fod yr holl bysgod wedi cael eu paratoi a’u pacio’n briodol ar gyfer eu gwerthu
  • Cadw cofnodion manwl a chywir

Beth sy’n ddisgwyliedig ohonof?

Yn amlwg bydd gennych chi wybodaeth dda o’r holl broses sy’n ymwneud â busnes fferm bysgod yn ogystal â sgiliau busnes a sgiliau gweinyddol; wrth gwrs, bydd y rhain yn datblygu gyda phrofiad.

Bydd angen i chi fod ffit yn gorfforol, gyda natur ymarferol a pheidio â bod ofn mynd yn wlyb ac yn fudr. Fel rheolwr byddwch yn arwain tîm ond mae yna hefyd adegau pan fyddwch yn gweithio ar eich pen eich hun yn gwneud gwaith swyddfa.

Mae llawer o ffermydd pysgod mewn lleoliadau eithaf anghysbell, felly bydd angen lefel uchel o sgiliau datrys problemau yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda’ch tîm a’ch cwsmeriaid a chyflenwyr allanol.

Bydd hefyd angen i chi fod yn berson amyneddgar gyda meddylfryd gwyddonol sydd hefyd yn hapus i weithio mewn tywydd gwael yn ogystal â bod yn sylwgar bob amser.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Mae’r math o waith y byddwch yn ei wneud yn gofyn cael ei weithredu 24/7 trwy gydol y flwyddyn felly bydd eich oriau gwaith yn adlewyrchu hyn.

Mae ffermydd pysgod fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd anghysbell felly bydd yn rhaid i chi symud yn agos at eich lleoliad gwaith.

Mae’r mwyafrif o ffermydd pysgod y Deyrnas Unedig wedi’u lleoli yn yr Alban (er bod yna nifer fach mewn llefydd eraill) felly dylech gadw hyn mewn golwg wrth ystyried y math hwn o waith.

Wrth gwrs, os ydych chi’n gweithio i gwmni rhyngwladol efallai y gallwch deithio’r byd wrth i chi ennill mwy o brofiad.

Gyda phrofiad, gallwch hefyd ystyried gyrfa mewn ymchwil neu fel ymgynghorydd.

Beth am y cyflog?

Bydd hyn yn amrywio gyda phrofiad a chymwysterau, gyda gweithwyr fferm bysgod yn ennill rhwng tua £13000 i £15000 y flwyddyn.

Bydd gweithwyr uwch yn medru ennill dros £21000.

Bydd rheolwyr fferm bysgod yn ennill hyd at £40000, gyda chynnig am fwy o gyflog os byddwch yn uwch reolwr mewn cwmni mwy o faint.

Efallai y bydd llety addas yn cael ei ddarparu i chi yn agos at eich gwaith hefyd.

Cofiwch mai canllaw yn unig ydy’r ffigyrau hyn a dylech bob amser edrych am y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Pa gymwysterau sydd angen arnaf ar gyfer y swydd?

Er mwyn dechrau fel rheolwr dan hyfforddiant ar fferm bysgod bydd mwy na thebyg angen gradd mewn pwnc perthnasol arnoch fel dyframaeth, rheoli pysgodfeydd, neu fioleg môr a.y.b.

Os ydych chi’n dechrau eich cyflogaeth ar lefel is ac mewn lleoliad ar raddfa lai efallai y byddwch yn gweld bod gradd berthnasol yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol; mae sgiliau ymarferol a phrofiad yn cael eu hystyried yn bwysicach.

Serch hynny, bydd cyflogwyr yn gofyn am 5 TGAU da (A*-C).

Mae yna hefyd nifer o gyrsiau byr y gallwch eu cymryd a fydd yn helpu gyda’ch cyflogaeth ar unrhyw lefel - er enghraifft y Dystysgrif/Diploma mewn Rheoli Pysgodfeydd.

Os ydych chi wedi’ch lleoli yn yr Alban gallwch hefyd ystyried Prentisiaeth lefel 3.

Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?

Mae’r mwyafrif o’r Prifysgolion sy’n cynnig cyrsiau sy’n ymwneud â dyframaeth wedi’i lleoli yn yr Alban neu mewn ardaloedd ar yr arfordir - er enghraifft Stirling a Bangor.

Y Sefydliad Dyframaeth ym Mhrifysgol Stirling yw’r unig un o’i fath yn y DU ac yn un o’r rhai prin ledled y byd felly byddai hyn yn le da i ddechrau os ydych chi’n ystyried gyrfa sy’n seiliedig ar ffermio pysgod.

Mae modd gwneud y cyrsiau Tystysgrif a Diploma y sonnir amdanynt uchod fel cyrsiau gohebol sy’n cael eu cynnig gan Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae hyfforddiant yn aml yn cael ei ddarparu i chi yn y swydd, er y bydd nifer o gyflogwyr yn disgwyl i ddechreuwr i feddu ar sgiliau technegol gweddol (a ddatblygwyd ar brofiad gwaith) yn ogystal â sylfaen academaidd da yn y maes.

Mae’r cyfleoedd am hyfforddiant yn aml yn dibynnu ar faint y fferm bysgod.

Dylech ystyried wneud cymhwyster ôl-raddedig fel MSc mewn Dyframaeth: Dyframaethu Cynaliadwy (Sustainable Aquaculture) sy’n cael ei gynnig gan Brifysgol Stirling.

Gallai hyn fod yn bwynt dechrau da os ydych chi’n dechrau yn y diwydiant gyda gradd amhenodol.

Oes yna rywbeth arall y dylwn ei wybod?

Oes, mae ffermio pysgod yn swydd ble mae profiad cychwynnol yn bwysig a gallwch ennill profiad drwy edrych am gyflogaeth yn ystod y gwyliau- bydd hyn hefyd yn dangos a ydych chi’n addas ar gyfer y math hwn o waith.

Hefyd, cofiwch fod dyframaeth yn llawer ehangach na ffermio pysgod yn unig a’i fod yn cynnwys meithrin rhywogaethau fel crwban y môr, crocodeil ac algâu!