Beth yw’r swydd?
Yn eich rôl fel Rheolwr Safle Cynorthwyol ar Fferm Bysgod, byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Fferm Bysgod gyda’r holl waith o ddydd i ddydd ar y safle.
Bydd yna adegau hefyd pan fydd angen i chi ddirprwyo ar gyfer y Rheolwr Fferm Bysgod yn ôl yr angen.
Mae’n debygol iawn y bydd gennych chi nifer o flynyddoedd o brofiad o dechnegau ffermio pysgod a dealltwriaeth dda o hwsmonaeth pysgod.
Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys y broses gyfan, o fridio pysgod ifanc i gywain pysgod a’u dosbarthu i gwsmeriaid.
Beth allaf fod yn ei wneud?
Fel Rheolwr Cynorthwyol Fferm Bysgod, mae’n debygol y bydd gennych y cyfrifoldebau canlynol:
- Goruchwylio staff pan nad yw’r Rheolwr Fferm Bysgod ar y safle
- Cynnal amgylchedd gwaith diogel a sicrhau bod yr holl staff yn gweithio’n ddiogel
- Sicrhau arferion gwaith ecogyfeillgar
- Deall rheolaeth o’r bwyd a stoc
- Cynlluniau cywain a graddio
- Cadw cofnodion cyfrifiadurol cywir
- Cynorthwyo’r Rheolwr i berfformio’i rôl yn effeithiol
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
Yn amlwg bydd gennych chi wybodaeth dda o’r holl broses sy’n ymwneud â busnes fferm bysgod yn ogystal â sgiliau busnes a sgiliau gweinyddol; wrth gwrs, bydd y rhain yn datblygu wrth i chi ddatblygu profiad yn y swydd hon neu fel gweithiwr fferm bysgod.
Bydd angen i chi fedru gweithio’n hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gweithredu 24/7.
Bydd angen i chi fod yn heini gyda ffordd ymarferol o feddwl a bod yn hapus i weithio yn yr awyr agored a chael y gorau allan o’ch tîm.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Mae’r math o waith byddwch yn ei wneud yn gofyn cael ei weithredu 24/7 trwy gydol y flwyddyn felly bydd eich oriau gwaith yn adlewyrchu hyn gyda’r angen am hyblygrwydd yn ystod cyfnodau sy’n arbennig o brysur.
Mewn cwmni mawr efallai y byddwch yn gweithio ar system rota.
Gallwch ddisgwyl gwneud llawer o godi pwysau a chludo yn y rôl hon
Beth am y cyflog?
Gallai Rheolwr Cynorthwyol ar Fferm Bysgod ddisgwyl ennill rhwng £23,500 a £25,500.
Bydd Rheolwyr Fferm Bysgod yn ennill hyd at £40,000, gyda mwy o gyflog ar gael os byddwch yn uwch reolwr mewn cwmni mawr.
Hefyd, efallai y bydd llety addas yn cael ei ddarparu i chi yn agos at eich gwaith.
Cofiwch mai canllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn a dylech bob amser edrych am y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Er mwyn dechrau fel rheolwr dan hyfforddiant neu reolwr cynorthwyol ar fferm bysgod mae’n debygol y bydd angen gradd mewn pwnc perthnasol arnoch fel dyframaethu, rheoli pysgodfeydd, neu fioleg môr a.y.b.
Os ydych chi’n dechrau eich cyflogaeth ar lefel is ac mewn safle ar raddfa lai efallai y byddwch yn gweld bod gradd berthnasol yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol; mae sgiliau ymarferol a phrofiad yn cael eu hystyried yn bwysicach.
Serch hynny, bydd cyflogwyr yn gofyn am 5 TGAU da (A*-C).
Mae yna hefyd nifer o gyrsiau byr y gallwch eu cwblhau a fydd yn helpu gyda’ch cyflogaeth ar unrhyw lefel - er enghraifft y Dystysgrif/Diploma mewn Rheoli Pysgodfeydd
Os ydych chi wedi’ch lleoli yn yr Alban gallwch hefyd ystyried Prentisiaeth lefel 3
Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?
Mae nifer o Brifysgolion yn cynnig cyrsiau sy’n ymwneud â dyframaethu; mae’r rhain yn dueddol o fod wedi’u lleoli yn yr Alban neu mewn ardaloedd ar yr arfordir - er enghraifft Stirling a Bangor.
Y Sefydliad Dyframaethu ym Mhrifysgol Stirling yw’r unig un o’i fath yn y DU ac yn un o’r rhai prin ledled y byd felly byddai hyn yn le da i ddechrau os ydych chi’n ystyried gyrfa sy’n seiliedig ar ffermio pysgod.
Mae modd gwneud y cyrsiau Tystysgrif a Diploma y sonnir amdanynt uchod fel cyrsiau ar sail dysgu o bell sy’n cael eu cynnig gan y Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae hyfforddiant yn aml yn cael ei ddarparu i chi yn y swydd, er y bydd nifer o gyflogwyr yn disgwyl i ddechreuwr feddu ar sgiliau technegol rhesymol (a ddatblygwyd ar brofiad gwaith) yn ogystal â sylfaen academaidd da yn y maes.
Mae’r cyfleoedd am hyfforddiant yn aml yn dibynnu ar faint y fferm bysgod.
Gallwch ystyried astudio cymhwyster ôl-raddedig fel MSc mewn Dyframaethu: Dyframaethu Cynaliadwy (Sustainable Aquaculture) sy’n cael ei gynnig gan Brifysgol Stirling.
Gallai hyn fod yn fan cychwyn da os ydych chi’n dechrau yn y diwydiant gyda gradd amhenodol.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Oes, mae ffermio pysgod yn swydd lle mae profiad cyn cychwyn yn bwysig iawn a gallwch ennill profiad trwy edrych am gyflogaeth yn ystod y gwyliau- bydd hyn hefyd yn dangos p’un a ydych chi’n addas ar gyfer y math hwn o waith ai peidio.
Hefyd, cofiwch fod dyframaethu yn llawer ehangach na ffermio pysgod yn unig a’i fod yn cynnwys meithrin rhywogaethau fel crwban y môr, crocodeil ac algâu!
Cliciwch ar y ddolen ar gyfer Rheolwr Fferm Bysgod am fwy o wybodaeth ar y swydd hon.