Felly am beth mae hyn i gyd?
Fel rheolwr ariannol mewn cwmni prosesu neu weithgynhyrchu, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth ariannol a dadansoddol, a defnyddio eich gwybodaeth i gynorthwyo gwerthiant a phroffidioldeb eich cyflogwr a sicrhau bod penderfyniadau pwysig yn ymwneud â materion ariannol yn effeithiol ac yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.
Byddwch yn monitro perfformiad ariannol y cwmni ac yn sicrhau bod pob data ariannol yn gywir ac yn cael ei gyflwyno’n brydlon, y ogystal â chadw gwybodaeth gyfredol ynglŷn â thueddiadau’r diwydiant a’r farchnad er mwyn cynorthwyo’r uwch reolwyr gyda chynllunio busnes strategol.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Mae eich rôl yn debygol o gynnwys y canlynol:
- Cynhyrchu cynlluniau busnes hirdymor a’u cyflwyno i’r uwch reolwyr.
- Rheoli cyllidebau
- Rheoli incwm, llif arian a gwariant
- Ymchwilio i gystadleuwyr eich cwmni a’r sector gweithgynhyrchu bwyd yn gyffredinol
- Datblygu modelau ariannol addas ar gyfer eich cwmni a fydd yn gwella prosesau ac yn sicrhau’r proffidioldeb gorau posibl
- Cynnal asesiadau risg ariannol
- Tracio perfformiad i ganfod tueddiadau a gweithredu’n briodol
- Cysylltu â chydweithwyr ar lefel uwch
- Arwain tîm o arbenigwyr ariannol
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Bydd arnoch angen cefndir gadarn o arbenigedd ariannol wedi’i brofi er mwyn cyflawni gofynion rôl rheolwr cyllid.
Yn amlwg, byddwch yn berson sy’n hoff o ffigyrau a dadansoddi a byddwch yn gallu dehongli ffigyrau manwl iawn a’u cyflwyno i rai nad ydynt yn arbenigo ym maes cyllid.
Byddwch hefyd yn gallu gweithio mewn amgylchedd heriol a byddwch yn berson hyderus a dylanwadol wrth gyflwyno tystiolaeth ar gyfer strategaeth benodol.
Bydd gweithio mewn amgylchedd gweithgynhyrchu bwyd yn golygu bod angen profiad a dealltwriaeth fasnachol sylweddol yn ymwneud â’r materion a’r tueddiadau o fewn y sector sy’n debygol o gael effaith ar eich cwmni yn y dyfodol.
Beth alla i ddisgwyl?
Byddwch yn brysur iawn a gallwch ddisgwyl treulio cyfran helaeth o’ch amser yn dadansoddi data mewnol ac allanol er mwyn llunio eich cynlluniau ar gyfer y cwmni. Er eich bod wedi’ch lleoli yn y swyddfa, bydd natur eich cwmni a’r diwydiant bwyd yn golygu y bydd ychydig o deithio’n ddisgwyliedig er mwyn gallu deall pob agwedd o’r broses gweithgynhyrchu’n llawn. Gall mynychu digwyddiadau a chynadleddau amrywiol arwain at weithio tu allan i oriau arferol a bydd hynny hefyd yn ofynnol er mwyn cyrraedd terfynau amser tynn.
Beth am y cyflog?
Bydd rôl ar y lefel hon yn gofyn am flynyddoedd o brofiad. Mae cyflog o oddeutu £45,000 - £50,000 y flwyddyn yn arferol gan ddibynnu ar brofiad, hanes llwyddiant ac addasrwydd.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Fel man cychwyn, mae’n debygol y bydd gennych gymhwyster cyfrifeg neu gyllid ar lefel gradd a byddwch un ai wedi llwyddo i ennill cymwysterau ôl-raddedig neu gan gorff cyhoeddus, megis y rhai sydd ar gael trwy Sefydliad Chartered Institute of Management Accountants, dros nifer o flynyddoedd.
Beth am hyfforddiant pellach?
Eich dewis chi yn llwyr yw cwblhau hyfforddiant pellach, fel arfer yn arbenigol neu’n eich cynorthwyo gyda Datblygiad Proffesiynol Parhaus; fodd bynnag, byddai cymhwyster busnes cyffredinol megis MBA yn gallu bod yn ystyriaeth ar gyfer rhywun sydd eisiau ehangu ar ei dealltwriaeth busnes ehangach ac sy’n dymuno symud ymlaen i’r lefel nesaf.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Oes – peidiwch â drysu rôl y rheolwr ariannol gyda rôl cyfrifydd. Fel rheolwr cyllid, byddwch yn cynllunio trafodion ariannol eich cwmni ar gyfer y dyfodol a bydd eich cydweithiwr sy’n gyfrifydd yn brysur yn adrodd ar trafodion ariannol eich cwmni o’r gorffennol.
Mor syml â hynny!