English en
Rheolwr Fferm (Anifeiliaid)

Beth yw’r swydd?

Byddwch naill ai’n rhedeg eich busnes fferm eich hun neu’n cael eich cyflogi i reoli’r busnes yn effeithiol ar ran rhywun arall.

Byddwch yn gyfrifol am waith staff y fferm, materion gweinyddol a holl agweddau ariannol y busnes.

Fel rheolwr y fferm, byddwch hefyd yn delio’n uniongyrchol â chyflenwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill.

Bydd eich cyfrifoldeb hefyd yn cynnwys bod yn gyfredol gyda datblygiadau newydd a sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheoliadau.

Mae nifer o ffermydd wedi arallgyfeirio yn y blynyddoedd diwethaf a bydd yr holl brosiectau hyn yn cael eu goruchwylio gennych chi fel rhan o’ch swydd.

Cofiwch fod nifer o ffermydd yn ymwneud â chnydau âr yn ogystal ag anifeiliaid, felly gwiriwch y wybodaeth am Reolwr Fferm (Cnydau) hefyd.

 

Beth allaf fod yn ei wneud?

Bydd hyn yn amrywio gyda’r math o anifeiliaid sy’n cael eu magu a dylech ddisgwyl o leiaf rhai o’r cyfrifoldebau canlynol:

  • Cynllunio a gweithredu rhaglenni bridio
  • Gweithredu technoleg newydd sy’n lleihau costau ac yn cynyddu cynhyrchiant
  • Recriwtio a rheoli staff a sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol
  • Rheoli llif arian a datblygu a monitro cyllideb
  • Monitro iechyd a lles yr anifeiliaid
  • Sicrhau fod y fferm yn cydymffurfio â gwahanol ganllawiau cyfreithiol a cheisio lleihau effaith amgylcheddol  y busnes er enghraifft trwy waredu sbwriel.
  • Cadw cofnodion o symudiadau’r holl anifeiliaid i mewn ac allan o’r fferm.
  • Marchnata a gwerthu anifeiliaid i amrywiaeth o gwsmeriaid.
  • Trafod gyda chyflenwyr
  • Rheoli unrhyw weithgareddau arallgyfeirio’r fferm
  • Gwneud gwaith ymarferol yn ôl yr angen gan ddibynnu ar y llwyth gwaith.

Beth sy’n ddisgwyliedig ohonof?

Fel rheolwr fferm, mae’n debygol y byddwch yn treulio llawer o’ch amser yn y swyddfa yn sicrhau fod popeth yn symud yn ei flaen yn broffidiol ac yn delio â chyflenwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill. Nid yw hyn yn golygu na fydd disgwyl i chi wneud gwaith ymarferol ar y fferm ar adegau, a gallai hyn olygu gwaith corfforol mewn amodau budr.

Bydd yn rhaid i chi fedru rheoli tîm a datrys problemau wrth iddynt godi heb unrhyw oedi.

Yn gyffredinol, mae’r swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn ffermio fel menter busnes, yn ogystal â diddordeb mewn gwyddoniaeth a natur yn gyffredinol.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Bydd hon yn swydd sy’n rhoi boddhad mawr ac fe gewch dreulio llawer o amser yn yr awyr agored yn mwynhau natur wrth i chi ennill profiad.

Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid dechrau’n gynnar gan ddibynnu ar amser y flwyddyn, ac er y byddwch yn cael eich contractio i weithio 39 awr yr wythnos, efallai y bydd adegau pan fydd hyn yn mynd yn fwy yn enwedig os ydych chi’n cael eich galw at argyfwng, yn ystod cyfnod ŵyna ac yn y blaen.

Peidiwch â disgwyl swydd 9 tan 5 oherwydd byddwch yn gweithio saith diwrnod yr wythnos ar amodau hyblyg.

Beth am y cyflog?

Mae’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (Agriclutural Wages Board)  wedi gosod lefelau isafswm cyflog yng ngwahanol wledydd y DU, ond gallwch ddisgwyl y lefelau canlynol:

Gallai rheolwyr fferm ennill £25000 i £30000 y flwyddyn, gan godi i dros £40000 wrth i chi ennill mwy o brofiad.

Os ydych yn rhedeg menter mwy o faint yna mae’n bosib y byddwch yn ennill dros £50000 y flwyddyn.

Efallai y byddwch hefyd yn cael llety am ddim ar y fferm.

Cofiwch mai canllaw yn unig yw’r ffigyrau a dylech bob tro edrych am y wybodaeth ddiweddaraf.

Pa gymwysterau sydd angen arnaf ar gyfer y swydd?

Er nad oes gofynion swyddogol ar gyfer swydd rheolwr fferm, mae gan nifer o bobl yn y maes hwn gymwysterau perthnasol ar lefel gradd y gallai gynnwys Technoleg Amaethyddol, Amaethyddiaeth, a Pheirianneg Amaethyddol a.y.b.

Ar y llaw arall, efallai eich bod wedi dechrau eich cyflogaeth yn wreiddiol mewn busnes fferm fel gweithiwr fferm gyda chymhwyster ar lefel prentisiaeth mewn pwnc fel Amaethyddiaeth, yn arbenigo mewn hwsmonaeth da byw neu anifeiliaid.

Mae nifer o gyflogwyr yn y sector yn gosod pwysigrwydd ar arbenigedd felly mae’r ddau ddewis yn ddilys.

Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?

Mae cymwysterau ar lefelau Gradd ac Addysg Bellach ar gael trwy eich Coleg neu Brifysgol Amaethyddol leol. Am fwy o wybodaeth ewch i ddarllen eu prosbectws ar-lein.

Efallai bydd gan eich Coleg Addysg Bellach gyrsiau addas sy’n seiliedig ar y tir y gallech eu hystyried, ond bydd hyn yn dibynnu ar leoliad felly efallai bydd angen i chi deithio ar eu cyfer.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae llawer o gyrsiau ar gael ar lefel ôl-raddedig i’r rheiny sydd am ehangu eu haddysg neu arbenigo efallai, felly, ewch i weld beth sy’n digwydd mewn Prifysgolion.

Wrth i’ch profiad a’ch cymwysterau ddatblygu, dylech ystyried newid i feysydd eraill fel geneteg, neu gallwch ystyried fynd yn ymchwilydd neu arbenigwr technegol gyda chwmnïau bwyd anifeiliaid a thebyg.

Oes yna rywbeth arall y dylwn ei wybod?

Oes, mae yna lawer o gystadleuaeth ar gyfer swydd Rheolwr Fferm ac efallai bydd angen i chi symud cartref er mwyn mwynhau dilyniant gyrfa addas. Serch hynny, mae hyn yn golygu eich bod hefyd yn medru defnyddio eich profiad ar gyfer teithio’n eang.

Os ydych yn gweithio ar fferm fawr efallai gallwch hefyd arbenigo mewn maes penodol sydd o ddiddordeb i chi, neu gallwch dderbyn cyfrifoldeb am fwy nag un fferm.

Hefyd, mae nifer o ffermydd anifeiliaid yn canolbwyntio ar un gweithgaredd, felly efallai bydd angen i chi symud o un math o fferm i’r llall er mwyn ennill profiad amrywiol.