English en
Rheolwr Fferm (Cnydau)

Beth yw’r swydd?

Byddwch naill ai’n rhedeg eich busnes fferm eich hun neu’n cael eich cyflogi i reoli’r busnes yn effeithiol ar ran rhywun arall.

Byddwch yn gyfrifol am waith staff y fferm, materion gweinyddol a holl agweddau ariannol y busnes.

Fel rheolwr y fferm, byddwch hefyd yn delio’n uniongyrchol â chyflenwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill.

Bydd eich cyfrifoldeb hefyd yn cynnwys bod yn gyfredol gyda datblygiadau newydd a sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheoliadau.

Mae nifer o ffermydd wedi arallgyfeirio yn y blynyddoedd diwethaf a bydd yr holl brosiectau hyn yn cael eu goruchwylio gennych chi fel rhan o’ch swydd.

Cofiwch fod nifer o ffermydd yn ymwneud ag anifeiliaid yn ogystal â chnydau âr, felly gwiriwch y wybodaeth am Reolwr Fferm (Anifeiliaid) hefyd.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Bydd hyn yn amrywio gyda’r math o fferm ond bydd gan reolwr fferm sy’n edrych ar ôl cynhyrchu cnydau o leiaf rhai o’r cyfrifoldebau canlynol:

  • Cynllunio strategaethau a gosod targedau ar gyfer cynhyrchu cnydau er mwyn sicrhau lefelau uchel o broffidioldeb
  • Defnyddio technoleg newydd er mwyn lleihau’r gost a gwneud y mwyaf o gynhyrchiant cnydau
  • Recriwtio a rheoli staff a sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel
  • Rheoli llif arian a datblygu a monitro cyllidebau
  • Sicrhau fod y fferm yn cydymffurfio â gwahanol ganllawiau cyfreithiol a cheisio lleihau effaith amgylcheddol y busnes
  • Monitro ansawdd a chynhyrchiant cnydau a rhoi strategaethau gwelliant ar waith
  • Marchnata a gwerthu’r cynnyrch i amrywiaeth o gwsmeriaid.
  • Trafod gyda chyflenwyr
  • Rheoli unrhyw weithgareddau arallgyfeirio’r fferm
  • Gwneud gwaith ymarferol yn ôl yr angen gan ddibynnu ar y llwyth gwaith.

Beth sy’n ddisgwyliedig ohonof?

Bydd angen i chi fod yn gymwys iawn ar gyfer gwneud swydd rheolwr fferm gan fod hon yn swydd gyda nifer o elfennau gwahanol.

Bydd angen i chi ganolbwyntio ar waith swyddfa heb golli golwg ar beth sy’n digwydd tu allan, goruchwylio a rheoli gweithwyr fferm.

Mae’r swydd hon yn rhoi llawer o bwysau arnoch felly sicrhewch eich bod yn medru delio gyda’r straen!

Yn gyffredinol, mae’r swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn ffermio fel menter busnes, yn ogystal â diddordeb mewn gwyddoniaeth a natur yn gyffredinol.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Bydd hon yn swydd sy’n rhoi boddhad mawr ac fe gewch dreulio llawer o amser yn yr awyr agored yn mwynhau natur wrth i chi ennill profiad.

Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid dechrau’n gynnar gan ddibynnu ar amser y flwyddyn, ac er y byddwch yn cael eich contractio i weithio 39 awr yr wythnos, efallai y bydd adegau pan fydd hyn yn mynd yn fwy yn enwedig os ydych chi’n cael eich galw at argyfwng.

Beth am y cyflog?

Mae’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (Agriclutural Wages Board)  wedi gosod lefelau isafswm cyflog yng ngwahanol wledydd y DU, ond gallwch ddisgwyl y lefelau canlynol:

Gallai rheolwyr fferm ennill £25000 i £30000 y flwyddyn, gan godi i dros £40000 wrth i chi ennill mwy o brofiad.

Os ydych yn rhedeg menter mwy o faint yna mae’n bosib y byddwch yn ennill dros £50000 y flwyddyn.

Efallai y byddwch hefyd yn cael llety am ddim ar y fferm.

Cofiwch mai canllaw yn unig yw’r ffigyrau a dylech bob tro edrych am y wybodaeth ddiweddaraf.

Pa gymwysterau sydd angen arnaf ar gyfer y swydd?

Er nad oes gofynion swyddogol ar gyfer swydd rheolwr fferm, mae gan nifer o bobl yn y maes hwn gymwysterau perthnasol ar lefel gradd y gallai gynnwys Technoleg Amaethyddol, Amaethyddiaeth, a Rheoli Tir ac Eiddo a.y.b.

Ar y llaw arall, efallai eich bod wedi dechrau eich cyflogaeth yn wreiddiol mewn busnes fferm fel gweithiwr fferm gyda chymhwyster ar lefel prentisiaeth mewn pwnc fel Amaethyddiaeth, yn arbenigo mewn cnydau.

Mae nifer o gyflogwyr yn y sector yn gosod pwysigrwydd ar arbenigedd felly mae’r ddau ddewis yn ddilys.

Ble gallaf ennill y cymwysterau yma?

Mae cymwysterau ar lefelau Gradd ac Addysg Bellach ar gael trwy eich Coleg neu Brifysgol Amaethyddol leol. Am fwy o wybodaeth ewch i ddarllen eu prosbectws ar-lein.

Efallai bydd gan eich Coleg Addysg Bellach gyrsiau addas sy’n seiliedig ar y tir y gallech eu hystyried, ond bydd hyn yn dibynnu ar leoliad felly efallai bydd angen i chi deithio ar eu cyfer.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae yna lawer o gyrsiau ar gael ar lefel ôl-raddedig i’r rheiny sydd am ehangu eu haddysg neu arbenigo efallai, felly, ewch i weld beth sy’n digwydd mewn Prifysgolion.

Oes yna rywbeth arall y dylwn ei wybod?

Oes, mae swydd rheolwr fferm yn datblygu i fod yn swydd sydd angen dealltwriaeth dda o dechnolegau newydd- mae’r rhain yn cynnwys lleoli byd-eang, delweddu lloeren a thechnegau synhwyraidd eraill; mae hyn i gyd yn golygu y byddwch yn gallu hau hadau yn y ffordd gorau posib, defnyddio gwrtaith yn fwy effeithlon ac yn y blaen.