Felly am beth mae hyn i gyd?
Fel Rheolwr Amgylcheddol ym maes Gweithgynhyrchu Bwyd, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio perfformiad diogelu’r amgylchedd a chynhyrchu cynaliadwy eich cwmni.
Byddwch yn datblygu, gweithredu ac yn monitro holl strategaethau amgylcheddol y cwmni ac yn sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r cwmni bob amser yn cydymffurfio gyda chyfreithiau a gofynion deddfwriaethol cyfredol.
Byddwch yn archwilio gweithdrefnau’r cwmni, yn adnabod ac yn gweithredu ar welliannau a fydd yn gwella datblygiad cynaliadwy a chyfleoedd i leihau, ail-ddefnyddio ac ailgylchu.
Byddwch yn hyrwyddo cynaliadwyedd ar draws eich cwmni ac yn dylanwadu ar bolisïau ac ymddygiad y cwmni - felly mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Mae llwyth Gwaith Rheolwyr Amgylcheddol yn amrywiol iawn, sydd fel arferol yn cynnwys amrywiaeth o dasgau strategol megis:
- Datblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau gweithredu amgylcheddol sy’n sicrhau datblygiad cynaliadwy corfforaethol
- Arwain ar y broses o sicrhau caffael nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy
- Cydlynu pob agwedd o reoli llygredd, rheoli gwastraff, ailgylchu, iechyd amgylcheddol, cadwraeth ac ynni adnewyddadwy
- Arwain ar weithrediad polisïau ac arferion amgylcheddol ar draws y cwmni
- Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol
- Archwilio, dadansoddi ac adrodd ar berfformiad amgylcheddol i gleientiaid mewnol ac allanol a chyrff rheoleiddio
- Cynnal asesiadau effaith er mwyn adnabod, asesu a lleihau risgiau amgylcheddol a chostau ariannol y sefydliad
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o effaith materion amgylcheddol sy’n dod i’r amlwg, boed hynny o ran deddfwriaeth, arfer dda, cyfrifoldeb corfforaethol, moesol a chymdeithasol ar bob lefel yn y sefydliad
- Rheoli’r gwaith o ddatblygu a gweithredu system rheoli amgylcheddol
- Cydlynu ymgynghoriadau yn ymwneud â materion amgylcheddol
- Rheoli perthynas gyda Bwrdd y cwmni, uwch reolwyr a staff mewnol
- Hyfforddi staff ar bob lefel yn ymwneud â materion a chyfrifoldebau amgylcheddol
- Negodi cytundebau gwasanaeth amgylcheddol a rheoli’r costau a’r refeniw cysylltiedig
- Ysgrifennu adroddiadau amgylcheddol a chymryd y prif gyfrifoldeb ar ran y cwmni
- Arwain ar faterion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Bydd disgwyl i chi sicrhau bod y cwmni’n parhau i gydymffurfio â phob deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol sy’n bwysig iawn yn y sector Gweithgynhyrchu Bwyd.
Felly er eich bod eisoes wedi cymhwyso, bydd disgwyl i chi gadw gwybodaeth gyfredol gydag unrhyw newidiadau i gyfreithiau perthnasol.
Bydd angen i chi fod yn berson trefnus ac yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda’ch cydweithwyr ar bob lefel yn y cwmni.
Dylech fod yn berson gydag agwedd resymegol a dadansoddol tuag at eu gwaith, ac yn gallu gwneud penderfyniadau sydyn a chywir gyda ffeithiau a gwybodaeth i’w cefnogi.
Beth alla i ddisgwyl?
Nid oes llwybr gyrfa nodweddiadol ym maes rheolaeth amgylcheddol. Mae pob swydd yn dueddol o fod yn unigryw a bydd datblygiad yn dibynnu ar eich cyflogwr, ond mae cymwysterau proffesiynol a hyfforddiant parhaus yn rhan hanfodol o ddatblygiad gyrfa.
Mae natur amrywiol y swydd yn cynnig cyfleoedd i symud i feysydd gwaith gwahanol er mwyn datblygu sgiliau a phrofiad newydd.
Beth am y cyflog?
Mae cyflogau cychwynnol yn amrywio rhwng £18,000 a £30,000 gan ddibynnu ar eich profiad.
Gyda phrofiad helaeth a chyfrifoldeb uwch reolwr, gallech ddisgwyl ennill rhwng £30,000 a £50,000.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Er mwyn dilyn gyrfa mewn Rheolaeth Amgylcheddol, mae’n debygol iawn y byddwch wedi derbyn gradd mewn pwnc perthnasol megis bio-wyddoniaeth, peirianneg amgylcheddol, iechyd amgylcheddol, y gwyddorau amgylcheddol neu ecoleg. Cymwysterau ychwanegol yw’r ‘norm’ gyda thros hanner y rhai sy’n cael eu cyflogi yn y sector amgylcheddol yn derbyn cymwysterau ar lefel ôl-raddedig.
Fodd bynnag, os ydych eisoes yn gweithio yn y sector bwyd neu’n anelu at weithio yn y sector, gallech hefyd symud i’r ochr amgylcheddol gyda chymhwyster gwyddor neu dechnoleg bwyd.
Cofiwch fod nifer o gyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr gyda phrofiad o weithio yn y diwydiant, felly byddai profiad gwaith perthnasol yn ystod eich astudiaethau yn fanteisiol iawn.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae’n rhaid i Reolwyr Amgylcheddol sicrhau eu bod yn cadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â deddfwriaeth, cydymffurfiaeth a gofynion cofnodi trwy hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae mynychu cyrsiau hyfforddiant mewnol ac allanol, gan gynnwys seminarau a chynadleddau perthnasol, yn ffordd dda o gadw gwybodaeth gyfredol ynglŷn â materion sy’n codi, ac i ddiweddaru gwybodaeth. Gall rhai cyrsiau byr arwain at gymwysterau proffesiynol pellach.
Mae’n bosibl y gallech ystyried derbyn statws siartredig o gorff proffesiynol er mwyn datblygu eich gyrfa ymhellach.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Oes - mewn cwmnïau llai, bydd rôl y rheolwr amgylcheddol yn dueddol o gael ei gyfuno naill ai â rôl rheolwr ansawdd neu reolwr iechyd a diogelwch - neu’r ddau o bosibl!
Felly, gorau oll os allwch chi ddangos amrediad eang o sgiliau.