English en
Arweinydd Adran Beirianneg

Beth yw’r swydd?​

Rôl arweinydd adran (sydd weithiau’n cael ei alw’n oruchwyliwr) yw darparu rheolaeth oruchwyliol i dîm gynnal a chadw sy’n cynnwys gosodwyr, trydanwyr, staff medrus a phrentisiaid.

Byddwch yn gyswllt rhwng adrannau gweithredol a gweinyddol yr adran beirianneg a byddwch yn atebol i’r rheolwr peirianneg neu rôl gyfatebol.

Byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn y ffatri’n goruchwylio’r gwaith sy’n cael ei wneud a gwneud gwaith trwsio pan fydd angen.

Mae’n bosib y byddwch hefyd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw’r ffatri a’i gyfleusterau, felly bydd digon o waith i’ch cadw’n brysur.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Mae amrywiaeth eang o ddyletswyddau yng ngwaith arweinydd adran ond mae’n debygol o gynnwys o leiaf rhai o’r canlynol:

  • Goruchwylio tîm o staff cynnal a chadw
  • Trefnu a goruchwylio gwaith cynnal a chadw ataliol
  • Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gwblhau’n gywir ac yn ddiogel bob amser
  • Cydweithio gyda staff cynhyrchu er mwyn datrys problemau wrth iddynt godi
  • Datblygu staff er mwyn iddynt ragori yn eu gwaith
  • Delio gyda chontractwyr allanol ar y safle
  • Rheoli stoc yn y storfa gynnal a chadw
  • Sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei gofnodi’n briodol ar systemau cyfrifiadurol y cwmni
  • Mynychu cyfarfodydd cynllunio a chynhyrchu a sicrhau bod gweithgareddau cynnal a chadw’n cael eu hychwanegu at amserlenni
  • Dadansoddi data ac edrych a oes problemau cynnal a chadw rheolaidd
  • Treulio amser yn yr ardaloedd cynhyrchu yn sicrhau nad oes unrhyw broblemau amlwg a thrafod problemau gyda chydweithwyr yn yr adran gynhyrchu

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Yn amlwg bydd disgwyl i chi fod yn dechnegydd heb ei ail a byddwch mwy na thebyg wedi dechrau eich gyrfa fel prentis.

Bydd angen i chi fod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau er mwyn datrys problemau a chwblhau gwaith cynnal a chadw ataliol ar amser.

Fel arweinydd adran bydd angen i chi fod yn dda gyda phobl oherwydd byddwch yn trefnu staff yn gyson ac yn delio gyda phobl o wahanol adrannau o’r cwmni.

Bydd angen i’ch sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau fod o’r lefel uchaf a bydd hefyd angen i chi ddeall cyfrifiaduron er mwyn i chi fewnbynnu a dadansoddi gwybodaeth.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl treulio llawer o’ch amser wrth ochr eich tîm yn y ffatri wrth i chi drefnu gwaith trwsio a gwaith cynnal a chadw ataliol- bydd yr adran gynhyrchu’n aros amdanoch felly bydd angen i chi fedru cwblhau’r gwaith yn ddiffwdan.

Mae gweithio o fewn y ffatri yn golygu y bydd angen i chi wisgo dillad diogelu drwy’r amser, a phan fyddwch yn gweithio ar beiriannau bwyd gallwch ddisgwyl gweithio gyda chynhwysion amrwd ymysg pethau eraill.

Er y byddwch mwy na thebyg yn gweithio yn ystod y dydd gan fwyaf yn y rôl oruchwylio hon, bydd hefyd angen i chi weithio ar benwythnosau.

Peidiwch â disgwyl gorffen ar yr union adeg y mae eich sifft yn dod i ben- os oes gwaith trwsio yn amharu ar y newid yn y sifftiau, mae’n broblem arall sydd angen ei datrys.

Beth am y cyflog?

Gallai’r swydd hon dalu’n dda gan fod y person sy’n cyflawni’r gwaith fel arfer yn brofiadol ac yn fedrus. Mae cyflog rhwng £26,000 a £37,000 yn gyffredin yn y swydd hon.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Byddwch yn debygol o fod yn staff cynnal a chadw profiadol iawn sydd â llawer o gymwysterau a phrofiad eisoes.

Mae eich cymwysterau yn debygol o fod wedi dechrau gyda Phrentisiaeth mewn pwnc sy’n ymwneud â pheirianneg, fel peirianneg drydanol neu beirianneg fecanyddol.

Ar y llaw arall, efallai y byddwch wedi mynychu’r coleg am ychydig o flynyddoedd yn llawn amser ar ôl cwblhau eich TGAU.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae llawer o wahanol ddewisiadau ar gael a fydd yn datblygu eich gyrfa.

Mae nifer o’r rhain ar gael drwy eich coleg Addysg Bellach lleol; yn ogystal â hyn, efallai y byddwch yn ystyried cynyddu lefel eich cymhwyster gan astudio’n rhan amser ar gyfer gradd neu radd sylfaen.

Edrychwch ar wefannau Prifysgolion a Cholegau am fanylion ar gyrsiau rhan amser sy’n berthnasol i beirianneg a chymwysterau sy’n fwy perthnasol i fusnes a rheoli; bydd y rhain yn rhoi ystod eang o sgiliau i chi ac o bosib yn fuddiol i’ch llwybr gyrfa ddelfrydol.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Oes, mae hon yn yrfa wych ar gyfer datblygiad gyrfa, o brentisiaeth i statws technegol ac yna rôl oruchwylio.

Wrth gadw’r cydbwysedd priodol rhwng brwdfrydedd ac ymroddiad, does dim rheswm pam y dylai’r swydd hon fod yn ddiwedd ar ddyrchafiadau gan mai’r cam nesaf fydd rôl rheoli.