Felly am beth mae hyn i gyd?
Byddwch yn rheoli’r swyddogaeth gynnal yn eich cwmni ac mae hynny’n golygu gofalu am y peiriannau a’r cyfarpar yn y cwmni neu eich rhan chi ohono.
Byddwch â chyfrifoldeb am arwain y tîm cynnal, systemau cynnal ataliol, darnau sbâr a storfeydd.
Bydd eich swydd chi’n cynnwys gofalu fod yna cyn lleied ag sydd bosib o fethiannau sy’n arwain at golli cynhyrchiad a bod popeth yn mynd ymlaen yn llyfn ac yn ôl yr amserlen.
Golyga hyn gynllunio, cyfarwyddo a chydlynu gweithgareddau’n ddyddiol.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Yn dibynnu ar ble rydych chi’n gweithio mae’r dyletswyddau canlynol yn debygol:
- Arwain a rheoli pob agwedd ar adran gynnal a chadw’r cwmni
- Llunio cyllidebau adrannol a chyfalaf fel y bo’r angen a gofalu cyflawni targedau
- Rheoli gweithrediad prosiectau peirianneg a gwella prosesau
- Goruchwylio a rheoli lefelau’r stoc sy’n ofynnol ar gyfer cynnal a chadw
- Rheoli pob agwedd ar Adnoddau Dynol yr adran gynnal a chadw yn cynnwys hyfforddi a datblygu’r staff
- Cysylltu â staff cynhyrchu a chynllunio ynglŷn â gweithgaredd cynnal ataliol
- Cyfarfod â chyflenwyr cyfarpar a gofalu fod yr holl offer newydd yn rhedeg yn ôl y manylebau
- Gofalu cadw at yr holl safonau ansawdd
- Gofalu fod gwelliannau’n cael eu gweithredu i leihau cyfnodau tawel a gwella proffidioldeb y cwmni
- Darparu gwybodaeth ac arbenigedd technegol i ddatrys problemau
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Byddai cefndir mewn gweithgynhyrchu bwyd a’r cyfarpar a ddefnyddir yn ddisgwyliedig ar gyfer y swydd hon.
Yn ogystal â’ch arbenigedd technegol sydd wedi’i brofi bydd angen i chi fod yn berson trefnus iawn sy’n gallu delio’n dawel â phroblemau cyffredin o ran torri lawr ac ar yr un pryd yn gweld y darlun mwy a chynllunio ar gyfer gweithgareddau cynnal ataliol a phrosiectau mawr.
Disgwylir i chi fod yn rheolwr da o ran pobl hefyd gan y bydd yn rhaid i chi arwain tîm o staff a gofalu eu bod yn gwneud eu gwaith yn effeithiol.
Yn ogystal â hyn bydd yn rhaid i chi fod â pheth profiad ariannol hefyd er mwyn gallu datblygu costau rheoli cyllidebau adrannol.
Beth alla i ddisgwyl?
Gallwch ddisgwyl cael amserlen amrywiol sy’n golygu gweithio oriau hirach na’r arfer o bryd i’w gilydd a baeddu eich dwylo’n achlysurol!
Os oes gennych chi swyddogaeth bwrcasu yna mae teithio’n debygol wrth i chi ddod o hyd i ffynonellau offer a pheiriannau newydd ar gyfer eich cwmni.
Beth am y cyflog?
Yn dibynnu ar eich profiad a chwmpas y rôl dylech ddisgwyl cyflog o rhwng £30,000 a £40,000 y flwyddyn.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Nid swydd lefel mynediad yw hon gan amlaf ac mae’n debygol y bydd angen i chi fod â pheth profiad blaenorol cyn i chi ystyried y rôl.
Mae sawl man cychwyn ym maes Peirianneg, o Brentisiaethau hyd at gymwysterau ôl-raddedig a gallwch astudio ar gyfer y rhain mewn colegau Addysg Bellach a phrifysgolion lleol.
Beth am hyfforddiant pellach?
Eto mae nifer o gymwysterau ac opsiynau hyfforddi ar gael i chi fel peiriannydd; gallech ddilyn cyrsiau arbenigol sy’n eich helpu i wneud eich gwaith yn well (fel y rhai a gynigir gan wneuthurwyr offer) neu efallai yr hoffech ystyried cymwysterau lefel meistr a allai fod yn berthynol i’ch gwaith, neu sy’n rhoi sail gwybodaeth ehangach i chi ar reolaeth ac arweinyddiaeth.
Y ffordd orau o ymchwilio’n union beth sydd ei angen arnoch chi neu’r hyn mae arnoch chi ei eisiau yw edrych ar y gwahanol ddarganfyddwyr cyrsiau ar gyfer colegau a phrifysgolion.
Gallech hefyd ystyried aelodaeth o gyrff proffesiynol, ac mae llawer ohonynt yn cynnal eu cymwysterau eu hunain a bydd y rhain i gyd yn eich helpu â’ch datblygiad proffesiynol parhaus.
Un enghraifft fyddai Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Gallwch ddisgwyl tipyn o amrywiaeth yn y swydd oherwydd, waeth pa mor dda y mae eich cynlluniau cynnal ataliol yn gweithio, weithiau bydd peiriannau’n torri i lawr a hynny’n gofyn am eich sylw llawn.
Mae cefndir mewn peirianneg yn opsiwn gyrfa ardderchog fodd bynnag!