English en
Peiriannydd Cynhyrchu Bwyd

Felly am beth mae hyn i gyd?

Mae Peirianwyr yn chwarae rôl hanfodol mewn gweithgynhyrchu bwyd, ac mae galw mawr amdanynt – gyda’r cymwysterau iawn, bydd gyrfa wych o’ch blaen. Gyda nifer o safleoedd yn gweithio bob awr o’r dydd a’r broses yn dod yn fwyfwy  awtomatig, mae’r angen am gynnal a chadw offer a pheiriannau a’u cadw’n barod i’w defnyddio yn hanfodol ar gyfer cynhyrchiant.

Mae amrywiaeth eang o swyddi Peirianneg a Pheirianneg Cynnal a Chadw ar gael o fewn meysydd Mecanyddol a Thrydanol. Bydd mwyafrif y cwmniau gweithgynhyrchu a phrosesu yn cyflogi Peirianwyr Aml-Sgil yn ogystal â Pheirianwyr Awtomatiaeth/Trydanol mwy arbenigol.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Gall rôl Peiriannydd mewn prosesu bwyd fod yn amrywiol iawn, ac nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Mae tasgau’n cynnwys cyflawni gwaith trydanol a mecanyddol megis cynnal a chadw bwriadol, ymateb i fethiannau, darganfod a gwaredu achosion problemau a gweithio ar brosiectau gwelliant parhaus.

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Mae angen i beirianwyr fod yn ragweithiol, hyblyg ac yn gyfathrebwyr gwych. Bydd mwyafrif swyddi Peirianneg yn seiliedig ar waith sifft, felly os mai eistedd wrth ddesg rhwng 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener sy’n mynd â’ch bryd, efallai nad yw gyrfa peirianneg yn addas i chi. Yn hytrach, gallech fod yn gweithio sifft 12 awr, ond gyda mwy o ddyddiau rhydd na’ch ffrindiau 9-5. Bydd rhai swyddi’n cynnwys rota dyletswydd lle byddwch yn cymryd eich tro i fod ‘ar alw’ ac yn barod i ddod i’r gwaith os oes problem enfawr.

Beth alla i ddisgwyl?

Mae Peirianneg yn yrfa anodd, ond hefyd yn un sy’n rhoi boddhad. Mae prinder sgiliau wedi bod yn y diwydiant bwyd a diod am beth amser, ac wrth i brosesau ddod yn fwy awtomatig, mae’r angen am beirianwyr o safon uchel yn hanfodol. Mae gweithio ar yr offer diweddaraf yn gyffrous, ac mae’r cyflogau cychwynnol yn atyniadol iawn!

Beth am y cyflog?

Er bod cyflogau’n dibynnu’n helaeth ar yr union rôl a’r busnes yr ydych yn gweithio iddynt, gall Technegydd Peirianneg yn nodweddiadol ennill rhwng £30-45 mil gyda phrofiad. Yna gallwch symud ymlaen i Reoli Cynhyrchiant lle gall cyflogau amrywio o £45 i 80 mil gan ddibynnu ar faint y busnes, eich rôl a maint y tîm.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Bydd graddau TGAU da mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth yn fanteisiol, a gallai Lefel A mewn Mathemateg, Ffiseg, Cemeg neu Fioleg fod yn ddefnyddiol - ond gallwch gal mynediad i beirianneg bwyd gyda chymwysterau TGAU da eraill os ydych yn dilyn trywydd galwedigaethol o goleg Addysg Bellach neu trwy raglen rhyddhau fesul diwrnod neu floc ac astudio yn y gweithle os ydych yn cael Prentisiaeth Peirianneg.

Os ydych am ddilyn y trywydd Lefel A, byddem yn eich hagymell i edrych ar y cwrs a gynigir gan Brifysgol Sheffield Hallam. Sefydlwyd y cwrs hwn gyda chymorth y  diwydiant bwyd a hwn yw’r cwrs gradd peirianneg cyntaf o’i fath at ddiben gweithgynhyrchu bwyd ac mae’n cynnwys dysgu arbenigol sy’n addas i’r sector a mynediad i’r National Centre of Excellence for Food Engineering.

Mae’r cwrs gradd hefyd yn cynnwys profiad gwaith sicr a chyswllt cyson â’r diwydiant – camau gwych tuag at yrfa llewyrchus.

Beth am hyfforddiant pellach?

Bydd cyfleoedd bob amser i hyfforddi ymhellach wrth i offer newydd gyrraedd ac i reoliadau newid. Mae ystod eang o feysydd y gallwch arbenigo ynddynt megis Awtomatiaeth, Gwasanaethau Safle a Rheoli Prosiect ayyb.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i’w wybod?

Yn y Diwydiant Bwyd a Diod, os nad yw’r peiriannau’n gweithio, yna ni ellir gweithgynhyrchu’r cynnyrch, ac nid yw’r cwsmeriaid yn derbyn eu nwyddau. Ni ellir diystyru cyfraniad peirianneg, a gall y cyfrifoldeb ddod â llawer iawn o foddhad – mae hefyd yn lot fawr o hwyl!

Datblygiad gyrfa

Fel arfer, byddech yn dechrau eich gyrfa Peirianneg fel Prentis neu gyfwerth o fewn strwythur nodweddiadol gan gynnwys Technegwyr Peirianneg, Arweinwyr Tîm Peirianneg a Rheolwr Peirianneg. I’r rhai sydd â llai o ddiddordeb mewn rheoli pobl, bydd datblygiad gyrfa yn aml yn symud tuag at Reoli Prosiect. Gall hyn gynnwys cyfrifoldeb dros osod offer gwerth miliynau, estyniadau safle ayyb.