English en
Rheolwr Deall Cwsmeriaid

Felly am beth mae hyn i gyd?

Byddwch yn gweithio’n galed i greu ac adeiladu cysylltiadau allweddol o fewn cronfa gwsmeriaid eich cwmni, a hynny’n debygol o gynnwys un neu fwy o’r cadwyni archfarchnadoedd mawr.

Fe ddyrennir maes arbennig o waith i chi fel Rheolwr Deall Cwsmeriaid ganolbwyntio arno a bydd hynny’n dibynnu ar beth yn union y bydd eich cwmni’n ei gynhyrchu a’i werthu.

Bydd y swydd yn golygu eich bod yn treulio mwyafrif eich amser yn dadansoddi data allweddol ac yn defnyddio’r wybodaeth a geir i ddarogan gwerthiannau a phrisiau’r dyfodol yn effeithiol, helpu i ddatblygu strategaethau marchnata ar gyfer eich categori arbennig chi a sicrhau bod lefelau gwastraff yn cael eu lleihau.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Byddwch yn casglu ac yn dadansoddi’r holl ddata cwsmeriaid sy’n berthnasol fel y bydd yn gymwys i’ch categori, eich cwsmeriaid neu eich cynnyrch chi ac yna byddwch yn defnyddio hwn i gyflwyno’r mewnwelediadau y byddwch yn eu datgelu, fel rheol i’r rheiny sy’n ymwneud â gwerthiannau a marchnata.

Er mai gwaith swyddfa yw yn bennaf, mae’n debygol y byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â’ch cwsmeriaid allanol hefyd; bydd y bobl allweddol y byddwch yn cyfarfod â hwy’n cynnwys staff Technegol, Datblygu Cynnyrch newydd a staff Masnachol a byddwch yn eu helpu â’u strategaethau sydd, wrth gwrs, yn gwella gwerthiannau eich cwmni.

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Fe ddisgwylir i chi gyflenwi dadansoddiad manwl a chywir yn amserol a chynorthwyo ag argymhellion ar gyfer staff gwerthiant a marchnata, yn ogystal â mewnbwn i ddatblygiad cynhyrchion newydd o fewn eich maes arbenigedd chi.

Beth alla i ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl y byddwch yn dod yn arbenigwr ym maes rheoli categori yn gyffredinol a hefyd y cynnyrch penodol iawn a/neu’r categori rydych chi’n gyfrifol amdano.

Beth am y cyflog?

Bydd y cyflog  am swydd fel hon yn dda yn unol â’r ffaith fod angen sawl blwyddyn o brofiad o ymchwil marchnad fel arfer.

Bydd cyflogau’n amrywio o gwmni i gwmni gyda ffigwr o rhwng £30,000 a £45,000 o gwmpas y cyflog cyfartalog.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Byddwch yn debygol o fod â chymhwyster lefel gradd fel cymhwyster sylfaenol ar gyfer swydd Rheolwr Deall Cwsmeriaid.

Mae swyddi graddedigion ar gael ym maes ymchwil marchnad a dyma fan cychwyn delfrydol ar gyfer y Rheolwr Deall Cwsmeriaid. 

Beth am hyfforddiant pellach?

Gall hyn ddibynnu ar eich cymhwyster wrth ddod i mewn. Gall y rheiny sy’n gymwysedig ym meysydd marchnata ac astudiaethau cwsmeriaid ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig sy’n ymwneud â’r meysydd hyn.

Gallai eraill sydd heb hynny ddymuno dechrau ar hyfforddiant ar lefel israddedig neu gyfwerth.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes. Yn ogystal â’r ymchwil a’r adroddiadau sy’n rhan allweddol o’ch rôl, bydd y cyfarfodydd a gewch chi â chynrychiolwyr pwysig eich cwmni’n golygu eich bod yn llysgennad i’ch cyflogwr yn ogystal â gweddill y swydd!