English en
Rheolwr Gwelliant Parhaus

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel rhan o’r rôl arbenigol hon yn y diwydiant bwyd, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio amrywiaeth o brosesau a gweithdrefnau, gan sicrhau bod y lefelau perfformiad uchaf posib yn cael eu cyrraedd.

Yn ogystal, bydd disgwyl i chi adolygu’r prosesau a’r gweithdrefnau hyn gyda’r bwriad o’u mireinio a’u gwella.

Gellir crynhoi eich swydd fel cynnal ac ehangu ar ganlyniadau’r broses gwelliant parhaus.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd y rhain yn amrywio fel arfer, ond maent yn debygol o gynnwys y canlynol:

  • Cyflwyno a chefnogi gwelliant parhaus o fewn eich cwmni
  • Datblygu a mesur safonau ar gyfer prosesau busnes ac adnabod cyfleoedd ar gyfer gwelliant
  • Darparu gwelliannau ar gyfer y busnes, weithiau dros fwy nag un safle
  • Rheoli gweithrediad mentrau gwella, weithiau dros fwy nag un safle
  • Cydweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol er mwyn gwneud gwelliannau cynaliadwy ar hyd y gadwyn gyflenwi
  • Defnyddio amrywiaeth o dechnegau gwella busnes er mwyn cyflawni eich rôl yn llwyddiannus
  • Monitro ac adrodd ar gynnydd prosiectau
  • Rheoli newidiadau wrth iddynt ddigwydd wrth gyflwyno prosiectau gwella busnes
  • Argymell a datblygu gwelliannau
  • Sicrhau bod cynnydd yn cael ei gynnal yn barhaus
  • Hyfforddi a datblygu staff ynglŷn â phrosesau newydd

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

  • Bydd angen i chi feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â thechnegau gwella busnes megis technegau diwastraff a six sigma, ac yn gallu eu gweithredu’r rhain yn y ffordd orau o fewn yr amgylchedd gweithgynhyrchu bwyd
  • Bydd angen gwybodaeth eang ynglŷn â’r diwydiant bwyd a’r materion cyfreithiol sy’n gysylltiedig – bydd hynny’n sicrhau bod eich gwelliannau’n ddiogel yn ogystal ag yn effeithiol!
  • Bydd angen i chi fod yn berson sy’n mwynhau gweithio gyda phobl gan fod y rôl yn golygu sicrhau bod eraill yn cydfynd â’ch syniadau.
  • Bydd angen i chi fod â phrofiad o reoli prosiect ac mae’n rhaid i chi allu sicrhau bod eich gwaith yn cyd-fynd â gofynion y busnes
  • Mae’n debygol iawn y bydd disgwyl i chi ddangos hanes o lwyddiant yn y maes arbenigol hwn
  • Mae natur y swydd yn golygu bod angen i chi allu gweithio dan bwysau ac o dan straen, yn enwedig wrth i chi ddatrys problemau annisgwyl a gwneud penderfyniadau
  • Mae’n bosib y byddwch yn rhedeg sawl prosiect ar yr un pryd, felly mae angen i chi fod yn berson trefnus iawn sy’n gwybod sut i flaenoriaethu amser

Beth alla i ddisgwyl?

Mae’n bosib y bydd gofyn i chi deithio yn y swydd hon er mwyn gweithredu gwelliannau parhaus ar wahanol safleoedd yn ogystal ag ymchwilio i enghreifftiau o arfer dda mewn mannau eraill y byddech yn gallu eu gweithredu yn eich gweithle eich hun. Ni fydd eich oriau’n gwbl sefydlog chwaith gan y bydd eich gwelliannau’n annatod yn cael eu gweithredu ar draws gwahanol batrymau sifft, gan olygu y bydd angen i chi fod yn bresennol er mwyn datrys problemau.

Beth am y cyflog?

Nid yw hon fel arfer yn rôl ar gyfer rhywun sydd newydd raddio- mae’n fwy addas ar gyfer person proffesiynol a phrofiadol.

Felly mae’r swydd yn talu’n dda gyda chyflog o oddeutu £40,000.

Mae’r cyflog yn debygol o amrywio gyda nifer y cymwysterau gwella busnes penodol sydd gennych.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae nifer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau gradd ôl-raddedig mewn Gwelliant Busnes ac mae’r rhain yn cael eu cydnabod fwy a mwy gan gyflogwyr yn y sector gweithgynhyrchu bwyd fel cymwysterau defnyddiol ar gyfer rôl rheolwr gwelliant parhaus.

Ceir hefyd gormod o arbenigeddau i’w rhestru’n unigol, ond gweler rhai o’r cymwysterau mwyaf cyffredin isod:

  • Cynnal a Chadw Cynhyrchiant
  • Hyfforddiant yn ymwneud â Thechnegau Diwastraff
  • Cyrsiau hyfforddiant Six Sigma
  • Diploma CGC Lefel 2 a 3 mewn Technegau Gwella Busnes

Mae’r rhain yn cael eu cynnig mewn colegau, neu’n fwy tebygol o bosib gyda hyfforddwr preifat cymeradwy, a fydd yn darparu pecyn hyfforddiant wedi’i deilwra ar y safle.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae Rôl Rheolwr Gwelliant Parhaus wedi dod i fodolaeth yn benodol er mwyn cynnal a datblygu prosiectau gwelliant amrywiol - cyn bodolaeth y rôl, roedd gwelliannau proses yn dueddol o arafu ymhen amser gan nad oedd yn berson penodol wedi’i gyflogi i sicrhau bod y momentwm yn parhau.

Mae hynny’n gwneud y swydd hon yn bwysig iawn i bob cwmni!