English en
Cydlynydd Cyfathrebu

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel cydlynydd marchnata a chyfathrebu byddwch yn gwella amlygrwydd a delwedd gyhoeddus eich cwmni trwy weithredu'r strategaeth gyfathrebu.

Byddwch yn defnyddio ystod o offer a sianeli cyfathrebu marchnata er mwyn darparu neges y busnes i’r cyhoedd yn uniongyrchol a thrwy’r cyfryngau.

Golyga hyn y byddwch yn helpu gyda datblygu gwefannau, pamffledi, hysbysebu, hyrwyddiadau, ymgyrchoedd marchnata a dogfennau briffio.

Efallai y bydd angen i chi ysgrifennu areithiau er mwyn i reolwyr eu cyflwyno, a threfnu a chyflwyno hyfforddiant cyfathrebu mewnol o bosib.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Gallai eich tasgau gynnwys:

  • Llunio a dosbarthu datganiadau i’r wasg
  • Rheoli’r gyllideb cyfathrebu
  • Diweddaru gwefan a chyfrif Trydar y cwmni
  • Negodi contractau gyda chontractwyr allanol
  • Cynhyrchu cylchlythyr y cwmni a gwybodaeth ychwanegol.
  • Datblygu negeseuon i’w defnyddio gan gynrychiolwyr y cwmni
  • Gweithredu fel llefarydd ar ran y cwmni ar gyfer cysylltiadau â’r cyfryngau
  • Sicrhau bod negeseuon y cwmni yn cael eu cyfleu’n gyson
  • Cynllunio digwyddiadau’r cwmni
  • Hwyluso teithiau safle a digwyddiadau tebyg eraill
  • Cyflwyno i gynadleddau

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Bydd disgwyl i chi feddu ar sgiliau Saesneg gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar a’r gallu i ddadansoddi gwybodaeth yn gyflym ac mewn ychydig eiriau. 

Byddwch yn rheoli nifer o sianeli cyfathrebu, a bydd rhaid i chi fod yn drefnus er mwyn gallu cydbwyso popeth yn effeithlon.

Oherwydd y bydd terfynau amser yn dynn gan amlaf, bydd disgwyl i chi gynhyrchu gwybodaeth gywir yn amserol a bydd angen i chi fod yn ddarllenwr prawf medrus er mwyn sicrhau bod yr hyn y byddwch chi neu eraill yn eu hysgrifennu yn gwneud synnwyr.

Byddwch yn hynod o hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiadur ac yn gyfarwydd ag ystod o raglenni meddalwedd cyflwyno.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o bopeth sy’n digwydd o fewn eich cwmni ac ymchwilio i weld beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud a chymryd camau yn unol â hynny.

Bydd disgwyl i chi ddatrys unrhyw broblem a fydd yn codi a dod yn gyfarwydd â sianeli gwybodaeth newydd fel y gall y cwmni fanteisio ar y rhain.

Wrth gwrs, byddwch gennych sgiliau gwych o ran ymdrin â phobl oherwydd mai dyna yw craidd y swydd – cyfathrebu â phobl a dylanwadu ar eu hymddygiad a’u hagweddau tuag at gynnyrch eich cwmni.

Beth alla i ddisgwyl?

Er mai oriau swyddfa arferol fydd eich oriau craidd a byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’r diwrnod mewn swyddfa yn gweithio o flaen cyfrifiadur, yn aml mae gofynion sylweddol i fynychu digwyddiadau a chynadleddau ac ati y tu allan i’ch oriau gweithio.

Efallai byd gofyn i chi deithio yn ogystal, ond byddwch yn cadw mewn cysylltiad trwy gydol yr amser – gallwch hefyd ddisgwyl i bobl gysylltu â chi ar unrhyw adeg am sylwadau felly bydd rhaid i chi fod ar gael trwy’r wythnos ac weithiau ar benwythnosau.

Beth am y cyflog?

Bydd hyn yn dibynnu ar eich profiad, ond byddwch yn ennill dros £25,000 gydag uwch staff cyfathrebu’n ennill llawer mwy na’r ffigwr hwnnw.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Bydd angen i chi feddu ar radd mewn pwnc megis Marchnata, Busnes, Cysylltiadau Cyhoeddus, Saesneg, Economeg, Newyddiaduraeth neu bwnc tebyg, ac mae’n debygol y bydd angen i chi feddu ar ychydig flynyddoedd o brofiad o fewn cyfathrebu cyn i chi ymgymryd â’r rôl hon.

Mae’n bosib eich bod chi wedi dechrau gweithio fel hyfforddai graddedig ac efallai bod y profiad a gawsoch yn rhan o raglen  i raddedigion a allai gynnwys ychydig o waith marchnata, gwerthu neu gyfathrebu – bydd hyn i gyd yn helpu.

Er nad yw cymhwyster ôl-radd yn ofynnol yn y rhan fwyaf o achosion, efallai y byddai gradd Meistr berthnasol yn fanteisiol, yn ogystal â chymwysterau’r Chartered Institute of Marketing (CIM), Institute of Practitioners in Advertising (IPA) neu gymwysterau’r Chartered Institute of Public Relations (CIPR)

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae yna ystod o gyrsiau ôl-raddedig y gallwch eu hystyried naill ai fel opsiwn llawn amser ar ôl i chi raddio neu ar sail rhan-amser fel cyflogai.

Fel arall, mae yna ystod o gyrsiau sydd ar gael gan gyrff proffesiynol megis y Sefydliad Marchnata Siartredig, er enghraifft y Diploma mewn Cyfathrebu Marchnata sydd ar gael ar sail dysgu o bell.

Efallai y byddai’n syniad i chi ystyried ymaelodi â chorff proffesiynol megis yr CIM neu CIPR, fel eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am y digwyddiadau diweddaraf, yn ogystal ag arddangos eich ymrwymiad i’r rôl.

Yn olaf, gallai ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac aelodaeth o’r CIM roi cyfle i chi ymgeisio ar gyfer statws Marchnatwr Siartredig. Mae hynny’n dangos eich bod yn farchnatwr proffesiynol, profiadol a chymwys.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae rôl y cydlynydd cyfathrebu yn aml yn gontract allanol gan gwmnïau bwyd bach a chanolig, felly efallai y byddwch yn cael gwaith o fewn asiantaeth cyfathrebu arbenigol sy’n gwasanaethu’r sector.

Gall eich gyrfa ddatblygu tuag at uwch swyddi marchnata neu swyddi cysylltiadau cyhoeddus gyda hanes o lwyddiant blaenorol.