English en
Rheolwr Categori

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Rheolwr Categori, byddwch yn canolbwyntio ar reoli mwy nag un categori o gynnyrch bwyd.

Bydd hyn yn ymwneud â sicrhau bod digon o adnoddau mewn lle i wneud eich cynnyrch, cadw’r lefelau stoc cywir, a gweithio gyda’r adran gwerthu a marchnata i hyrwyddo prisiau sefydlog y cynnyrch.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Byddwch yn cydlynu’r holl bobl sy’n gyfrifol am eich cynnyrch, o’r dechrau i’r diwedd a sicrhau eu bod yn bodloni’r dangosyddion perfformiad allweddol a osodwyd gennych.

Os bydd meysydd lle bo angen hyfforddiant technegol bydd angen i chi gysylltu â staff hyfforddi er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.

Bydd hyn yn sicrhau llwyddiant eich cynnyrch ac yn cynyddu elw eich cwmni.

Byddwch hefyd yn ymdrin â’r prif gwsmeriaid sy’n prynu eich cynnyrch, ac mae hyn yn golygu’r prif archfarchnadoedd yn ogystal â manwerthwyr bwyd lleol llai o faint. Golyga hyn eich bod yn meddu ar sgiliau pobl gwych a gallu i gyflwyno gan y byddwch yn cynrychioli eich cwmni o flaen eich cwsmeriaid; mae hyn hefyd yn bwysig gan mai chi fydd y cyswllt cyfathrebu rhwng y cwsmer a’r staff perthnasol.

Bydd eich dadansoddiad o dueddiadau, cystadleuwyr, a lefelau pryniant eich cynnyrch yn hanfodol gan y bydd eich argymhellion yn dylanwadu ar welliannau i’r cynnyrch a hefyd y polisi prisio sy’n cael ei bennu ar ei gyfer; bydd disgwyl i chi sicrhau bod eich cwsmeriaid a’r holl staff perthnasol yn ymwybodol o’r newidiadau a datblygiadau deddfwriaethol yn ogystal.

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Byddwch yn berson hyderus a dylanwadol sy’n gallu datblygu a thyfu perthynas gyda’ch cydweithwyr a’ch cwsmeriaid. Chi fydd arbenigwr y cwmni yn eich categori a dylech sicrhau bod ganddynt wybodaeth gyfredol ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau newydd a allai effeithio ar eich rôl.

Fel un sy’n gweithio yn y sector bwyd, byddwch yn barod i wneud penderfyniadau’n gyflym ac yn gywir, heb golli unrhyw fanylion nag eglurdeb.

Beth alla i ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl datblygu dealltwriaeth eang o’r cwmni a’r ffordd y mae’n ymdrin â chwsmeriaid.

Dylai hyn eich rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer dyrchafiad pellach.

Beth am y cyflog?

Bydd lefel y cyflog yn amrywio o gwmni i gwmni ac o sector i sector ond dylai rheolwr categori profiadol ennill ymhell dros £30,000 y flwyddyn

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Yn nodweddiadol bydd arnoch angen gradd mewn pwnc yn ymwneud â marchnata.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, pwrpas eich swydd fydd i sicrhau’r berthynas orau rhwng eich cyflogwr a’r cwsmer er mwyn sicrhau bod pawb yn elwa dros gyfnod hir.