Beth yw’r swydd?
Fel addurnwr cacennau byddwch yn treulio’ch amser yn creu addurniadau gwych ar gacennau, fel arfer ar gyfer penblwyddi a phriodasau, neu ddigwyddiadau arbennig eraill.
Mae’n bosib y byddwch yn gyfrifol am y broses gyfan o bobi’r gacen a’i haddurno; neu efallai y byddwch yn cael eich cyflogi i addurno cynnyrch rhywun arall.
Gallwch weithio i chi’ch hun, neu gael eich cyflogi gan bopty mawr neu fach
Eich swydd chi yw creu cacennau sydd, nid yn unig yn blasu’n wych, ond yn edrych yn ardderchog hefyd!
Beth allaf fod yn ei wneud?
Gallai’r swydd amrywio gan ddibynnu ar ble rydych chi’n gweithio oherwydd mae’n bosib y cewch eich cyflogi gan fusnes mawr, popty bychan annibynnol, neu fod yn hunangyflogedig.
Serch hynny, mae’n debygol y byddwch yn gwneud y rhan fwyaf o’r canlynol:
- Trafod syniadau dylunio gyda chwsmeriaid
- Creu dyluniadau ac addasu yn ôl gofynion y cwsmer
- Gosod offer a gweithio’n annibynnol
- Pobi cacennau yn ôl archeb a’u rhoi at ei gilydd os oes angen
- Ychwanegu addurniadau, siocled ac eising i gacennau
- Ysgrifennu negeseuon ar gacennau gydag eising
- Gwneud eising, ffondant, siocled ayb.
- Defnyddio offer amrywiol i greu eich creadigaeth
- Glanhau a storio offer pan fyddwch wedi gorffen y gwaith
- Gwirio lefelau stoc a phrynu cynhwysion
- Gwneud profiad y cwsmeriaid yn un boddhaol bob tro
- Hyrwyddo’r busnes a gwerthu’r cynnyrch gorffenedig
- Defnyddio sgiliau rheoli amser i gwrdd â therfynau amser
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
Os ydych chi am fod yn addurnwr cacennau, mae angen llygad artistig a dawn greadigol arnoch er mwyn creu dyluniad unigryw ar gyfer pob cwsmer, ac yna dilyn hyn gyda chynnyrch bendigedig.
Bydd angen llaw gadarn arnoch, llygaid craff a sylw at fanylder oherwydd bydd angen i’ch gwaith fod yn unffurf o ran siâp, lliw ayb.
Bydd angen rhywfaint o allu mecanyddol arnoch hefyd er mwyn gosod offer a’u tynnu’n rhydd ar ôl eu defnyddio oherwydd byddwch yn defnyddio amrywiaeth o offer gan gynnwys chwistrell baent.
Mae dyfalbarhad yn bwysig oherwydd gallwch fod ar eich traed am y rhan fwyaf o’r amser, yn gweithio mewn ystafell oer o bosib, er mwyn atal yr eising rhag toddi.
Peidiwch ag anghofio fod rhifedd yn hanfodol ar gyfer addurnwr cacennau er mwyn mesur cynhwysion yn gywir neu ddylunio gan ddefnyddio technegau mathemategol.
Hefyd, mae golwg lliw yn hanfodol!
Beth allaf ei ddisgwyl?
Gallwch ddisgwyl gweithio i derfynau amser weithiau, er enghraifft, pan fyddwch yn cymryd archeb ar frys; gallai hyn olygu gweithio oriau hir ar fyr rybudd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol os ydych yn hunangyflogedig.
Gallwch ddisgwyl gweithio’n annibynnol am gyfnodau, ond bydd amser yn gwibio pan fyddwch yn brysur yn creu eich dyluniadau ysblennydd!
Gallwch ddisgwyl derbyn pob math o adborth gan eich cydweithwyr a’ch cwsmeriaid felly peidiwch â digalonni os nad yw’r dyluniad rydych chi wedi gweithio’n galed i’w greu at ddant pawb - byddwch yn barod i’w newid os oes angen!
Yn olaf, gallwch ddisgwyl digon o amser i fynegi eich creadigrwydd a’ch dawn yn swydd yr addurnwr cacennau.
Beth am y cyflog?
Bydd hyn yn amrywio yn ôl profiad a chyflogwr, ond gallwch ddisgwyl y canlynol:
- Gallai addurnwr cacennau dan hyfforddiant ennill £12,000 y flwyddyn a allai godi i £20,000 gyda phrofiad.
- Gallai addurnwyr cacennau hynod brofiadol ennill hyd at £25,000 y flwyddyn
- Os ydych yn hunangyflogedig, gallwch godi rhwng £8 a £14 yr awr; bydd eich enillion yn amrywio yn ôl faint o waith rydych chi’n ei gyflawni.
- Cofiwch mai canllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?
Nid oes gofynion penodol, ond fel arfer mae angen profiad gyda phobi ac addurno cacennau. Hefyd, efallai y bydd cyflogwyr yn gofyn am dystiolaeth o’ch gallu gyda gwahanol dechnegau addurno cacennau felly sicrhewch eich bod yn tynnu lluniau o’ch gwaith gorau - gallwch ychwanegu’r rhain at bortffolio y gallwch ei ddefnyddio i werthu eich arbenigedd.
Gallwch hefyd ystyried gwneud cwrs addysg bellach mewn patisserie neu felysion, er enghraifft:
- Tystysgrif Lefel 2/3 City & Guilds mewn Patisserie a Melysion Cyffredinol
- Efallai y byddwch hefyd yn ystyried mynd yn syth i weithio gyda phrentisiaeth pobi.
- Cofiwch fod eich TGAU yn bwysig, yn enwedig A* i C Mathemateg a Saesneg
Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?
Mae nifer o’r cymwysterau hyn ar gael mewn colegau addysg bellach lleol, felly, edrychwch ar yr un agosaf atoch chi i weld os oes ganddyn nhw gwrs addas.
Gallwch hefyd ymweld â gwefan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod am wybodaeth am gymwysterau pobi.
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae llawer o gymwysterau y gallwch eu hystyried sydd wedi’u hanelu at eich gwneud chi’n arbenigwr yn eich crefft.
Gallwch hefyd ystyried ymaelodi gyda’r British Sugarcraft Guild, sefydliad nid er elw sy’n hyrwyddo unrhyw beth sy’n ymwneud ag addurno cacennau a gwaith siwgr; mae eu nod yn cynnwys rhannu gwybodaeth, datblygu dawn a gwella safonau, pethau y dylai fod o ddiddordeb i addurnwr cacennau.
A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?
Oes, mae nifer o addurnwyr cacennau yn dechrau trwy greu ac addurno cacennau i’w ffrindiau a’u teuluoedd fel diddordeb, felly, gallwch ennill ychydig o brofiad ac adborth cyn ymrwymo i yrfa.
Gyda phrofiad a dawn, gallech agor eich busnes eich hun neu hyd yn oed ddechrau dysgu sut i ddylunio ac addurno cacennau.