Felly am beth mae hyn i gyd?
Mae rôl y prynwr yn ffactor allweddol sy’n effeithio ar lwyddiant unrhyw gwmni gweithgynhyrchu bwyd.
Fel prynwr, byddwch yn canolbwyntio ar ddod o hyd i a phrynu’r holl ddeunydd crai sy’n angenrheidiol ar gyfer cynhyrchiant llwyddiannus, a hynny am y pris gorau posibl ac yn unol â gofynion o ran ansawdd.
Byddwch bob amser yn chwilio am ddeunyddiau newydd o ansawdd gwell i gadw eich cwmni gam o flaen y cystadleuwyr.
Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod popeth sydd ei angen ar gyfer cynhyrchu ar gael yn brydlon a bod cyfanswm addas yn cael ei brynu er mwyn cael gwerth am arian a lleihau gwastraff.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Bydd eich swydd fel prynwr yn debygol o gynnwys y rhan fwyaf o’r cyfrifoldebau canlynol:
- Sicrhau bod yr holl ddeunyddiau’n cael eu prynu ar amser, yn unol â’r gofynion, ac am y pris gorau posibl
- Negodi gyda chyflenwyr a datblygu perthynas gytundebau hir dymor
- Cysylltu gyda staff cynllunio a chynhyrchu at ddibenion creu rhagolygon
- Cydlynu dosbarthiad a chynnal lefelau stoc addas er mwyn gwneud i’r broses cynhyrchu symud yn ei flaen yn rhwydd
- Sicrhau bod cefnogaeth dechnegol ar gael ynglŷn â’r cynnyrch yn ôl galw’r cyflenwyr
- Sicrhau bod stoc yn cael ei gylchdroi’n effeithiol er mwyn lleihau gwastraff
- Canfod ffynonellau newydd a gwahanol ar gyfer cyflenwi cynnyrch
- Rheoli tîm o brynwyr arbenigol a nifer o gynnyrch gwahanol
- Monitro’r farchnad ar gyfer deunyddiau newydd
- Cyllidebu a chreu rhagolygon cywir
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Bydd disgwyl i chi weithio mewn modd rhagweithiol a strategol er mwyn sicrhau bod y busnes yn gallu derbyn cyflenwad diddiwedd o ddeunyddiau ar gyfer cynhyrchu.
Bydd angen i chi ymchwilio’r farchnad yn barhaus am ddeunyddiau newydd ac i sicrhau nad ydych yn cael eich dal allan pe byddai prinder sydyn o unrhyw gynhwysion yn codi.
Bydd angen i chi fod yn berson sy’n gallu cydweithio, ac yn gallu meithrin perthynas cryf gyda chydweithwyr o fewn y cwmni yn ogystal â chyflenwyr.
Bydd angen i chi fod yn gwbl gyfarwydd â phob agwedd o gynnyrch eich cwmni a’r dulliau cynhyrchu, a gallu gweithio dan straen eithriadol ar adegau.
Yn naturiol, byddwch yn berson trefnus iawn ac yn berson y gellir ymddiried ynddo i weithio dan eich menter eich hun er mwyn negodi a chyfathrebu’n effeithiol.
Beth alla i ddisgwyl?
Byddwch yn gweithio o’r swyddfa, gan deithio tipyn hefyd gan y bydd angen i chi gwrdd â chyflenwyr a mynychu gwahanol ddigwyddiadau ar ran eich cwmni.
Anghofiwch am yr wythnos weithio 40 awr nodweddiadol. Mae’n bur debyg y byddwch yn brysur am gyfnodau hirach na hyn, ond mae’r swydd yn rhoi boddhad mawr.
Gallwch ddisgwyl gorfod gweithio dros benwythnosau hefyd, yn enwedig yn ystod cyfnodau cynhyrchu prysur, a gall galwadau ffôn gan staff sy’n gweithio sifftiau fod yn un her yn y swydd.
Felly, disgwyliwch dipyn o straen, ond llawer o foddhad.
Beth am y cyflog?
Bydd y prynwr nodweddiadol fel arfer yn dechrau fel hyfforddai neu gynorthwyydd ac felly byddant wedi cêl sawl blwyddyn o brofiad cyn ymgymryd â rôl fel hon felly mae cyflog cychwynnol o £35000 hyd at £50000 yn gyfartalog.
Ar lefel uwch, mae cyflog dros £50000 yn eithaf arferol mewn cwmnïau bwyd mwy.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Mae’n debyg y byddwch wedi cychwyn yn y cwmni ar ôl graddio ac wedi dechrau eich cyfnod yn yr adran brynu fel hyfforddai. Ar gyfer cwmni bwyd, mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gradd yn ymwneud â naill ai busnes neu fwyd, ond gallai profiad prynu ym maes bwyd hefyd fod o fudd.
Beth am hyfforddiant pellach?
Pan fyddwch yn dechrau gweithio fel prynwr, mae’n bosib y byddech eisiau ymuno â’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi, ac mae ganddynt amrywiaeth o gymwysterau wedi’u hanelu at brofi eich proffesiynoldeb yn eich gwaith.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Oes. Os byddwch yn gweithio i gwmni gweithgynhyrchu bwyd mawr, mae’n debyg y byddwch yn gyfrifol am ystod o wahanol gynnyrch, a bydd y rhai a gyflogir mewn busnesau llai’n cael cyfrifoldeb dros brynu popeth.
Cofiwch fod angen i chi fwynhau gweithio gyda phobl er mwyn cyflawni’r swydd hon, felly os mae’n well gennych weithio ar eich pen eich hun heb unrhyw ymyrraeth, ni fydd gyrfa ym maes prynu’n addas ar eich cyfer.