Felly am beth mae hyn i gyd?
Byddwch yn gyfrifol am weithredu cynllun twf eich cwmni ac mae hynny’n golygu arwain y tîm sy’n gwerthu’r cynnyrch.
Byddwch yn canfod cyfleoedd ac yn eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau twf llwyddiannus eich cwmni a’ch cynllun datblygu busnes yn seiliedig ar strategaeth farchnata cyffredinol y cwmni.
Cynyddu’r refeniw a’r elw ar gyfer math penodol o gynnyrch neu’r cwmni’n gyffredinol yw rhan bwysicaf y rôl.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am ganfod a datblygu cyfleoedd newydd trwy ddadansoddi’r farchnad y mae eich cwmni’n gweithredu ynddo. Byddwch yn chwilio am gyfleoedd i werthu mwy, gwerthu am fwy o elw neu gyflwyno portffolio ehangach o gynnyrch i gwsmeriaid presennol yn ogystal ag adnabod gofynion cwsmeriaid posib nad ydynt wedi cael eu bodloni - gallai hynny gynnwys gwerthu gwerth ychwanegol y modd y mae eich cwmni’n gweithredu o’i gymharu â’ch cystadleuwyr.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Bydd eich tîm yn gyfrifol am sicrhau’r proffidioldeb gorau posib ar gyfer pob cynnyrch yn eich gofal a byddwch yn treulio llawer o’ch amser yn datblygu ac yn adeiladu perthnasau cydweithredol yn allanol ac yn fewnol.
Dylech hefyd ddisgwyl dadansoddi’r hyn sy’n digwydd o fewn eich cwmni eich hun fel eich bod yn gallu argymell cyfleoedd a gwelliannau – mae hyn yn cynyddu proffidioldeb ac yn lleihau costau felly mae’n rhan arall hanfodol o’r gwaith.
Bydd eich dyletswyddau’n debygol o gynnwys elfennau o’r canlynol:
- Datblygu cyfrifon a marchnadoedd allweddol
- Cyfathrebu parhaus gyda chwsmeriaid, mewnol ac allanol
- Sicrhau bod cyflenwad a stoc ddigonol o’r cynnyrch ar gael i fodloni gofynion y cwsmeriaid
Ymateb yn sydyn i newidiadau a thueddiadau’r farchnad.
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Fel uwch reolwr bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad mawr tuag at elw eich cwmni gan sicrhau bod y cynnyrch dan eich rheolaeth yn bodloni disgwyliadau’r farchnad a bob amser ar frig y rhestr gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chwsmeriaid presennol a phosib.
Byddwch yn gallu profi eich bod eisoes wedi adeiladu perthynas gref gyda chwsmeriaid a’ch bod yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwerthu ardderchog.
Beth alla i ddisgwyl?
Bydd disgwyl i chi feddu ar flynyddoedd o brofiad gwerthu a marchnata a’r gallu i adeiladu perthnasau cryf ac effeithiol gyda chwsmeriaid yn ogystal â’ch cydweithwyr eich hunain.
Er eich bod yn rhan o gwmni, dylech ddisgwyl ymddwyn mewn modd entrepreneuraidd gan fod angen i chi allu gweithredu ar gyfleoedd masnachol yn sydyn unwaith y byddwch wedi’u canfod.
Beth am y cyflog?
Mae hon yn rôl ar gyfer rhywun sydd â phrofiad blaenorol a hanes o lwyddiant sy’n cael ei adlewyrchu gan gyflogau cychwynnol a bonws ar gyfer perfformiad sy’n cwrdd â thargedau. Mae cyflog sylfaenol heb fod yn is na £30,000 yn gyfartalog ar gyfer rôl o’r fath, er bydd ffigyrau’n amrywio o gwmni i gwmni.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Mae profiad a hanes o lwyddiant mewn rôl gwerthu a marchnata’n hanfodol ar gyfer swydd ar y lefel hon – o leiaf pum mlynedd o brofiad o reoli cyfrifon cleientiaid ynghyd ag addysg gyffredinol dda a chymwysterau proffesiynol a ellir eu cwblhau ar sail rhan amser.
Beth am hyfforddiant pellach?
Bydd eich cyflogwr yn sicrhau eich bod yn cael cyfle i uwchraddio a diweddaru eich sgiliau a gallai hynny gynnwys dilyn cwrs yn y coleg neu’r brifysgol, cwrs byr yn ymdrin â’r un materion neu waith Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae’n bosib y gallech ystyried ennill cymwysterau gydag achrediad gan gyrff proffesiynol trwy astudio adref neu yn y coleg.
Gallech hefyd ystyried aelodaeth o sefydliadau gan gynnwys:
- Institute of Sales and Marketing Management
- Marketing and Managing Sales Association
- The Chartered Institute of Marketing
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Oes, peidiwch â drysu’r swydd hon gyda rôl Rheolwr Gwerthu gan fod elfennau ehangach yn rhan o rôl Rheolwr Datblygu Busnes – er enghraifft sicrhau bod canfyddiad cyhoeddus o’r hyn yr ydych yn gyfrifol amdano’n ffafriol a’ch bod yn parhau i fesur effaith yr hyn yr ydych yn ei wneud.