English en
Potelwr

Beth yw’r swydd?

Bydd eich gwaith fel potelwr yn seiliedig ar weithredu’r peiriannau potelu a chi fydd yn gyfrifol am ran neu rannau o’r broses hon.

Byddwch mwy na thebyg yn gweithio mewn ffatri bwyd neu ddiod ac yn weithiwr hyfforddedig medrus iawn.

Chi fydd yn gyfrifol am wella eich rhan chi o’r broses potelu a sicrhau bod popeth yn gweithio’n esmwyth. 

Beth allaf fod yn ei wneud?

Mae hyn yn debygol o amrywio yn ôl cyflogwr, ond gallai gynnwys:

  • Sefydlu a gweithredu peiriannau potelu
  • Pwyso a chymysgu cynhwysion
  • Datrys problemau yn y llinell gynhyrchu er mwyn osgoi oedi
  • Adrodd unrhyw broblemau sy’n fwy difrifol i’ch rheolwr llinell neu dechnegydd
  • Cadw peiriannau’n lân ac wedi’u diheintio i gwrdd â safonau uchel o ddiogelwch bwyd
  • Sicrhau bod poteli wedi cael eu llenwi a’u labeli’n gywir
  • Profi samplau ar gyfer eu safon o ran golwg, arogl a blas
  • Gweithio’n ddiogel fel rhan o dîm o weithwyr medrus
  • Lleihau’r amser angenrheidiol rhwng creu gwahanol fath o gynnyrch
  • Sicrhau bod eich holl waith yn cael ei gwblhau’n ddiogel

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Fel  gweithiwr potelu medrus, bydd disgwyl fod gennych wybodaeth ymarferol dda a fyddai’n eich galluogi i osod a gweithredu peiriannau cyfrifiadurol cymhleth; bydd hefyd angen i chi fod yn barod i ddatrys problemau mecanyddol sylfaenol a gwneud gwaith trwsio pan fydd angen.

Dyma’r math o swydd lle bydd angen i chi ganolbwyntio a dilyn cyfarwyddiadau’n union a rhoi sylw i fanylder ym mhob agwedd o’ch gwaith; bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cyflawni gwaith yn gywir gan gynnal cyflymder yn unol â thargedau cynhyrchiant.

Er y byddwch yn rhan o dîm, bydd angen i chi weithio ar eich liwt eich hun gan gadw o fewn y fanyleb. 

Beth allaf ei ddisgwyl?

Byddwch fel arfer yn gweithio rhwng 37.5 a 40 awr yr wythnos a allai gynnwys sifftiau a gweithio ar benwythnosau. Ar adegau prysur bydd gofyn i chi weithio oriau ychwanegol.

Bydd y ffatri potelu yn lân iawn felly gallwch ddisgwyl gwisgo dillad diogelu fel rhwydi gwallt a ffedogau; efallai bydd hefyd angen plygiau clust am resymau diogelwch.

Gallai’r gwaith hefyd fod yn gorfforol felly byddwch yn barod ar gyfer hyn hefyd.

Beth am y cyflog?

Gallwch ddechrau ar gyflog rhwng £13,500 a £15,000 yn enwedig os yw eich cyflogwr yn eich hyfforddi i lefel medrus yn ystod eich cyfnod anwytho.

Gyda phrofiad gallai’r cyflog godi i dros £21,000 a mwy eto i’r rheiny sy’n dra medrus neu sydd â rôl goruchwylio neu reoli.

Canllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn a dylech bob amser wirio hyn cyn gwneud cais am waith.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Nid oes gofynion penodol ar gyfer dechrau yn y gwaith hwn, ond mae nifer o gyflogwr yn gofyn am gymwysterau TGAU - mae Mathemateg a Saesneg rhwng A* a C yn enwedig o bwysig, a bydd pasio rhai pynciau STEM hefyd yn fuddiol. Byddwch yn sylwi fod eich cyflogwr am i chi lwyddo yn eich gyrfa ac yn darparu hyfforddiant diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch i chi yn y cyfnod anwytho, yn ogystal â hyfforddiant ar y peiriannau potelu y byddwch yn eu defnyddio.

Gallwch hefyd dderbyn y swydd hon drwy brentisiaeth felly edrychwch ar yr opsiwn hynny hefyd.

Hefyd, gallai profiad blaenorol mewn amgylchedd prosesu bwyd fod yn ddefnyddiol.

Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?

Edrychwch yn eich colegau addysg bellach lleol am fanylion am gyrsiau sy’n ymwneud a bwyd.

Beth am hyfforddiant pellach?

Bydd eich cyflogwr am i chi ddatblygu i fod hyd yn oed yn fwy effeithiol yn eich swydd ac yn debygol o ddarparu hyfforddiant pellach a fydd yn eich helpu i arbenigo yn eich swydd ac arwain at ragolygon gyrfa a chyflog gwell.

Fel gweithiwr potelu medrus, dylech ddisgwyl hyfforddiant penodol a fydd o fantais i chi yn eich rôl – os ydych wedi dechrau fel Prentis ar lefel 2 neu 3 yna efallai mai uwch brentisiaeth yw’r cam nesaf i chi a bydd hyn yn rhoi mantais o ran dyrchafiad o fewn y cwmni.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Oes, mae’r diwydiant bwyd yn adnabyddus am ddarganfod pobl ddawnus a brwdfrydig a’u dyrchafu i swyddi goruchwylio a rheoli; felly sicrhewch eich bod yn arddangos eich potensial o’r diwrnod cyntaf!

Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygu eich gyrfa o fewn y sector bwyd a diod – y mwyaf medrus ydych chi, y gorau!