English en
Gweithiwr Becws

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Gweithiwr Becws byddwch yn gweithio mewn ffatri bobi ar raddfa fawr sy’n cynhyrchu llawer o wahanol fathau o fara, cacennau a chynnyrch perthnasol arall.

Byddwch chi’n defnyddio peiriannau a llinellau cynhyrchu ar raddfa fawr i wneud swp mawr o gynnyrch a fydd wedyn yn cael eu gwerthu a’u dosbarthu i archfarchnadoedd, siopau a chwsmeriaid cyfanwerthu eraill.

Mae mwyafrif y bara yr ydym yn ei fwyta yn cael ei gynhyrchu mewn becws ar raddfa fawr.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Mae yna lwythi o boptai sy'n gwneud llawer o wahanol gynhyrchion felly gallai union natur yr hyn byddwch chi'n ei wneud amrywio, ond mae'n debygol o gynnwys yr holl dasgau canlynol neu rai ohonynt:

  • Pwyso cynhwysion yn gywir a'u paratoi i'w cymysgu
  • Cymysgu, rhannu a siapio toes cyn codi
  • Gosod tymereddau ac amseroedd coginio ar gyfer gwahanol gynhyrchion
  • Pobi amrywiaeth o fathau o fara a chynhyrchion eraill popty mewn sypiau mawr
  • Defnyddio peiriannau a thechnoleg fodern drwy gydol y broses
  • Rhan-bobi a rhewi cynnyrch
  • Lapio, torri a phecynnu cynhyrchion bara
  • Addurno, torri a lapio cynnyrch gorffenedig
  • Glanhau'r holl offer ac arwynebau ac ardaloedd gwaith

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Yn ogystal â bod yn un sy’n mwynhau swydd ymarferol, mae’n debygol y bydd  gennych chi sgiliau creadigol.

Bydd angen i chi fod yn abl yn gorfforol ac mae’n debygol iawn y bydd peth gwaith codi a chariot  yn rhan o swydd gweithiwr becws.

Bydd angen i chi allu darllen ac ysgrifennu a deall labeli a chyfarwyddiadau, yn ogystal â meddu ar sgiliau rhifyddeg eithaf da fel eich bod yn gallu cyfrif pwysau a mesuraeth ac amserau coginio ac oeri ayyb.

Mae’n rhaid i chi feddu ar ddigon o ddealltwriaeth TG i allu rhaglennu’r peiriannau cymhleth sy’n angenrheidiol mewn ffatri bobi fodern.

Fel rhan o dîm cynhyrchu mwy, mae hon yn swydd i rywun sy’n gallu gweithio’n effeithiol gydag eraill mewn modd trefnus, ac yn gallu cyfathrebu’n rhugl yn ôl yr angen.

Fel pob ffatri arall, gall becws fod yn le peryglus iawn i’r diofal, felly bydd disgwyl i chi ddangos eich bod yn gallu gweithio’n unol â rheoli hylendid y cwmni ar bob achlysur.

Beth alla i ddisgwyl?

Yn unol â nifer o swyddi gweithwyr eraill, gallwch ddisgwyl gweithio cyfartaledd o 39 awr yr wythnos, er mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi gychwyn gweithio’n gynnar iawn yn y bore neu weithio patrwm sifft er mwyn gofalu am gylchred cynhyrchu 24 awr. Bydd angen i chi wisgo dillad amddiffynnol a allai gynnwys

Beth am y cyflog?

Bydd yr incwm a gewch yn dibynnu ar faint o brofiad sydd gennych chi, ond gallech chi ddisgwyl ennill rhwng £13000 a £19000 y flwyddyn.

Os byddwch chi’n derbyn cyflog am oramser, yn amlwg bydd hyn yn codi ymhellach.

Wrth i chi ennill profiad neu sgiliau neu ddyrchafiad i oruchwylydd neu reolwr, gallai hyn godi i unrhyw beth rhwng £20000 a £25000 y flwyddyn.

Gall rheolwyr cynhyrchu ennill hyd at £40000 y flwyddyn.

Cofiwch fod y ffigyrau hyn yn ganllaw yn unig a byddant yn amrywio o le i le.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Mae nifer o swyddi gwag mewn ffatrïoedd pobi, ac er nad oes angen cymwysterau penodol ar swydd gweithiwr, fe welwch chi fod cymwysterau TGAU da (h.y. graddau C ac uwch) yn ddefnyddiol iawn. Mae becws lleol yn aml yn cyflogi pobl ifanc addawol fel prentisiaid, gan olygu bod llawer o’ch addysg yn digwydd yn y gweithle a’ch bod yn ennill cyflog o’r diwrnod cyntaf. Mae natur ymarferol y math yma o ddysgu yn bwysig iawn o fewn amgylchedd y becws.

Ar gyfer swyddi mwy arbenigol neu bobi crefft, byddai cwblhau cwrs galwedigaethol neu gwrs gradd mewn disgyblaeth pobi yn ddefnyddiol i ti. 

Ble fuaswn i'n cael y cymwysterau hyn?

Mae cymwysterau ar ôl TGAU ar gael mewn nifer o Golegau AB lleol a dylech chi edrych ar eu prosbectysau ar-lein i gael mwy o wybodaeth.

Er enghraifft, gallech chi ystyried  Diploma lefel 2 C&G Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi, a’r Diploma lefel 3 wedi hynny.

Beth am hyfforddiant pellach?

Fe welwch y bydd eich cyflogwr yn y becws eisiau eich hyfforddi i fod yn arbenigwr yn eich crefft - mae’n debygol y byddwch yn derbyn hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd sylfaenol yn ystod eich cyfnod anwytho.

Wedi hynny, mae nifer o gyrsiau ar gael a fydd yn dy alluogi i ragori yn dy waith – er enghraifft, mae’r Federation of Bakers yn cynnal cyrsiau megis Egwyddorion Pobi Ffatri a Chyflwyniad i Bobi Ffatri – gallai’r cyrsiau byr hyn gynnig man cychwyn delfrydol i ehangu eich cymwysterau a’ch sgiliau.

Gellwch hefyd astudio ar gyfer y cymwysterau uchod ar sail rhan amser.

Os ydych chi eisiau arbenigo, yna mae’n bwysicach fyth i gyfarwyddo gyda chynnwys penodol y cwrs sydd o ddiddordeb i chi.

Ar gyfer cymwysterau ar lefel uwch, gelli ystyried Graddau Sylfaen neu Raddau Anrhydedd sy’n berthnasol i’r diwydiant pobi – edrychwch ar brosbectysau Prifysgol i weld beth sydd ar gael.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae amrywiaeth eang o gynnyrch becws yn y DU, nifer ohonynt yn unigryw i ardaloedd penodol.

Felly gallwch fod yn gwneud yr un math o waith ond yn gwneud cynnyrch gwahanol yn ddibynnol ar yr ardal lle’r ydych chi’n  gweithio!