English en
Prynwr Cynorthwyol

Beth yw’r swydd?​

Byddwch chi, fel Prynwr Cynorthwyol, yn rhan allweddol o adran brynu eich cwmni ac fe fyddwch yn helpu gyda’r holl weithgareddau prynu.

Byddwch yn helpu’r prynwr i gaffael a phrynu’r holl ddeunydd crai sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchiant llwyddiannus am y pris gorau posib yn unol â’r gofynion ansawdd a byddwch yn debygol o ddelio â thalu anfonebau.

Byddwch yn ymchwilio’r marchnadoedd ar gyfer deunydd newydd o ansawdd gwell ar gyfer eich cwmni a gwneud argymhellion i’r prynwr.

Hefyd, bydd yn rhaid i chi weithio gyda’ch cydweithwyr cynhyrchu a chynllunio er mwyn sicrhau bod deunyddiau ar gael yn y niferoedd cywir ar yr adegau priodol.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Bydd eich swydd fel prynwr cynorthwyol yn debygol o gynnwys y rhan fwyaf o’r cyfrifoldebau canlynol:

  • Sicrhau bod deunyddiau yn cael eu prynu ar amser, yn ôl y gofynion, ac am y pris gorau posib
  • Trafod gyda chyflenwyr ac adeiladu perthynas tymor hir
  • Gweithio gyda staff cynhyrchu a chynllunio er mwyn llunio rhagolygon
  • Cydlynu derbyn archebion a chynnal lefelau stoc addas
  • Sicrhau bod stoc yn cael ei gylchdroi yn effeithiol a bod cyn lleied o wastraff â phosib
  • Adnabod ffynonellau newydd a gwahanol  ar gyfer darparu cynnyrch a gwneud argymhellion i’r prynwr
  • Gweithio fel rhan o dîm o brynwyr
  • Cyllido a llunio rhagolygon cywir 

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Bydd disgwyl i chi weithio’n galed a helpu prynwyr i gyrraedd y targedau sydd wedi’u hamlinellu yn strategaeth y cwmni.

Byddwch bob amser yn edrych am gynnyrch a chynhwysion newydd am y pris gorau er mwyn helpu proffidioldeb y cwmni.

Byddwch yn drefnus iawn gyda phersonoliaeth hyderus a chyfeillgar oherwydd bydd disgwyl i chi ddirprwyo dros y prynwr ar adegau.

Bydd angen i chi fod yn gwbl gyfarwydd â holl agweddau o gynnyrch a dulliau cynhyrchu eich cwmni a medru deall anghenion adrannau eraill.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Byddwch yn gweithio yn y swyddfa yn bennaf, ond efallai y byddwch yn teithio fel cynrychiolydd i’r cwmni ar adegau.

Mae’n debygol y byddwch yn gweithio 40 awr yr wythnos gydag oriau ychwanegol yn debygol ar yr adegau prysuraf o gynhyrchiant.

Gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd â phwysau mawr gan mai chi fydd y person cyswllt cyntaf pan fydd prinder cynnyrch sydd eu hangen ar adeg benodol.

Beth am y cyflog?

Gallai prynwr cynorthwyol ddisgwyl dechrau ar gyflog rhwng £15,000 ac £20,000 ac yna bydd hyn y codi gyda phrofiad a chynnydd mewn cyfrifoldebau.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Byddwch, mwy na thebyg, wedi dechrau yn y cwmni fel person graddedig ac yn dechrau yn yr adran brynu o dan hyfforddiant. Mae graddau sy’n ymwneud â busnes a bwyd yn bwysig i gyflogwyr mewn cwmnïau bwyd ond gallai profiad blaenorol o brynu o fewn y diwydiant bwyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer rôl Prynwr Cynorthwyol.

Beth am hyfforddiant pellach?

Pan fyddwch yn dechrau gwaith fel prynwr cynorthwyol, gallwch wneud cais i ymuno â’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi, sydd ag amrediad o gymwysterau wedi’u hanelu at brofi a gwella eich proffesiynoldeb yn eich swydd.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Oes, bydd angen personoliaeth gref arnoch i weithio yn yr adran brynu gan fod y gwaith o natur ddynamig ac yn golygu gweithio i derfynau amser.

Mae’n rhaid eich bod chi’n mwynhau gweithio gyda phobl oherwydd bydd y rhan fwyaf o’ch swydd yn cynnwys delio gydag amrywiaeth o gyflenwyr a chwsmeriaid mewnol.