English en
Crefftwr Pobi

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel Crefftwr Pobi byddwch chi'n pobi amrywiaeth eang o fara, cacennau a chynnyrch popty gan gychwyn o ddim.

Mae'n debygol y byddwch chi'n gweithio i bopty bach annibynnol neu mewn cegin bwyty, ac efallai y byddwch chi'n arbenigo mewn pobi math penodol o fara neu gynnyrch hyd yn oed.

Yn ystod blynyddoedd diweddar cafwyd mwy o alw am gynnyrch gan grefftwyr ac mae hyn wedi arwain at adfywiad mewn sector a oedd yn dirywio, felly mae'r cyfleoedd yn cynyddu trwy'r amser.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Mae yna lwythi o boptai crefftus sy'n gwneud llawer o wahanol gynhyrchion felly gallai union natur yr hyn byddwch chi'n ei wneud amrywio, ond mae'n debygol o gynnwys yr holl dasgau canlynol neu rai ohonynt:

  • Pwyso cynhwysion yn gywir a'u paratoi i'w cymysgu
  • Archebu cynhwysion fel y bydd angen
  • Cymysgu, rhannu a siapio toes cyn codi - i'r crefftwr mae hyn yn broses â llaw o'r dechrau
  • Gosod tymereddau ac amseroedd coginio ar gyfer gwahanol gynhyrchion
  • Pobi amrywiaeth o fathau o fara a chynhyrchion eraill popty mewn sypiau bach
  • Lapio, torri a phecynnu cynhyrchion bara i'w gwerthu mewn siopau a siopau delicatessen
  • Cynhyrchu teisennau ac addurno arbenigol
  • Glanhau'r holl offer ac arwynebau ac ardaloedd gwaith
  • Gwasanaethu cwsmeriaid a dosbarthu cynhyrchion

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Mae gwaith crefftwr pobi yn gofyn am rywun sy'n ymroddedig i grefft wirioneddol pobi ac yn deall pob agwedd ar y broses sy'n galluogi gwneud cynhyrchion gan gychwyn o ddim.

Er ei bod yn bosibl y byddwch chi'n rhan o dîm bach, mae'n debygol y byddwch chi'n gyfrifol am bobi un neu fwy o'r cynhyrchion o'r dechrau i'r diwedd. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fod yn gallu canolbwyntio am gyfnod hir o amser a bod yn rhywun sy'n mwynhau cael y manylion yn iawn.

Bydd angen i chi wneud rhywfaint o godi, gyda bagiau o flawd a chynhyrchion eraill, yn ogystal â hambyrddau o gynhyrchion wedi'u paratoi a'u gorffen a bydd angen i chi fod yn gallu darllen a deall labeli a chyfarwyddiadau. Hefyd bydd angen i chi feddu ar lefel dda o rifyddeg fel eich bod yn gallu cyfrifo pwysau a mesur, amseroedd coginio ac oeri ac ati.

Yn ogystal â bod yn rhywun sy'n mwynhau gwaith ymarferol, mae'n debygol y bydd gennych chi rywfaint o sgiliau creadigol yn enwedig at ddibenion addurno.

Bydd disgwyl i chi arddangos cydymffurfiad ag ymarferion gweithio diogel ac yn unol â rheolau hylendid y cwmni bob amser.

Yn olaf, byddwch chi'n rhywun sy'n gallu ymdopi o dan bwysau er mwyn bodloni amserlenni dosbarthu heb gyfaddawdu ar ddisgwyliadau ansawdd uchel iawn.

Beth alla i ddisgwyl?

Mae gwaith crefftwr pobi yn gofyn am ymroddiad i ddysgu a datblygu'r sgiliau gofynnol i ragori yn y rôl.

Gallwch ddisgwyl gweithio awr 39 wythnos safonol, ond byddwch chi'n dechrau'n gynnar iawn er mwyn sicrhau bod cynhyrchion ffres wedi'u pobi yn cael eu dosbarthu erbyn amseroedd agor yn y bore.

Hefyd mae'n debygol y byddwch chi'n gweithio goramser ar benwythnosau a chyfnodau brig fel y bydd angen.

Beth am y cyflog?

Bydd yr incwm a gewch yn dibynnu ar faint o brofiad sydd gennych chi ond gallech chi ddisgwyl ennill rhwng £13,000 a £19,000 y flwyddyn.

Os byddwch chi’n derbyn cyflog am oramser, yn amlwg bydd hyn yn codi ymhellach.

Wrth i chi ennill profiad neu sgiliau neu ddyrchafiad i oruchwylydd neu reolwr, gallai hyn godi i unrhyw beth rhwng £20,000 a £25,000 y flwyddyn.

Os byddwch chi'n sefydlu eich busnes eich hun, bydd eich incwm wedi'i seilio'n llwyr ar lefel eich llwyddiant.

Cofiwch fod y ffigyrau hyn yn ganllaw yn unig a byddant yn amrywio o le i le.

 

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Er mwyn cael swydd fel crefftwr pobi, mae'n sicr y bydd llwyddiant TGAU da yn ddefnyddiol fel isafswm, ond dylech chi hefyd ystyried diplomâu lefel 2 a 3 mewn amrywiaeth o arbenigeddau gan gynnwys addurno cacennau a theisennau.

Hefyd mae prentisiaethau mewn pobi ar gael ac mae hyn yn golygu y byddwch chi'n ennill ac yn dysgu ar yr un pryd.

Efallai y byddwch chi hefyd yn ystyried cymryd cymhwyster mewn coleg ac mae'r rhain ar gael yn eang ac yn cwmpasu sbectrwm eang o arbenigeddau sy'n ymwneud â phobi - mae'n sicr y bydd cymryd un o'r cyrsiau galwedigaethol hyn yn gwella eich rhagolygon â chyflogwyr.

Gallech chi hefyd feddwl am y posibilrwydd o astudio pobi a phobyddiaeth hyd lefel gradd sylfaen neu anrhydedd.

Ym mhob achos, gwnewch yn siŵr bod y cwrs yn ymarferol iawn ei natur ac yn cynnig lleoliadau gwaith; bydd hyn yn sicrhau eich bod yn ennill profiad hanfodol wrth astudio.

Ble fuaswn i'n cael y cymwysterau hyn?

Mae cymwysterau ôl TGAU ar gael mewn nifer o Golegau AB lleol, a dylech chi edrych ar eu prosbectysau ar-lein i gael mwy o wybodaeth.

Er enghraifft, gallech chi ystyried Diploma lefel 2 C&G mewn Hyfedredd mewn Sgiliau'r Diwydiant Pobi a’r Diploma lefel 3 wedi hynny.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae yna lawer o gyrsiau rhan amser mewn addurno cacennau a theisennau y gallech chi ystyried eu cymryd ar ôl i chi ddechrau mewn cyflogaeth.

Cofiwch, os dymunwch arbenigo yna mae’n arbennig o bwysig sicrhau eich bod yn gyfarwydd â chynnwys penodol y cyrsiau y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw.

Ar gyfer cymwysterau lefel uwch, efallai y dymunwch ystyried Graddau Sylfaen neu Raddau Anrhydedd sy'n berthnasol i'r diwydiant pobi - edrychwch ar brosbectysau Prifysgol i weld beth sydd ar gael.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu eich busnes eich hun, gallech chi edrych ar gymryd cymwysterau rhan amser a fydd yn rhoi'r sgiliau i chi wneud hyn.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i’w wybod?

Oes, mae poptai crefftus yn dechrau ffynnu unwaith eto wrth i bobl weld manteision bwyd sy'n cael ei gynhyrchu a'i werthu'n ffres, â chyn lleied o ychwanegion â phosibl a chymaint o flas ac ansawdd â phosibl.

Unwaith y byddwch chi wedi ennill digon o sgiliau a phrofiad, gallech chi ddilyn mewn ôl troed llawer o gwmnïau crefftwr pobi llwyddiannus a sefydlu eich busnes eich hun!