English en
Maethegydd Anifeiliaid

Beth yw’r swydd?

Fel Maethegydd Anifeiliaid, eich swydd chi fydd sicrhau bod anghenion dietegol anifeiliaid yn cael eu cyflawni’n effeithiol; byddwch hefyd yn hybu lefel y wybodaeth am effeithiau diet ar les a chynhyrchiant anifeiliaid trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth ar y pwnc. Byddwch mwy na thebyg yn cael eich cyflogi yn y sector amaethyddol yn helpu ffermwyr i gynyddu proffidioldeb drwy helpu gwella’u dealltwriaeth o fuddion maeth da ar gyfer eu hanifeiliaid.

Efallai y byddwch hefyd yn gwneud gwaith ymchwil ar broblemau maeth neu efallai’n dewis arbenigo mewn un math o anifail.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Fel maethegydd anifeiliaid, bydd gennych chi ystod eang o dasgau sy’n debygol o gynnwys rhai o’r canlynol:

  • Datblygu cynlluniau maeth a bwyd ar gyfer anifeiliaid
  • Sicrhau bod bwydydd yn cwrdd â safonau diogelwch ac ansawdd
  • Dadansoddi anhwylderau maeth da byw
  • Gweithio gyda chynhyrchwyr a ffermwyr i ddeall anghenion y farchnad
  • Gweithio gyda chleientiaid i ddatblygu dietau a chynlluniau maeth sydd wedi’u teilwra
  • Cynghori ffermwyr a phobl eraill perthnasol
  • Cymharu ac asesu gwerth maethol systemau bwydo
  • Cynnal ymchwil, arbrofion ac ysgrifennu adroddiadau
  • Darganfod lefelau maethol gwahanol fwydydd anifeiliaid
  • Cynyddu amrywiaeth bwyd anifeiliaid a datblygu mathau o fwyd newydd
  • Hyrwyddo ystod cynnyrch newydd yn ôl yr angen
  • Cadw gwybodaeth gyfredol am ddatblygiadau a newidiadau deddfwriaethol
  • Ymweld â ffermydd a chynhyrchwyr
  • Dehongli data maethol

Bydd fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Bydd disgwyl i chi fod â dealltwriaeth lawn o wyddoniaeth maeth er mwyn medru cyflawni eich rôl; mae hyn yn cynnwys y gallu i gynnal ymchwil effeithiol, dadansoddi eich canfyddiadau ac ysgrifennu adroddiadau.

Yn ogystal â’r sgìl graidd hon, bydd disgwyl i chi fod yn dda am ddatrys problemau er mwyn i chi fedru archwilio a datrys problemau maethol ar gyfer eich cleientiaid; bydd angen i chi fedru ffurfio perthnasau effeithiol gyda nifer o wahanol bobl fel eu bod yn gwybod eu bod yn medru ymddiried yn eich cyngor.

Bydd hefyd disgwyl i chi weithio oriau hir ar adegau, yn aml ar eich pen eich hun, er mwyn cwrdd ag anghenion eich cleientiaid; mae ymweld â ffermydd yn golygu bod y tu allan mewn pob math o dywydd felly byddwch yn barod ar gyfer hyn hefyd.

Beth alla i ddisgwyl?

Gallwch ddisgwyl treulio llawer o amser yn teithio o gwmpas o un cleient fferm i’r nesaf; mae hyn yn golygu bod angen i chi fod yn hapus i weithio ar eich pen eich hun y rhan fwyaf o’r amser a pharatoi ar gyfer o leiaf ychydig o amser i ffwrdd o adref.

Gallwch hefyd weithio fel cynrychiolydd ardal i gwmni gyda chyfarfodydd tîm bob mis o bosib.

Gallwch ddisgwyl gorfod cyfathrebu gyda chydweithwyr, ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn berson sydd ddim yn hoff o siarad na rhoi cyflwyniadau!

Beth am y cyflog?

Bydd hyn yn amrywio o le i le ond gallwch ddisgwyl rhywbeth yn debyg i’r canlynol:

  • I ddechrau, gallwch ennill rhwng £18,000 a £22,000 y flwyddyn a gallai hyn godi i dros £30,000 gyda phrofiad a chymhwyster ôl-radd fel PhD.
  • Gallai’r bobl fwyaf profiadol ennill dros £50,000 y flwyddyn
  • Gall rhai cyflogwyr gynnig cymhelliant fel bonws yn ymwneud â pherfformiad.
  • Canllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn a dylech bob amser wirio gydag unrhyw gyflogwr posib!

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Mae llawer o wahanol raddau gwyddoniaeth y gallech eu defnyddio, gan gynnwys:

  • BSc Amaethyddiaeth neu Beirianneg Amaethyddol
  • BSc Gwyddorau Biofeddygol
  • BSc Rheolaeth/Gwyddor Anifeiliaid
  • BSc Dieteteg
  • BSc Biocemeg
  • BSc Maeth
  • BSc Gwyddor Anifeiliaid/Gwyddor Anifeiliaid Cymhwysol
  • BSc Gwyddor Milfeddygol
  • BSc Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • BSc Sŵoleg

Os hoffech gadw eich opsiynau mor agored â phosib, gallech hefyd ystyried gwneud gradd yn perthyn i’r rheiny yn y rhestr uchod ac yna gwneud cymhwyster ôl-radd sy’n fwy penodol. Gallech hefyd ddechrau gyda gradd sylfaen neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch cyn symud ymlaen at gwrs gradd.

Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?

Mae’r holl gymwysterau a llawer mwy ar gael ledled y DU; edrychwch yn y prosbectysau ar-lein ac yna gwneud eich dewis.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae’n debygol y bydd gennych gyfle am gyrsiau mewnol wedi’u trefnu gan gyflenwyr a rhanddeiliaid – bydd hyn yn eich diweddaru ar ddatblygiadau gwyddonol.

Gallwch ystyried gwrs Meistr neu PhD, ac mae’r opsiynau yn cynnwys:

  • MSc Maeth Anifeiliaid o Brifysgol Nottingham
  • MSc Gwyddor Anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth
  • MSc Ymddygiad a Lles Anifeiliaid o Brifysgol Queen’s Belfast

Efallai byddwch hefyd eisiau ystyried cyfleoedd i ymchwilio; byddai’n syniad da ymuno â chorff fel Association for Nutrition neu’r Nutrition Society. Bydd hyn yn helpu gyda rhwydweithio a datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae’r Gymdeithas Gwyddorau Anifeiliaid Prydeinig yn gorff aelodaeth ddefnyddiol arall y dylech eu hystyried.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Ar gyfer gyrfa fel maethegydd anifeiliaid bydd angen i chi fod â diddordeb mewn gwyddoniaeth a lles anifeiliaid, cyfathrebu da a sgiliau busnes a hoffter o fod yn yr awyr agored lle fyddwch yn treulio llawer o’ch amser.

Bydd gennych ddewis i weithio i amrywiaeth o gyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus; ar ôl i chi ennill digon o brofiad gallwch hefyd ystyried fod yn ymgynghorydd.