English en
Agronomegydd

Beth yw’r swydd?

Fel agronomegydd, byddwch chi’n ymchwilio i wella cynhyrchiant pridd er mwyn sicrhau cynhyrchiant cyson o gnydau o ansawdd uchel heb niweidio’r amgylchedd.

Byddwch chi’n parhau i ddiweddaru eich gwybodaeth ac yn argymell gwelliannau i’ch cleientiaid sy’n ffermwyr.

Byddwch chi hefyd yn gyfrifol am ddatrys unrhyw broblemau sy’n codi gyda chnydau a sicrhau bod pob deddfwriaeth llywodraeth yn cael eu dilyn.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Bydd disgwyl i chi wneud nifer o bethau fel rhan o’r swydd a gall y rhain gynnwys rhai neu bob un o’r canlynol:

  • Diweddaru eich gwybodaeth ynglŷn â’r gwaith ymchwil diweddaraf a gwneud defnydd o’r wybodaeth fel rhan o’ch swydd
  • Ymgynghori gyda ffermwyr ynglŷn â sut i wneud y gorau o gynnyrch eu cnwd
  • Asesu dulliau newydd o gynaeafu cnydau a fydd yn cynyddu proffidioldeb
  • Annog defnyddio technegau arfer dda  i sicrhau’r elw gorau posibl
  • Astudio’r holl ffactorau a allai effeithio ar dwf a pherfformiad twf e.e. nodweddion y pridd, lefelau dŵr, plâu a draeniad
  • Creu a gweithredu rhaglenni gwrtaith sy’n bodloni gofynion y cnwd a’r amgylchedd
  • Cynghori ffermwyr a darlithio o flaen grwpiau lobïo ffermwyr a grwpiau eraill perthnasol
  • Rhoi cyngor ynglŷn ag adeiladau er mwyn gallu storio cnydau’n effeithiol
  • Monitro unrhyw effeithiau ariannol
  • Rheoli tîm o swyddogion maes
  • Cymryd rhan mewn pwyllgorau polisi, ymchwil a rheoliadol

Beth sy’n ddisgwyliedig ohonof?

Bydd angen i chi fod yn berson sy’n mwynhau gwaith ymchwil a datrys problemau - rhywun sy’n amyneddgar, ymarferol a threfnus

Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn cyfathrebu’n dda, a hynny’n ar lafar ac mewn adroddiadau ayb. A bydd hefyd angen i chi allu dadansoddi gwybodaeth gymhleth a’i gyflwyno mewn modd sy’n ddealladwy.

Er bod y swydd yn golygu cyfathrebu a gweithio gydag eraill, bydd rhan o’ch amser yn cael ei neilltuo ar gyfer gweithio’n unigol, felly bydd angen i chi fod yn gyfforddus gyda hynny.

Beth allaf ei ddisgwyl?

Fel arfer, byddwch yn gweithio rhwng hanner awr wedi wyth a phump o’r gloch ond bydd adegau pan fydd angen i chi weithio tu allan i oriau arferol er mwyn cwblhau arbrofion neu i fodloni anghenion ffermwyr.

Bydd rhan o’r swydd yn golygu bod ar safle, ac felly bydd angen gwisgo dillad amddiffynnol bob amser i’ch diogelu eich hun ac i atal halogiad – mae hynny hefyd yn wir pan fyddwch yn cynnal arbrofion mewn labordy

Beth am y cyflog?

Yn syth ar ôl gadael y Brifysgol, byddwch chi’n dechrau ar oddeutu £20k gan god i £35 mewn rôl ar lefel uwch wrth i chi fagu profiad

Cofiwch mai canllaw yn unig yw’r ffigyrau hyn a byddant yn amrywio o gwmni i gwmni ac o ranbarth i ranbarth.

Pa gymwysterau sydd angen arnaf ar gyfer y swydd?

Mae’n debygol iawn y byddwch wedi graddio mewn bioleg, amaethyddiaeth, ecoleg neu bwnc arall yn ymwneud â bio-wyddoniaeth

Gallai gradd sylfaen hefyd fod yn addas ar gyfer dechrau gyrfa fel swyddog maes neu dechnegydd

Ble gallaf ennill y cymwysterau yma?

Mae’r cyrsiau gradd yma ar gael yn eang mewn sefydliadau addysg uwch sy’n arbenigo mewn amaeth a nifer o brifysgolion eraill

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae’n bosibl y byddech yn dymuno arbenigo o fewn y sector agronomeg ac yna gallech ddilyn cymwysterau Meistr mewn gwyddor pridd, geneteg neu bynciau eraill; byddai hyn yn ychwanegu at eich dealltwriaeth a hefyd yn gwella eich rhagolygon gyrfa.

Gan ddibynnu ar bwy yw eich cyflogwr, rydych chi hefyd yn debygol o dderbyn hyfforddiant manwl yn ymwneud â chynnyrch penodol

Gyda phrofiad, gallech ymuno â chorff proffesiynol a fyddai’n cynorthwyo eich datblygiad ac mae nifer o grwpiau’n bodoli, bydd y grŵp a fyddwch yn ymuno ag ef yn ddibynnol ar eich maes penodol.

Oes yna rywbeth arall y dylwn ei wybod?

Oes, mae nifer o ragolygon gyrfa ar gyfer Agronomegydd ac maen nhw’n cael eu cyflogi ar draws ystod eang o feysydd, o adrannau’r Llywodraeth, sefydliadau ymchwil i fusnesau sy’n gwerthu hadau, cemegau ayb.