Felly am beth mae hyn i gyd?
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn adran ariannol eich cwmni a byddwch yn cynorthwyo gyda chasglu a chadw cofnodion ariannol, prosesu anfonebau, ffurflenni treth, a pharatoi cyfrifon y cwmni.
Mae’n bosib y byddwch hefyd yn ymdrin ag arian parod a gweinyddiaeth yn eich swyddfa.
Mewn cwmni bwyd mwy, gallai eich rôl fod yn fwy arbenigol, a gallech, er enghraifft, fod yn ymdrin â chyflogres neu reoli credyd yn y cwmni.
Beth allen i fod yn ei wneud?
Bydd eich union gyfrifoldebau’n amrywio o fusnes i fusnes, ond bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys tasgau tebyg i’r rhain fel arfer:
- Cadw cofnodion ariannol a thaenlenni a pharatoi adroddiadau
- Codi ac anfon anfonebau
- Prosesu derbynebau, taliadau a chostau’r cwmni
- Monitro cyllidebau
- Rheoli credyd
- Cynorthwyo gyda pharatoi cyfrifon statudol
Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?
Gan y byddwch yn gweithio gyda ffigyrau, bydd angen i chi fod â meddwl dadansoddol a’r gallu i weithio mewn modd rhesymegol a gofalus gyda rhifau.
Yn amlwg, bydd gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn maes ariannol a chyfrifeg a bydd gennych lefel uchel o allu cyfrifiadurol er mwyn eich galluogi i weithio gyda thaenlenni.
Bydd angen i chi fod yn berson trefnus gyda ffocws er mwyn eich galluogi i ganolbwyntio am gyfnodau hir.
Bydd angen i chi allu gweithio fel unigolyn ac fel rhan o dîm, a bydd angen i chi allu cydbwyso gwahanol dasgau sy’n gofyn am eich amser.
Beth alla i ddisgwyl?
Fel arfer, byddwch yn gweithio yn ystod oriau swyddfa, ac wedi’ch lleoli mewn un lleoliad fel rhan o dîm gweinyddol eich cwmni.
Mae’n bosib y byddai angen i chi weithio tu allan i oriau gwaith arferol gan ddibynnu ar eich llwyth gwaith.
Byddwch yn treulio llawer o amser o flaen cyfrifiadur felly byddai arbenigedd yn y maes yn fanteisiol.
Byddwch yn delio gyda llawer o wybodaeth gyfrinachol felly mae’n rhaid i chi fod yn berson sy’n ddibynadwy ac yn gallu cadw cyfrinachedd.
Beth am y cyflog?
Gan ddibynnu ar eich profiad a lefel eich addysg, gall Cynorthwywyr Cyfrifon ennill rhwng £15,000 a £16,000 y flwyddyn i ddechrau, ond gall y ffigwr godi i £20,000 gyda hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad pellach.
Bydd y ffigyrau hyn yn amrywio wrth gwrs o gyflogwr i gyflogwr.
Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?
Fel nifer o swyddi arbenigol a phroffesiynol ym maes gweithgynhyrchu bwyd, mae cymwysterau penodol i’r diwydiant ar gael ar gyfer rôl cynorthwyydd cyfrifon i’ch cynorthwyo i gael y swydd yr ydych yn chwilio amdano.
Mae gallu mathemateg a chymhwyster cadw llyfrau neu baratoi cyfrifon yn ddechrau da ar gyfer y swydd a bydd fel arfer yn galluogi cynorthwywyr cyfrifon i symud ymlaen yn sydyn yn eu gyrfa. Mae cymwysterau arbenigol sylfaenol yn cynnwys:
- Tystysgrif Lefel 2 Cymdeithas Technegwyr Cyfrifeg (AAT) mewn Cadw Llyfrau
- Tystysgrifau Lefel 2 a 4 mewn Cadw Llyfrau – International Association of Bookkeepers
- Tystysgrifau OCR Lefel 2 a 4 mewn Cyfrifeg
- Tystysgrifau Lefel 1 a 2 City & Guilds mewn Cadw Llyfrau a Chyfrifeg
Beth am hyfforddiant pellach?
Mae’n debygol y byddwch yn cael cynnig cyfle i ddilyn cymwysterau ychwanegol a gallai hynny fod fel rhan o’ch swydd neu ar sail dosbarthiadau nos yn y coleg.
Gallai hynny arwain at ddyrchafiad i lefel technegydd cyfrifeg yn y lle cyntaf, ac wrth i chi ennill mwy a mwy o gymwysterau, gallwch weithio fel Cyfrifydd Siartredig wedi cymhwyso’n llawn.
A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?
Oes. Os oes gennych allu da gyda rhifau ac os ydych yn mwynhau gweithio gyda thaenlenni, felly mae’n bosib mai swydd fel cynorthwyydd cyfrifon yw’r un i chi!