English en
Rheolwr Cyfrifon

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel rheolwr cyfrifon penodol ym maes gweithgynhyrchu bwyd, chi fydd wyneb eich cwmni yn aml gyda chwsmer penodol neu brif gyswllt ar gyfer math penodol o gynnyrch.

Gall eich cwsmeriaid gynnwys prynwyr o brif grwpiau archfarchnad, sefydliadau gwasanaeth bwyd neu grwpiau bwyty.

Byddwch yn gyfrifol am reoli gwerthiant a pherthynas gyda’ch cwsmeriaid a byddwch yn datblygu perthynas hir dymor gyda’ch cwsmeriaid ac yn deall y gofynion a’r heriau sy’n wynebu eu busnes yn llwyr er mwyn i’r busnes dyfu mewn modd proffidiol.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am y cyswllt rhwng adrannau gwerthu ac adrannau gwasanaeth cwsmeriaid eich cwmni.

Os oes gennych bortffolio cynnyrch, bydd rhan o’r swydd yn cynnwys chwilio am gleientiaid busnes newydd ar gyfer y cynnyrch hwn.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys diogelu a chreu mwy o werthiant ymysg eich cwsmeriaid, gan adnabod cyfleoedd gwerthiant newydd gyda’r cwsmeriaid hyn, datrys unrhyw broblemau a all godi, a chydlynu’r holl berthnasau gyda’ch cleientiaid penodol.

Mewn cwmnïau mwy, gallech weld eich bod yn gweithio ochr yn ochr â’r rheolwr categori er mwyn rhoi mentrau amrywiol ar waith gyda’r nod o gynyddu gwerthiant.

Bydd disgwyl i chi fonitro lefelau gwerthiant a chynnig rhagolygon cywir ynglŷn â galw’r dyfodol am eich cynnyrch – bydd hefyd rhaid i chi sicrhau bod y proffidioldeb a gynlluniwyd yn cael ei gyrraedd ar gyfer pob cwsmer neu gynnyrch yr ydych yn ei reoli.

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Pwrpas derbyn cleientiaid penodol yw creu perthynas hir dymor gyda phortffolio o gleientiaid wedi’u neilltuo.

Mae’n rhaid i’r rheolwr cyfrif ddeall a rhagweld gofynion y cwsmer a sut i’w bodloni - gan arwain at werthiant ychwanegol i’r cwmni lle bynnag bo’n bosib o ganlyniad.

Bydd angen i chi fod yn berson hyderus sy’n meddu ar sgiliau perswadio a gwrando cryf, ynghyd â’r gallu i gynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun ac ymdopi â straen. Byddwch yn gallu datrys problemau unrhyw gwsmeriaid yn brydlon ac mewn modd boddhaol er mwyn cynnal eich perthynas yn ogystal â diogelu buddion eich cwmni a’ch brandiau yn y tymor hir.

Beth alla i ddisgwyl?

Byddwch yn gweithio gyda llawer o gwsmeriaid gwahanol a bydd datblygu rhwydwaith o gysylltiadau a pherthnasau’n dda ar gyfer eich gyrfa.

Mae eich rôl yn hanfodol ar gyfer twf busnes eich cwmni, a  gan y bydd materion anodd yn codi o dro i dro, dylech feddu ar yr hunan hyder a’r gallu i ymdopi â straen a datrys problemau – chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf a bydd eich cwmni’n dibynnu arnoch.

Gallwch ddisgwyl teithio tipyn ynghyd â gweithio tu allan i oriau arferol mewn swydd sy’n darparu boddhad personol yn ogystal ag ariannol.

Beth am y cyflog?

Bydd rheolwyr cyfrif yn ennill unrhyw beth rhwng £18,000 a £70,000 gan ddibynnu ar eu profiad a maint a natur y cwmni, ond yn nodweddiadol, bydd eu cyflog rywle rhwng £24,000 - £34,000. Gan fod gwerthiant yn rhan allweddol o’r swydd, bydd rheolwyr cyfrif fel arfer hefyd yn ennill comisiwn neu fonws os byddant yn cyrraedd targedau gwerthiant penodol.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Dylai rheolwr cyfrif feddu ar radd dda yn ymwneud ag un ai busnes, marchnata neu fwyd fel man cychwyn, er mae’n bosib y byddai person sydd â hanes academaidd llwyddiannus a phrofiad blaenorol ym maes gwerthiant yn cael eu hystyried.

Gallai sgiliau iaith dramor fod yn ddefnyddiol gan ddibynnu ym mha farchnadoedd y mae’r cyflogwr yn gweithio.

Beth am hyfforddiant pellach?

Gallech edrych ar gyrsiau ôl-raddedig mewn marchnata a chyfathrebu - mae’r rhain i gyd ar gael yn lleol a byddant yn arwain eich gyrfa yn ei blaen.

Y sgiliau allweddol sydd eu hangen yw gwybodaeth (am eich cynnyrch a’r cwmni), cyfathrebu, a sgiliau trefnu.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Gyda digon o brofiad perthnasol, mae cyfle bob amser i ddatblygu eich gyrfa fel rheolwr cyfrif. Gyda phrofiad addas, gallai rheolwyr cyfrif symud ymlaen at rôl cyfarwyddwr cyfrif, rheolwr marchnata neu gyfarwyddwr brand - pob un ohonynt yn cynnwys gwneud penderfyniadau ynglŷn â strategaethau gwerthu a marchnata, goruchwylio staff a dirprwyo tasgau i aelodau eraill o’r tîm.

Mae’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer rôl rheolwr cyfrif yn drosglwyddadwy iawn ac yn galluogi staff i symud ymlaen at wahanol swyddi ar lefel uwch nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â rheoli cyfrif.