English en
Gweithiwr Lladd-dy

Felly am beth mae hyn i gyd?

Fel gweithiwr lladd-dy byddwch chi'n rhan o dîm sy'n gyfrifol am reoli'r broses lladd da byw a pharatoi'r cig i'w werthu.

Mae’n swydd bwysig a chyfrifol iawn ac mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr holl anifeiliaid rydych chi'n gweithio â nhw'n cael eu trin a'u prosesu heb greulondeb.

Beth allen i fod yn ei wneud?

Bydd eich gwaith yn amrywio o un cwmni i un arall, ond mae'n debygol o gynnwys y tasgau canlynol:

  • Sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rheoli'n effeithiol pan fyddan nhw'n cyrraedd y lladd-dy
  • Stynio'r anifeiliaid gan ddefnyddio cyfarpar a thechnegau arbenigol
  • Lladd yr anifeiliaid heb greulondeb, mewn ffordd effeithlon sy'n lleihau poen gymaint â phosib
  • Sicrhau bod lles anifeiliaid yn cael ei gynnal bob amser a bod yn ofalus wrth sicrhau na fydd anifeiliaid yn dioddef
  • Paratoi'r carcasau i'w gwerthu, gan sicrhau nad yw'r cig yn cael ei ddifetha
  • Pecynnu'r cig mewn pecynnau a chartonau ar wahân
  • Glanhau'r holl arwynebau ac offer ar ôl eu defnyddio
  • Adrodd am unrhyw broblemau posib i staff goruchwylio ac arolygwyr hylendid cig ar y safle
  • Cadw i fyny â'r holl reolau hylendid a diogelwch bwyd
  • Dilyn gweithdrefnau llym bob amser

Beth fydd i’w ddisgwyl gennyf i?

Bydd disgwyl i chi weithio fel rhan effeithiol o dîm oherwydd gall delio ag anifeiliaid mawr a allai fod yn ofidus fod yn beryglus iawn.

Fel y gallech chi ddisgwyl, bydd yn rhaid i chi fod yn ffit yn gorfforol ar gyfer unrhyw swydd mewn lladd-dy.

Bydd disgwyl i chi arddangos lefelau uchel o les anifeiliaid yn y swydd hon.

Mae yna lawer o beiriannau mewn lladd-dy felly bydd disgwyl i chi fod yn gallu gweithredu'r rhain, ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi fel eich bod yn gallu gweithio'n ddiogel bob amser.

Am resymau amlwg, un o'r pethau mwyaf pwysig a fydd yn ddisgwyliedig gennych chi yw peidio â dioddef unrhyw ofid wrth ddelio â charcasau anifeiliaid – nid yw hwn yn le i bobl gwan eu cylla!

Beth alla i ddisgwyl?

Fel arfer byddwch chi'n gweithio 40 awr yr wythnos, ag oriau ychwanegol o oramser os bydd angen.

Efallai y bydd amodau y tu mewn i'r lladd-dy yn flêr, yn ddrewllyd ac yn oer ar adegau a bydd dillad addas cynnes ac amddiffynnol yn cael eu darparu ar gyfer eich gwaith.

Mae safonau uchel o hylendid yn cael eu cynnal bob amser fel na fydd unrhyw broblemau'n codi ag unrhyw gynnyrch rydych chi'n gyfrifol amdano.

Hefyd cewch eich synnu pa mor lân mae'r lle'n cael ei gadw!

Beth am y cyflog?

Fel hyfforddai byddwch chi'n ennill ychydig yn fwy na'r isafswm cyflog ond bydd hyn yn codi wrth i chi ennill profiad yn eich rôl a dod yn fwy effeithiol.

Hefyd efallai y byddwch chi'n gweithio i gwmni sy'n talu bonws.

Yn amlwg bydd y cyfraddau hyn yn newid ag amser felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yr holl fanylion cyn cymryd gwaith o'r math hwn.

Mae'r cyfraddau cyfartalog yn cychwyn oddeutu £12,000 gan godi i oddeutu £18,000 gyda sgiliau a phrofiad.

Sylwch fod y ffigyrau hyn wedi'u bwriadu i fod yn ganllaw fras yn unig.

Pa gymwysterau ydw i angen i gael i mewn?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch chi i gychwyn hyfforddi fel gweithiwr lladd-dy, ond nid yw hynny'n golygu na fydd rhai cyflogwyr yn gofyn am lwyddiannau TGAU fel isafswm.

Gyda mwy o gymwysterau i'ch enw pan fyddwch chi'n dechrau mewn cyflogaeth rydych chi llawer yn fwy tebygol o gael dyrchafiadau swydd a chodiadau cyflog.

Gallech chi ystyried prentisiaeth fel eich bod yn dysgu ac yn ennill cyflog ar yr un pryd.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed i ladd anifeiliaid.

Ble fuaswn i'n cael y cymwysterau hyn?

Bydd prentisiaethau'n cael eu cynnig trwy golegau AB a'ch cwmnïau cig lleol, a dylech wirio gyda'ch swyddfa swyddi a chyflogaeth leol i gael mwy o fanylion.

Beth am hyfforddiant pellach?

Bydd y rhan fwyaf o hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn eich cwrs cynefino ac yna yn y gwaith, ac mae'n debygol y byddwch chi'n ennill y rhan fwyaf o arbenigedd trwy ddysgu oddi wrth eich cydweithwyr mwy profiadol.

Os ydych chi'n ymgymryd â phrentisiaeth byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn dysgu yn y gwaith, ond byddwch chi hefyd yn treulio rhywfaint o amser yn yr ystafell dosbarth yn astudio nifer o bynciau defnyddiol a fydd yn eich helpu i fod yn well gweithiwr.

Mae cyrsiau Lles Anifeiliaid yn cael eu cynnig hefyd, a cheir nifer o ddarparwr ar gyfer y math hwn o hyfforddiant arbenigol.

Po fwyaf y cymwysterau allwch chi gael y gorau bydd eich siawns o gael dyrchafiad i arweinydd tîm neu oruchwylydd - mae hyn yn golygu y dylech chi ystyried astudio rhai cyrsiau mewn busnes a rheolaeth naill ai trwy'ch cyflogwyr neu yn eich amser eich hun yn y Coleg AB lleol neu trwy ddysgu o bell.

A oes unrhyw beth arall y dylwn i'w wybod?

Oes, mae yna lawer o wahanol rolau yn y lladd-dy cyn ac ar ôl y broses ladd ei hun.

Felly, gallech chi fod yn gysylltiedig â nifer o wahanol brosesau, gan ddibynnu ar y math o ladd-dy rydych chi'n gweithio ynddo.

Mae llawer o ladd-dai yn fawr ac yn arbenigo mewn math penodol o anifail.