English en
Technegydd Garddwriaethol

Beth yw’r swydd?

Fel Technegydd Garddwriaethol, byddwch yn tyfu a meithrin planhigion, llysiau, ffrwythau, coed, llwyni a blodau.

Efallai y byddwch yn gweithio mewn sefydliad addysg neu ymchwil neu’n gweithio i fenter fasnachol fel contractwr tirwedd neu arddwr marchnad.

Gallwch hefyd arbenigo mewn meysydd penodol o arddwriaeth fel dyfrhau, gwyddorau pridd neu hadau neu hyd yn oed weithio fel rhan o dîm mewn labordy.

Beth allaf fod yn ei wneud?

Mae yna amrywiaeth eang o dasgau y gallech fod yn eu gwneud, gan gynnwys:

  • Paratoi’r pridd ar gyfer plannu hadau
  • Tyfu planhigion gan ddefnyddio technegau gwahanol
  • Monitro a chynnal a chadw planhigion dan do a thu allan
  • Archebu planhigion ac offer
  • Cynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Archwilio rhywogaethau planhigion
  • Darparu cyngor ac arweiniad yn ôl yr angen
  • Cofnodi data perthnasol o samplau maes
  • Rheoli systemau dyfrhau
  • Dyfrhau a gwrteithio planhigion
  • Rheoli plâu a chlefydau planhigion
  • Ailgylchu deunydd gwastraff
  • Datrys problemau wrth iddynt godi er mwyn lleihau colled

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?

Bydd disgwyl i chi feddu ar wybodaeth ddigonol o wyddoniaeth a phlanhigion a’ch bod yn gweithio’n drefnus ac yn fanwl iawn, yn enwedig wrth gofnodi gwybodaeth; mae amynedd a dyfalbarhad hefyd yn ddisgwyliedig yn y swydd hon.

Bydd yn rhaid i chi fedru gweithio fel rhan o dîm yn ogystal â bod yn hapus i weithio ar eich pen eich hun ar adegau.

Yn amlwg, bydd disgwyl eich bod yn frwdfrydig dros feithrin planhigion, a gallai hynny olygu gweithio yn yr awyr agored mewn pob math o dywydd.

Beth alla i ddisgwyl?

Bydd yr oriau gwaith yn amrywio yn ôl natur y swydd ond byddwch fel arfer yn gweithio 40 awr yr wythnos, sy’n aml yn golygu gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau; efallai y byddwch yn gweithio oriau hir ar adegau penodol os ydych yn gwneud gwaith tymhorol.

Gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o waith a’r cyfle i ddatblygu arbenigedd mewn un neu’n fwy o feysydd arbenigol sydd bob amser yn helpu gyda rhagolygon gyrfa.

Beth am y cyflog?

Mae cyflogau’n amrywio’n fawr yn ôl y math o gyflogwr, lleoliad a natur benodol rôl y Technegydd Garddwriaethol. Serch hynny, gallech ddisgwyl y canlynol:

  • Cyflog cychwynnol rhwng £15,500 a £19,500
  • Gyda phrofiad, gallai hyn godi i £20,000 - £35,500
  • Gallai graddedigion ddechrau ar £21,000
  • Gallai rheolwyr profiadol ennill rhwng £30,000 a £40,000
  • Cofiwch mai canllawiau’n unig yw’r cyflogau hyn a dylech bob amser wirio’r cyflog eich hun!

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Er nad oes unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer y swydd, mae nifer o gyflogwyr yn dechrau pobl ifanc mewn Prentisiaeth; mae’n ffordd wych o ddechrau ac yn golygu y byddwch yn ennill cyflog wrth i chi ddysgu, ond dylech fod wedi cwblhau TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn llwyddiannus er mwyn gwneud eich hun yn fwy cyflogadwy.

Er enghraifft, gallwch ystyried Prentisiaeth lefel 2 mewn Garddwriaeth/Diploma mewn Garddwriaeth sy’n seiliedig ar waith, ac o hynny, gallwch weithio tuag at Dystysgrif Technegol Uwch mewn Garddwriaeth ar lefel 3.

Neu efallai y byddwch yn ystyried cwrs Garddwriaeth lefel 2 neu 3 gan ddibynnu ar eich graddau TGAU a p’un ai ydych chi am astudio’n llawn amser.

Ar y llaw arall, efallai eich bod am ystyried astudio gradd sy’n berthnasol i’ch gwaith; gall hyn fod yn arddwriaeth neu’n faes mwy arbenigol.

Ble gallaf ennill y cymwysterau hyn?

Mae nifer o golegau yn cynnig cyrsiau garddwriaeth fel y rheiny sydd wedi’u rhestru uchod, yn ogystal â nifer o gyrsiau eraill.

Dylech chwilio am fanylion yn eich ardal leol ond bydd rhywbeth at eich dant.

Mae cymwysterau hefyd ar gael trwy ddysgu o bell, sy’n ffordd wych o wella eich rhagolygon gyrfa wrth i chi weithio.

Beth am hyfforddiant pellach?

Mae yna nifer o gyrsiau y gallwch eu hastudio er mwyn gwella eich rhagolygon gyrfa; mae’r rhain yn cynnwys graddau sylfaen a graddau anrhydedd mewn Garddwriaeth; mae nifer o’r rhain yn cael eu cynnig ar y cyd, er enghraifft, gwyddor planhigion, busnes, cynllunio tirwedd, cynllunio gardd ac arbenigedd planhigion, a nifer o gymwysterau arbenigol gwahanol.

Does dim cyfyngiadau ac os oes gennych chi feddwl academaidd, yna mae cymwysterau ôl-radd ar gael hefyd.

Dylech hefyd feddwl am ymuno â’r corff proffesiynol ar gyfer gweithwyr Garddwriaeth proffesiynol, sef y Sefydliad Siartredig Garddwriaeth. Mae graddau gwahanol o aelodaeth ar gael ac mae gan y sefydliad wefan defnyddio iawn y gallwch ei ddefnyddio i chwilio am grantiau i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Oes, mae bob amser galw am Dechnegydd Garddwriaethol a gallwch ddechrau yn y diwydiant ar unrhyw lefel o TGAU i fyny; gyda phrofiad a chymwysterau pellach, gallwch fod yn arbenigwr dibynadwy neu hyd yn oed agor eich busnes eich hun o bosib.

Mae’n swydd wych os oes gennych ddiddordeb mewn planhigion ac nad ydych yn dioddef o alergeddau fel clefyd y gwair!