English en

BETH YW INTERNIAETH?

Mae interniaeth yn gyfle gwych i’ch plentyn gael profiad gwaith mewn maes sydd o ddiddordeb iddo ac sy’n cael ei gynnig gan gwmni am gyfnod estynedig.

Yn gyntaf, mae’n edrych yn wych ar CV eich plentyn os yw’n ennill profiad mewn maes sydd o ddiddordeb iddo; bydd hyn yn helpu’ch plentyn i sefyll allan ymysg ymgeiswyr eraill am swyddi yn y dyfodol.

Mae interniaeth yn gyfnod penodol o amser sy’n golygu bod eich plentyn yn medru cael blas o’r diwydiant yr hoffai weithio ynddo a gweld drosto’i hun a yw’n addas iddo trwy brofiad gwaith.

Mae’r profiad hynod werthfawr y mae interniaeth yn ei gynnig hefyd yn galluogi eich plentyn i ddatblygu ei sgiliau ac adeiladu arnynt, cael adborth sy’n medru helpu datblygu a gwella ei allu, a hyd yn oed troi rhai o’i wendidau’n gryfderau o bosib.

Yn olaf, mae interniaeth yn rhoi cyfle i’ch plentyn rwydweithio gyda phobl yn y diwydiant a chreu cysylltiadau gyda chyflogwyr a chyfoedion a allai ei helpu a’i arwain yn ei yrfa yn y dyfodol.