English en

BETH YW CYNLLUNIAU GRADDEDIGION?

Mae Cynllun Graddedigion yn debyg i brentisiaeth oni bai ei fod wedi cael ei deilwra gan gyflogwyr ar gyfer y graddedigion diweddaraf. Mae’n cyfuno gweithio i gyflogwr gyda hyfforddiant ac yn sicrhau bod graddedigion yn cael y profiad a’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i fod yn aelod staff gwerthfawr a dechrau gyrfa lewyrchus.

Mae hyd cynllun graddedigion yn amrywio’n sylweddol, o flwyddyn i bum mlynedd neu’n fwy.

BETH YW’R BROSES YMGEISIO?

Mae nifer o gynlluniau i raddedigion ar gael gan nifer amrywiol o gwmnïau. Bydd y rhai sy’n recriwtio yn aml yn dymuno gweld pam fyddai unigolyn yn addas ar gyfer eu cynllun penodol nhw, felly, mae’n bwysig addasu pob cais.

Mae hefyd yn bwysig cyflwyno cais mewn da bryd. Yn gyffredinol, mae cynlluniau graddedigion yn derbyn ceisiadau rhwng Hydref a Chwefror; ond, gallai hyn newid gyda phob cwmni.

Bydd y mwyafrif o gynlluniau graddedigion yn dechrau'r mis Medi canlynol.

SUT I GRYFHAU CAIS?

Er bod y mwyafrif o gyflogwyr am weld gradd 2:1 neu’n uwch, maen nhw’n dueddol o fod yn hyblyg ynglŷn â’r pwnc astudio.

Mae profiad blaenorol yn allweddol. Gall swyddi rhan amser mewn siop neu far gael eu defnyddio fel profiad gwerthfawr ar CV gan eu bod yn dangos proffesiynoldeb a sgiliau fel cadw trefn, gwaith tîm a gwasanaeth cwsmer.

Am gyngor pellach ar yrfaoedd, yn ogystal â channoedd o gynlluniau i raddedigion ac interniaethau, ewch i Milkround!