English en
Dr Eleri Thomas — Swyddog Gweithredol Polisi’r Dyfodol a Datblygu Prosiectau

Name: Dr Eleri Thomas
Job title: Swyddog Gweithredol Polisi’r Dyfodol a Datblygu Prosiectau
Employer: Hybu Cig Cymru
Qualification: Bioleg, Technoleg Bwyd, Daearyddiaeth Safon Uwch, BSc (Anrh.) Gwyddor Anifeiliaid, PhD
Disgrifiwch eich swydd mewn 20–25 gair

Mae gweithio i’r sector cig coch yn wych. Mae fy swydd yn cynnwys gweithio gyda’r ffermwyr, lladd-dai, archfarchnadoedd, cigyddion, y sector lletygarwch a’r cyhoedd. 

Sut ddaethoch chi i’r swydd hon?

Dwi’n dod o gefndir ffermio, ac roeddwn i eisiau gyrfa a oedd yn canolbwyntio ar fy nau angerdd: amaethyddiaeth a bwyd. 

Beth yw'r peth gorau am eich swydd?

Y peth gorau am y swydd hon yw fy mod i’n cael gweithio gyda phobl ddiddorol, wybodus sy'n frwd dros wella'r sector cig coch i bawb. Dwi'n gweithio ar brosiectau sy'n helpu i ehangu'r diwydiant. 

Ers pryd rydych chi wedi bod yn gwneud eich swydd?

Dwi wedi bod yn gweithio i HCC ers chwe blynedd ac mae’r amser wedi hedfan heibio. Mae'n wych gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau. 

Pe gallech chi roi rhywfaint o gyngor gyrfa i chi'ch hun yn 16 oed, beth fyddai hwnnw?

Mae'n iawn os nad wyt ti’n siŵr ble rwyt ti eisiau bod. Cer allan i weithio gwahanol swyddi ar y penwythnosau a darganfod beth rwyt ti’n ei fwynhau a beth rwyt ti’n ei wneud yn dda!