English en

BYDD GWNEUD Y PENDERFYNIADAU CYWIR AM ADDYSG A HYFFORDDIANT YN EFFEITHIO AR DDEWISIADAU GYRFA EICH PLENTYN YN Y DYFODOL.

Mae gennym ychydig o gyngor y gallai eich helpu i gefnogi eich plentyn wrth wneud ei ddewisiadau.​

  • Mae’n ddefnyddiol gwybod pa bynciau fydd eich mab neu ferch yn dewis ohonynt ym mlwyddyn 8 neu 9 ar gyfer astudiaethau blynyddoedd 10 ac 11. Mae gan fwyafrif o fyfyrwyr y DU bynciau gorfodol sy’n rhaid i bob myfyriwr eu hastudio e.e. Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth a Chymraeg yn ogystal â detholiad o bynciau y gallant eu dewis i’w hastudio neu beidio.
  • Gallai trafod dewisiadau gwahanol ar gyfer addysg uwch, fel prentisiaethau neu gynlluniau ar gyfer myfyrwyr sy’n gadael yr ysgol, agor drysau newydd llawn posibiliadau i’ch plentyn.
  • Manteisiwch ar wasanaeth y cynghorydd gyrfaoedd yn ysgol eich plentyn. Anogwch nhw i wneud apwyntiad neu gofynnwch a fedrwch chi wneud apwyntiad mewn noson rieni.
  • Siaradwch â’ch plentyn am yrfaoedd. Ceisiwch ganfod faint mae eich plentyn yn ei wybod am yr opsiynau sydd ar gael iddynt ac a ydynt yn ymwybodol o’r hyn sydd angen iddynt ei wneud er mwyn dilyn y llwybr hwnnw.
  • Gallai cwblhau prawf ar lein fod yn ffordd dda o ddechrau sgwrs am yrfaoedd ac ymchwilio i rai o’r canlyniadau.
  • Edrychwch ar ba ddiwrnodau agored neu ffeiriau gyrfaoedd sydd yn eich ardal chi. Gallai’r rhain fod yn ffordd dda o ymchwilio i’ch opsiynau a siarad â chynrychiolwyr o’r diwydiant am eu gyrfaoedd