English en

tg
Fel Datblygwr Systemau sy’n gweithio mewn cwmni bwyd, byddwch yn gyfrifol am wella systemau TG y cwmni ac ymgorffori technoleg newydd fel bo’r angen.
Golyga’r gwelliannau hyn ddiweddaru systemau TG presennol yn ogystal â chynhyrchu, gosod a gweithredu systemau cyfrifiadur newydd, rhwydweithiau a meddalwedd cysylltiedig.

Categori: TG
Mwy
Mae eich swydd fel Rheolwr Gwasanaethau TG yn golygu y byddwch yn arwain tîm TG eich cwmni (neu efallai uned neu safle busnes), felly mae hon yn rôl ar lefel uwch.
Byddwch yn cynllunio, datblygu a goruchwylio gwaith cynnal a chadw ar holl wasanaethau TG eich cwmni.
Mae’n swydd ragweithiol iawn a bydd angen i chi fedru adnabod problemau posibl cyn iddynt godi; os nad yw hyn yn bosibl yna eich cyfrifoldeb chi fydd rheoli rhaglen cywiro diffygion sy’n addas ac yn effeithiol.

Categori: TG
Mwy
Byddwch yn goruchwylio’r broses o gynllunio, datblygu a gosod systemau TG wedi’u diweddaru a systemau newydd sbon sy’n cwrdd ag anghenion y cwmni bwyd sy’n eich cyflogi.
Bydd angen i chi sicrhau bod popeth sy’n ymwneud â’ch prosiect TG yn cael ei gydlynu’n effeithiol ac yn rhedeg yn ôl yr amserlen a’r gyllideb.
Bydd y rôl yn addas ar gyfer person trefnus iawn sy’n mwynhau datrys problemau, ond wrth gwrs, mae gwybodaeth TG yn hanfodol.

Categori: TG
Mwy
Fel rheolwr rhwydwaith TG y cwmni, byddwch yn goruchwylio gwaith cynllunio, gosod a chynnal a chadw’r systemau TG.
Bydd angen i chi roi cynlluniau mewn lle ar gyfer trwsio systemau ac adfer rhaglenni mor gyflym â phosib er mwyn ymyrryd cyn lleied â phosib ar y busnes.
Byddwch yn rhan o dîm TG ac yn gweithio gydag amrywiaeth o reolwyr prosiectau a thechnegwyr.
Os oes gennych feddylfryd technegol, sgiliau TG da, a’ch bod yn mwynhau datrys problemau, gallai hon fod yn swydd ddelfrydol i chi.

Categori: TG
Mwy
Fel Technegydd TG byddwch yn gofalu am faterion meddalwedd a chaledwedd ar ran defnyddwyr cyfrifiaduron o fewn eich cwmni.

Byddwch yn canfod ac yn gwneud diagnosis o broblemau cyfrifiadurol, monitro systemau TG y cwmni, gosod offer, ac yn sicrhau bod popeth yn gweithio fel y dylai.

Categori: TG
Mwy