English en

Pob Categori
Fel prynwr dan hyfforddiant, byddwch yn gweithio gyda’r adran brynu ac yn adrodd yn ôl i’r Prynwr ac i staff uwch eraill.
Byddwch chi’n treulio llawer o’ch amser yn dod i ddeall y prosesau a ddefnyddir gan y cwmni fel eich bod yn deall anghenion eraill yn llwyr a dod yn ymwybodol o bwysigrwydd prynu i lwyddiant y busnes.
Er mwyn mireinio eich sgiliau, byddwch yn derbyn un neu fwy o gyfrifon nad ydynt yn hanfodol i’r busnes; bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu profiad defnyddiol. Byddwch hefyd yn ymwneud ag ymchwil i ganfod cynnyrch amgen a phrisio cystadleuwyr a fydd hefyd yn ehangu eich dealltwriaeth o rôl y prynwr.

Categori: Prynu
Mwy
Byddwch yn gyfrifol am gydlynu, arwain a rheoli gweithrediadau AD eich cwmni.
Byddwch hefyd yn datblygu holl bolisïau a gweithdrefnau personél eich cwmni ac yn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n gyson drwy’r sefydliad.
Fel Rheolwr AD bydd hefyd angen i chi fod yn gyfredol â deddfwriaeth a sut y gallai effeithio eich cwmni a chynghori uwch reolwyr yn unol â hynny.

Categori: Adnoddau Dynol
Mwy
Fel Rheolwr Amgylcheddol ym maes Gweithgynhyrchu Bwyd, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio perfformiad diogelu’r amgylchedd a chynhyrchu cynaliadwy eich cwmni.

Byddwch yn datblygu, gweithredu ac yn monitro holl strategaethau amgylcheddol y cwmni ac yn sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r cwmni bob amser yn cydymffurfio gyda chyfreithiau a gofynion deddfwriaethol cyfredol.

Categori: Iechyd a Diogelwch
Mwy
Fel rheolwr brand i gwmni bwyd, eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud argraff gadarnhaol a pharhaol ar gwsmeriaid gydag un neu’n fwy o gynnyrch y cwmni, a fydd yn arwain at gynnydd yn y gwerthiant.
Byddwch yn datblygu, gweithredu a goruchwylio strategaethau penodol sy’n cynyddu proffil y cynnyrch rydych yn gyfrifol amdanynt.
Pwrpas y swydd yw cynllunio a darparu’r neges briodol ar gyfer eich cynnyrch a rhoi’r strategaethau brand priodol ar waith, o’r dechrau i’r diwedd.

Categori: Marchnata
Mwy
Fel Rheolwr Categori, byddwch yn canolbwyntio ar reoli mwy nag un categori o gynnyrch bwyd.
Bydd hyn yn ymwneud â sicrhau bod digon o adnoddau mewn lle i wneud eich cynnyrch, cadw’r lefelau stoc cywir, a gweithio gyda’r adran gwerthu a marchnata i hyrwyddo prisiau sefydlog y cynnyrch.

Categori: Marchnata
Mwy
Fel rheolwr cyfrifon penodol ym maes gweithgynhyrchu bwyd, chi fydd wyneb eich cwmni yn aml gyda chwsmer penodol neu brif gyswllt ar gyfer math penodol o gynnyrch.
Gall eich cwsmeriaid gynnwys prynwyr o brif grwpiau archfarchnad, sefydliadau gwasanaeth bwyd neu grwpiau bwyty.

Categori: Gwerthiant
Mwy
Fel rheolwr ariannol mewn cwmni prosesu neu weithgynhyrchu, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth ariannol a dadansoddol, a defnyddio eich gwybodaeth i gynorthwyo gwerthiant a phroffidioldeb eich cyflogwr a sicrhau bod penderfyniadau pwysig yn ymwneud â materion ariannol yn effeithiol ac yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

Categori: Cyllid
Mwy
Yn eich rôl fel Rheolwr Safle Cynorthwyol ar Fferm Bysgod, byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Fferm Bysgod gyda’r holl waith o ddydd i ddydd ar y safle.
Bydd yna adegau hefyd pan fydd angen i chi ddirprwyo ar gyfer y Rheolwr Fferm Bysgod yn ôl yr angen.
Mae’n debygol iawn y bydd gennych chi nifer o flynyddoedd o brofiad o dechnegau ffermio pysgod a dealltwriaeth dda o hwsmonaeth pysgod.
Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys y broses gyfan, o fridio pysgod ifanc i gywain pysgod a’u dosbarthu i gwsmeriaid.

Categori: Dyframaeth
Mwy