English en

Pob Categori
Fel Maethegydd Anifeiliaid, eich swydd chi fydd sicrhau bod anghenion dietegol anifeiliaid yn cael eu cyflawni’n effeithiol; byddwch hefyd yn hybu lefel y wybodaeth am effeithiau diet ar les a chynhyrchiant anifeiliaid trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth ar y pwnc. Byddwch mwy na thebyg yn cael eich cyflogi yn y sector amaethyddol yn helpu ffermwyr i gynyddu proffidioldeb drwy helpu gwella’u dealltwriaeth o fuddion maeth da ar gyfer eu hanifeiliaid.
Efallai y byddwch hefyd yn gwneud gwaith ymchwil ar broblemau maeth neu efallai’n dewis arbenigo mewn un math o anifail.

Categori: Amaethyddiaeth
Mwy
Mae rôl marchnatwr manwerthu yn hanfodol i les ariannol unrhyw sefydliad gan ei fod yn penderfynu pa gynnyrch i’w brynu a’r ffordd orau i’w arddangos.
Bydd angen i chi wybod am gynnyrch sy’n newydd ar y farchnad, pa gynnyrch fydd cwsmeriaid yn ei hoffi ac, wrth gwrs, pa rai fydd yn gwneud elw i’ch cyflogwr a’i gadw ar y blaen.
Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud y penderfyniad terfynol ar y math o eitemau fydd yn cael eu prynu ar gyfer manwerthu ac yn gosod y cyfyngiadau i brynwyr y cwmni wrth gaffael yr eitemau hyn.
Mae nifer o farchnatwyr manwerthu yn arbenigo mewn un maes, fel bwyd neu ffasiwn, felly maen nhw’n dod yn arbenigwyr yn eu gwaith.

Categori: Manwerthu
Mwy
Fel Partner Busnes AD ar gyfer eich cwmni bwyd, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r uwch reolwyr i sicrhau bod pob agwedd o’r systemau a’r prosesau AD yn cefnogi nodau busnes strategol.

Categori: Adnoddau Dynol
Mwy
Mae Peirianwyr yn chwarae rôl hanfodol mewn gweithgynhyrchu bwyd, ac mae galw mawr amdanynt – gyda’r cymwysterau iawn, bydd gyrfa wych o’ch blaen. Gyda nifer o safleoedd yn gweithio bob awr o’r dydd a’r broses yn dod yn fwyfwy awtomatig, mae’r angen am gynnal a chadw offer a pheiriannau a’u cadw’n barod i’w defnyddio yn hanfodol ar gyfer cynhyrchiant.
Mae amrywiaeth eang o swyddi Peirianneg a Pheirianneg Cynnal a Chadw ar gael o fewn meysydd Mecanyddol a Thrydanol. Bydd mwyafrif y cwmniau gweithgynhyrchu a phrosesu yn cyflogi Peirianwyr Aml-Sgil yn ogystal â Pheirianwyr Awtomatiaeth/Trydanol mwy arbenigol.

Categori: Peirianneg
Mwy
Fel Cynlluniwr Cynhyrchu mewn cwmni bwyd, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y cynnyrch cywir yn cael eu gwneud mewn modd effeithlon ac i’r ansawdd gorau cyn eu cludo at gwsmeriaid.
Golyga hynny y byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl, o’r gwerthu hyd at y cynhyrchu er mwyn creu amserlen cynhyrchu addas.

Categori: Cadwyn Gyflenwi a Logisteg
Mwy
Bydd eich gwaith fel potelwr yn seiliedig ar weithredu’r peiriannau potelu a chi fydd yn gyfrifol am ran neu rannau o’r broses hon. Byddwch mwy na thebyg yn gweithio mewn ffatri bwyd neu ddiod ac yn weithiwr hyfforddedig medrus iawn. Chi fydd yn gyfrifol am wella eich rhan chi o’r broses potelu a sicrhau bod popeth yn gweithio’n esmwyth.

Categori: Gweithgareddau Cynhyrchu
Mwy
Mae rôl y prynwr yn ffactor allweddol sy’n effeithio ar lwyddiant unrhyw gwmni gweithgynhyrchu bwyd.
Fel prynwr, byddwch yn canolbwyntio ar ddod o hyd i a phrynu’r holl ddeunydd crai sy’n angenrheidiol ar gyfer cynhyrchiant llwyddiannus, a hynny am y pris gorau posibl ac yn unol â gofynion o ran ansawdd.

Categori: Prynu
Mwy
Byddwch chi, fel Prynwr Cynorthwyol, yn rhan allweddol o adran brynu eich cwmni ac fe fyddwch yn helpu gyda’r holl weithgareddau prynu.
Byddwch yn helpu’r prynwr i gaffael a phrynu’r holl ddeunydd crai sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchiant llwyddiannus am y pris gorau posib yn unol â’r gofynion ansawdd a byddwch yn debygol o ddelio â thalu anfonebau.

Byddwch yn ymchwilio’r marchnadoedd ar gyfer deunydd newydd o ansawdd gwell ar gyfer eich cwmni a gwneud argymhellion i’r prynwr.
Hefyd, bydd yn rhaid i chi weithio gyda’ch cydweithwyr cynhyrchu a chynllunio er mwyn sicrhau bod deunyddiau ar gael yn y niferoedd cywir ar yr adegau priodol.

Categori: Prynu
Mwy