English en

Pob Categori
Fel Datblygwr Systemau sy’n gweithio mewn cwmni bwyd, byddwch yn gyfrifol am wella systemau TG y cwmni ac ymgorffori technoleg newydd fel bo’r angen.
Golyga’r gwelliannau hyn ddiweddaru systemau TG presennol yn ogystal â chynhyrchu, gosod a gweithredu systemau cyfrifiadur newydd, rhwydweithiau a meddalwedd cysylltiedig.

Categori: TG
Mwy
Fel Dylunydd Deunydd Pacio, byddwch yn gyfrifol am greu pecynnau deniadol ac ymarferol ar gyfer cynnyrch bwyd a gynhyrchir gan eich cwmni.
Byddwch yn debygol o dreulio tua thraean i hanner eich amser yn dylunio’r pecynnau – a’r gweddill yn gweithio ar gostau cynhyrchu, cwrdd â’ch cydweithwyr i drafod eich gwaith a chwrdd â chwsmeriaid i fireinio’r hyn yr ydych yn ei ddylunio.
Bydd eich gallu i weithio fel rhan o dîm o fewn cwmni bwyd mawr a deall y busnes bwyd yr un mor bwysig â’ch gallu dylunio arbennig.

Categori: Deunydd Pacio
Mwy
Mae’r ffotograffydd bwyd yn tynnu lluniau o fwyd ar gyfer pecynnau, erthyglau mewn cylchgronau, llyfrau coginio a hysbysebion.
Mae’n rhaid i’r llun gyfleu arogl, gwead a blas y cynnyrch, ac mae’n cymryd lefel uchel o arbenigedd er mwyn cael hyn yn gywir bob tro.

Categori: Deunydd Pacio
Mwy
Mae gan y Gweinyddwr AD rôl sy’n cyfuno rôl AD a Gweinyddiaeth, ac mae’n gyfrifol dros ddarparu gwasanaeth gyflawn i weddill y tîm.
Byddwch yn gyfrifol am yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i AD gan gynnwys cadw ac adrodd ar gofnodion a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud hyd at safon uchel bob amser.
Golyga hyd eich bod yn cynnig rôl gefnogol i dîm o arbenigwyr gan eu rhyddhau nhw i dreulio cymaint o amser â phosib yn gwneud gweithgareddau uchel eu gwerth; felly mae rôl y Gweinyddwr AD yn un pwysig iawn.

Categori: Adnoddau Dynol
Mwy
Fel Gweithiwr Becws byddwch yn gweithio mewn ffatri bobi ar raddfa fawr sy’n cynhyrchu llawer o wahanol fathau o fara, cacennau a chynnyrch perthnasol arall.
Byddwch chi’n defnyddio peiriannau a llinellau cynhyrchu ar raddfa fawr i wneud swp mawr o gynnyrch a fydd wedyn yn cael eu gwerthu a’u dosbarthu i archfarchnadoedd, siopau a chwsmeriaid cyfanwerthu eraill.
Mae mwyafrif y bara yr ydym yn ei fwyta yn cael ei gynhyrchu mewn becws ar raddfa fawr.

Categori: Becws
Mwy
Fel gweithiwr fferm cyffredinol byddwch yn gwneud gwaith ymarferol ar ffermydd gydag anifeiliaid, tir âr neu ffermydd cymysg.

Categori: Amaethyddiaeth
Mwy
Fel gweithiwr lladd-dy byddwch chi'n rhan o dîm sy'n gyfrifol am reoli'r broses lladd da byw a pharatoi'r cig i'w werthu.
Mae’n swydd bwysig a chyfrifol iawn ac mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr holl anifeiliaid rydych chi'n gweithio â nhw'n cael eu trin a'u prosesu heb greulondeb.

Categori: Cigyddiaeth
Mwy
Fel aelod medrus o’r tîm gweithgynhyrchu bwyd, byddwch chi wrth wraidd cynhyrchu rhai o’r bwydydd enwog sy’n cael eu hysbysebu bob dydd ar y teledu.
Fel gweithiwr medrus, byddwch wedi derbyn hyfforddiant penodol a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich swydd i’r safon uchaf posib.
Yn y diwydiant bwyd, mae’r math o bobl fedrus angenrheidiol yn cynnwys cigyddion, pobyddion, technegwyr peiriannau, peirianwyr a gwneuthurwyr caws. Ond mae’r diwydiant mor amrywiol fel y gallwch fod yn cynhyrchu cacennau, iogwrt, bysedd pysgod, bariau siocled neu ddiodydd diet - yn wir, bron a bod unrhyw fwyd wedi ei bacio neu lapio allwch chi ei ddychmygu.
Byddwch chi’n gyfrifol am wella’r broses cynhyrchu a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn hwylus.

Mwy