English en

Pob Categori
Fel Crefftwr Pobi byddwch chi'n pobi amrywiaeth eang o fara, cacennau a chynnyrch popty gan gychwyn o ddim.
Mae'n debygol y byddwch chi'n gweithio i bopty bach annibynnol neu mewn cegin bwyty, ac efallai y byddwch chi'n arbenigo mewn pobi math penodol o fara neu gynnyrch hyd yn oed.
Yn ystod blynyddoedd diweddar cafwyd mwy o alw am gynnyrch gan grefftwyr ac mae hyn wedi arwain at adfywiad mewn sector a oedd yn dirywio, felly mae'r cyfleoedd yn cynyddu trwy'r amser.

Categori: Becws
Mwy
Fel cydlynydd marchnata a chyfathrebu byddwch yn gwella amlygrwydd a delwedd gyhoeddus eich cwmni trwy weithredu'r strategaeth gyfathrebu.
Byddwch yn defnyddio ystod o offer a sianeli cyfathrebu marchnata er mwyn darparu neges y busnes i’r cyhoedd yn uniongyrchol a thrwy’r cyfryngau.

Categori: Marchnata
Mwy
Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith cynnal a chadw dydd i ddydd o fewn y cwmni sy’n golygu trefnu i drwsio offer yn ogystal â chynllunio gwaith cynnal a chadw ataliol.
Chi fydd y cysylltiad rhwng y tîm cynnal a chadw a’r adran gynhyrchu a chi fydd yn trefnu contractwyr allanol os oes angen.

Categori: Peirianneg
Mwy
Fel Cydlynydd Dysgu a Datblygu yn gweithio mewn amgylchedd cynhyrchu bwyd, chi fydd yn gyfrifol am sicrhau fod pawb yn y cwmni, o’r staff ar frig y cwmni i staff y ffatri, yn cael eu hannog i wneud eu hunain mor ddefnyddiol â phosib i’r cwmni trwy ddysgu a datblygu.
Byddwch yn asesu lefel sgiliau a gwybodaeth y staff ar bob lefel o’r cwmni ac yn gweithredu yn ôl yr angen i gynnal a datblygu’r sgiliau hyn er budd y cyflogwr.
Byddwch yn gyfrifol am yr holl waith gweinyddol sy’n angenrheidiol i sicrhau bod yr holl raglenni hyfforddiant yn llwyddiannus.

Categori: Adnoddau Dynol
Mwy
Fel Cydlynydd Technegol, byddwch yn darparu cefnogaeth weinyddol i’r rheolwyr ac i staff adran dechnegol y cwmni bwyd a diod.

Byddwch yn sicrhau bod ochr dechnegol busnes y cwmni’n rhedeg yn ddi-drafferth, sy’n golygu gweithio gyda chydweithwyr ac adrannau eraill o fewn y busnes yn ogystal â chyflenwyr a chwsmeriaid.

Categori: Technegol Ac Ansawdd
Mwy
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn adran ariannol eich cwmni a byddwch yn cynorthwyo gyda chasglu a chadw cofnodion ariannol, prosesu anfonebau, ffurflenni treth, a pharatoi cyfrifon y cwmni.
Mae’n bosib y byddwch hefyd yn ymdrin ag arian parod a gweinyddiaeth yn eich swyddfa.

Categori: Cyllid
Mwy
Fel cynorthwyydd manwerthu i fusnes bwyd, mae’n bosib y cewch eich cyflogi gan archfarchnad neu siop lysiau mawr, efallai hyd yn oed siop fwyd arbenigol neu siop delicatessen; mae hyn yn golygu y gallai eich dyletswyddau amrywio.
Chi fydd y person cyswllt cyntaf i gwsmeriaid mewn nifer o achosion. Byddwch yn cynnig gwasanaeth effeithiol a chwrtais, p’un ai ydych chi’n llenwi silffoedd neu’n gweithio wrth y til.

Categori: Manwerthu
Mwy
Chi fydd arbenigwr eich cwmni o ran adnabod a datblygu technoleg a dyluniadau pecynnu newydd o’r syniadau cychwynnol hyd at ei gyflwyno’n ymarferol.
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o dechnolegau pecynnu amrywiol i sicrhau bod y pecynnau a ddatblygir gennych yn bodloni safonau trwyadl.

Categori: Deunydd Pacio
Mwy